Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis  Alun Davidson

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

 

Dydd Mawrth 

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:

 

  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Feirws y Tafod Glas (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig (45 munud) Tynnwyd yn ôl

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm.

 

Holodd Heledd Fychan a fyddai’r datganiad llafar ar gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn cael ei aildrefnu. Dywedodd y Trefnydd y bydd yn cael ei gynnal yn ystod tymor yr hydref.

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.15pm.

 

 

3.10

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Iechyd y Geg mewn Plant (45 munud)

·       Rheoliadau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (Eithriadau ac Amrywio Terfynau Gwariant Ymgyrch) (Cymru) 2025 (15 munud)

·       Cyfnod 3 y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) (180135 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 9 Gorffennaf 2025 -

·      Cynnig i nodi’r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024 – 25 (30 munud)

·      Dadl ar ddeiseb: P-06-1525 Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru (30 munud)

·      Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Yr Economi Sylfaenol (60 munud)

·      Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl fer: Janet Finch-Saunders AS (Aberconwy) (30 munud)

 

 

3.4

Dadleuon Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl ar 25 Mehefin 2025 a chytunwyd i amserlennu:

 

Adam Price AS

NNDM8884 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi bod enseffalomyelitis myalgig (ME) yn salwch cronig sy’n anablu ar bob lefel o ddifrifoldeb. 

2. Yn nodi bod 25%, o’r rhai sy'n dioddef o ME, yn cael eu categoreiddio gan NICE fel ‘difrifol: yn bennaf yn gaeth i’r gwely neu’r tŷ’, a ‘difrifol iawn: gyfan gwbl gaeth i’r gwely’, sy'n gofyn am ofal llawn amser ac, yn yr achosion mwyaf difrifol, gofal lliniarol a bwydo drwy diwb. 

3.Yn gresynu mai’r rhai sydd yn aml â'r lefelau uchaf o ddifrifoldebME sy'n cael y lleiaf o ofal a thriniaeth briodol. 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

a) ymateb i'r pryderon a godir yn Adroddiad y Crwner yn Lloegr, Prevention of Future Deaths, ac esbonio pa gamau ymarferol y bydd yn eu cymryd i sicrhau na fydd unrhyw glaf yng Nghymru fyth yn cael ei roi mewn amgylchiadau mor drasig â'r rhai a ddisgrifir yn yr adroddiad; 

b) sicrhau bod gwasanaethau ME a ariennir gan Adferiad yn gwneud darpariaeth sy’n briodol i anghenion cleifion sydd ag ME difrifol a difrifol iawn; 

c) dwyn ynghyd grŵp arbenigol o weithwyr iechyd proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw, ar lefel genedlaethol, i ddatblygu canllawiau a safonau ansawdd Cymru Gyfan ar ME, gan gynnwys ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol; 

d) gwneud penodi ymgynghorydd arbenigol Cymru gyfan ar gyfer cyflyrau cronig ôl-heintus - gan gynnwys ME a Covid hir - yn flaenoriaeth; 

e) gwella'r hyfforddiant ar ME ar gyfer gweithwyr proffesiynol, yn gyntaf yn y GIG, ond hefyd mewn gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion: yn benodol, codi ymwybyddiaeth o anghenion gofal oedolion a phlant sydd ag ME difrifol a difrifol iawn; ac 

f) sicrhau bod byrddau iechyd yn wirioneddol gyd-gynhyrchu eu gwasanaethau Adferiad ME a Covid hir, gan ystyried profiadau byw y rhai sy'n dioddef ar y lefelau mwyaf difrifol a'r rhai sy'n gofalu amdanynt. 

Maeve Boothby O'Neill: Adroddiad Prevention of Future Deaths 

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ar gyfer Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:

 

  • ymgynghori â’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu;
  • dychwelyd at fater yr amserlen ac a ddylid cyfeirio'r Bil at y Pwyllgor hwnnw er mwyn ystyried yr egwyddorion cyffredinol mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

4.2

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:

 

  • Cyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tanwydd Hedfan Cynaliadwy i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad terfynol o 26 Medi 2025 i gyflwyno adroddiad.
  • Cyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif 3) ar y Bil Lles Plant ac Ysgolion at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 19 Medi 2025 ar gyfer yr holl Femoranda ar y Bil.
  • Ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar yr holl Femoranda ar y Bil Hawliau Cyflogaeth i 11 Gorffennaf 2025.

 

Nododd y Trefnydd fod y Llywodraeth hefyd yn bwriadu cynnig estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) i ddyddiad yn nhymor yr hydref, gyda'r union ddyddiad i'w gytuno gan y Pwyllgor Busnes yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gofyn am gyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.46

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes fod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi ysgrifennu i ymgynghori â'r Llywydd o dan Reol Sefydlog 17.46 mewn perthynas â chynnal cyfarfod ddydd Llun 21 Gorffennaf 2025, yn ystod y toriad, pe bai'n ofynnol iddo ystyried ei ddull o graffu ar Fil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru).

 

 

5.2

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch tystiolaeth ddienw

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a bod Fforwm y Cadeiryddion wedi cytuno i ystyried materion sy'n ymwneud â darparu tystiolaeth ddienw fel rhan o Adolygiad o Effeithiolrwydd Pwyllgor y mae'n ei gynnal.