Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis Alun Davidson
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y bydd y datganiad ar Atal Afiechyd yn cael
ei gyhoeddi nawr fel datganiad ysgrifenedig a bydd Cwestiynau Llafar i
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddydd Mercher yn cael
eu hateb gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl
a Llesiant. Nododd y
Pwyllgor Busnes y newid canlynol i fusnes dydd Mawrth:
Dydd
Mercher
Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi cytuno i gais am bleidlais drwy
ddirprwy am resymau salwch hirdymor gan Rhianon Passmore AS. Bydd y trefniant
ar waith rhwng 10 Mehefin 2025 a 30 Medi 2025 a Jane Hutt AS fydd yn cynnal y
bleidlais drwy ddirprwy. |
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd
wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth
ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth 17 Mehefin 2025 · |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y
tair wythnos nesaf: Dydd
Mercher 2 Gorffennaf 2025 -
|
|
|
Dadleuon Agored: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Datganodd
Heledd Fychan AS fuddiant gan ei bod wedi cyflwyno un o'r cynigion i'w
ystyried. Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunodd i amserlennu’r
cynnig canlynol ar 18 Mehefin 2025: Heledd
Fychan: NNDM8914 Diwylliant a'r Celfyddydau - braf i'w cael neu'n allweddol i
ddyfodol Cymru? |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a chytunodd i:
|
|
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Opsiynau ar
gyfer craffu ar adroddiadau Ymchwiliad Covid y DU yn y dyfodol Rhoddodd y
Llywydd ddiweddariad i Reolwyr Busnes ar drafodaeth â Fforwm y Cadeiryddion
ynglŷn ag ystyriaeth y Pwyllgor Busnes o opsiynau y gwaith craffu ar
adroddiadau Ymchwiliad Covid y DU yn y dyfodol. Nododd hefyd ei bod wedi
ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
i ofyn i'r Pwyllgor ystyried arwain ar graffu ar adroddiadau Modiwl 1 a 2 Ymchwiliad Covid y DU. Bydd ymateb y Pwyllgor
yn cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Busnes i'w ystyried pan ddaw i law. Cynigiodd y
Llywydd efallai y byddai’r Pwyllgor Busnes am osod adroddiad byr yn cynnwys ei
ffordd arfaethedig o symud ymlaen ar ôl cytuno ar hyn, a chynnal dadl yn y
Cyfarfod Llawn ar gynnig i nodi'r adroddiad hwnnw ac adroddiad Pwyllgor Diben
Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ar ei ystyriaeth o Fodiwl 1 Ymchwiliad
Covid-19 y DU. |
PDF 190 KB