Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Meeting Room 4B, Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafodd yr
Aelodau eu croesawu i’r cyfarfod gan y Dirprwy Lywydd, a chafodd eitemau 3.1 a 3.3
eu cadeirio ganddo. Y Llywydd a gadeiriodd weddill y cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jane Dodds. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
Dydd
Mercher
Gofynnodd Heledd Fychan i'r
Llywodraeth wneud datganiadau llafar ar y materion canlynol:
Mewn ymateb, dywedodd y Trefnydd
fod y Llywodraeth yn ystyried gohebiaeth gan Rhun ap Iorwerth AS ynglŷn
â'r sefyllfa gyda Phont Menai ac y bydd yn rhoi ystyriaeth bellach i’r mater.
Nododd fod datganiad ysgrifenedig ar gytundeb masnach y DU-UE wedi'i gyhoeddi
ac y byddai'n ystyried y ceisiadau a wnaed. |
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
3 Mehefin 2025 - ·
Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol: Y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg (15 munud) Dydd Mawrth
10 Mehefin 2025 - · Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi
(Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025 (15 munud) |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair
wythnos nesaf: Dydd
Mercher 4 Mehefin 2025 -
Dydd
Mercher 11 Mehefin 2025 -
Cytunwyd i
drefnu’r eitemau a ganlyn hefyd ar Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair
wythnos nesaf: Dydd
Mercher 18 Mehefin 2025 - ·
Dadl ar
ddeiseb. P-06-1365 Ailagor llinellau rheilffyrdd i gysylltu gogledd a de Cymru
(30 munud) ·
Cynnig i
atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
|
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn gwneud cais am ddadl Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais gan y Pwyllgor
Deisebau i amserlennu dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ddeiseb P-06-1525 Diogelu cymeriad
unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yng
Nghymru cyn toriad yr haf. |
|
|
Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru: Trefniadau Cadeirio Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o
opsiynau mewn perthynas â Phwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru.
Cadarnhaodd Paul Davies y byddai grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ymwneud â chraffu
a gynhelir gan bwyllgorau pwnc eraill. Nododd y Trefnydd y byddai'r grŵp
Llafur yn fodlon i'r Pwyllgor barhau â'i waith pe gellid enwebu cyd-gadeirydd
newydd. Ailbwysleisiodd Heledd Fychan safbwynt grŵp Plaid Cymru, sef
canfod ffordd i’r Pwyllgor a’r gwaith craffu ar Ymchwiliad Covid y DU barhau yn
y Senedd, ond gan nodi nad oedd trefniadau cyd-gadeirio wedi gweithio ac na
fyddai'r grŵp yn fodlon enwebu cyd-gadeirydd ar y sail honno. Cynigiodd y Llywydd fod y Pwyllgor
Busnes yn ystyried gwahodd pwyllgorau perthnasol i archwilio'r adroddiadau a
gyhoeddwyd gan Ymchwiliad Covid y DU ar ddiwedd ei ystyriaeth o bob modiwl ac i
graffu ar y materion sy'n berthnasol i Gymru. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
ystyried cynnig yn ymwneud â hyn mewn cyfarfod dilynol. |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i:
|
|
|
Papurau ar faterion i'w hystyried yn sgil cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cydgrynhoi cyfraith gynllunio Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur
ar y goblygiadau i’r Senedd yn sgil cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Biliau
i gydgrynhoi'r gyfraith gynllunio. Roedd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog
Cyflawni yn bresennol i gyfrannu at drafodaeth ynghylch amserlenni arfaethedig
y Llywodraeth ar gyfer craffu ar y Biliau. Amlinellodd swyddogion Comisiwn y
Senedd y goblygiadau posibl a allai ddeillio o'r amser cyfyngedig a fydd ar
gael i graffu ar y Biliau gan bwyllgorau a'r Senedd yn y Cyfarfod Llawn. Yn
benodol, nodwyd na fyddai'r amserlen gyffredinol yn gallu darparu digon o amser
ar gyfer y Cam Ystyriaeth Gychwynnol a chaniatáu’r posibilrwydd o Gam Ystyried
Manwl y Senedd (pe bai'r pwyllgor cyfrifol yn argymell hynny i'r Senedd ). Roedd y Cwnsler Cyffredinol a'r
Gweinidog Cyflawni yn cydnabod y pryderon a godwyd ynglŷn â maint y Biliau
a'r amser sy'n weddill ar gyfer craffu a'u pasio drwy'r Senedd. Ailadroddodd
fod y Llywodraeth yn bwriadu darparu Biliau drafft i'r pwyllgor cyfrifol ar yr
adeg y maent yn cael eu hanfon at y Llywydd ar gyfer Penderfyniad ac y bydd
hi’n sicrhau ei bod hi a’i swyddogion ar gael i'r pwyllgor yn ôl yr angen drwy
gydol y Cam Ystyried Cychwynnol. Nododd y Cwnsler Cyffredinol fod
gan y Llywodraeth safbwynt gwahanol ar amserlen Cyfnod Manwl y Senedd, ac
amlinellodd ffordd o feddwl y Llywodraeth o ran y modd y gellid trin y cam(au)
diwygio ar gyfer dau Fil Cydgrynhoi cysylltiedig ond ar wahân. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i nodi
cyngor ar y weithdrefn ar gyfer craffu ar Filiau Cydgrynhoi ac y byddai
swyddogion Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd yn cyfarfod i drafod
ymhellach gynigion ar gyfer yr amserlenni ar gyfer y ddau Fil Cydgrynhoi. Yn benodol,
gofynnwyd i swyddogion ystyried cwestiynau ynghylch sut y dylid trin y cam(au)
diwygio mewn perthynas â'r ddau Fil cysylltiedig ond ar wahân. |
|
|
Blwyddyn Pump y Rhaglen Ddeddfwriaethol · Julie James AS, Cwnsler Cyffredinol a’r
Gweinidog Cyflawni · Nick Jones, Is-adran Ddeddfwriaeth,
Llywodraeth Cymru Cofnodion: Amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol
a'r Gweinidog Cyflawni gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer amserlenni o ran y
Biliau ym Mlwyddyn Pump y Rhaglen Ddeddfwriaethol, a nododd eto fod y
Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod fersiynau drafft o'r Biliau ar gael i
bwyllgorau pan fyddant yn cael eu darparu i'r Llywydd ar gyfer y cyfnod
Penderfyniad. Nododd y Pwyllgor Busnes gynigion
cyfredol y Llywodraeth a bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i ddarparu rhagor o
fanylion ar bob un cyn toriad yr haf i gynorthwyo'r pwyllgorau arweiniol i
gynllunio eu gwaith craffu. Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd
nifer o faterion mewn perthynas â phwyllgorau sydd â diddordeb mewn Biliau
gydag amserlenni sy'n gorgyffwrdd a chytunodd y bydd swyddogion Comisiwn y
Senedd yn llunio cyngor ar ddyrannu Biliau posibl i bwyllgorau presennol neu
ychwanegol cyn gofyn iddo gytuno ar amserlenni arfaethedig. |
|
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Lle Russell
George ar bwyllgor Nododd Paul
Davies y byddai'r Grŵp Ceidwadol yn fodlon cynnig un o'u lleoedd ar
bwyllgor i Russell George AS ac y byddai'n cysylltu â'r ysgrifenyddiaeth er
mwyn trefnu hyn. Diddymu
Pwyllgor y Biliau Diwygio a Phwyllgor Senedd y Dyfodol Nododd y
Pwyllgor Busnes fod gwaith Pwyllgor y Biliau Diwygio a Phwyllgor Senedd y
Dyfodol bellach wedi dod i ben. Diolchodd y Rheolwyr Busnes i'r Dirprwy Lywydd
am gadeirio'r ddau bwyllgor a chytunodd i gyflwyno cynigion i'r Senedd ar ôl yr
hanner tymor i gynnig diddymu'r pwyllgorau. |
PDF 209 KB