Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Meeting Room 4B, Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

Cymryd rhan yn y Pwyllgor Busnes

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai ei dealltwriaeth hi yw nad yw’r tri Aelod nad ydynt yn rhan o grwpiau gwleidyddol yn bwriadu ffurfio grŵp at ddibenion cynrychiolaeth ar y Pwyllgor Busnes. Nododd y Llywydd ei bod wedi cyhoeddi gwahoddiad o dan Reol Sefydlog 17.49 i Jane Dodds gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Busnes.

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

 

Dydd Mawrth 

Nododd y Trefnydd mai trafodion Cyfnod 3 ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yr wythnos diwethaf oedd y cyntaf i gael eu cynnal yn Gymraeg yn unig, a gofynnodd i hyn gael ei gydnabod cyn trafodion Cyfnod 4 yr wythnos hon.

O ystyried hyd byr disgwyliedig trafodion Cyfnod 3 ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru), dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes nad yw’n cynnig cymryd toriad rhwng y Cyfnod Pleidleisio a dechrau trafodion Cyfnod 3.

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn trafodion Cyfnod 3.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.30pm.

 

Dydd Mercher

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.15pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 20 Mai 2025

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (45 munud)

 

Dydd Mawrth 3 Mehefin 2025

·       Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) (60 munud)

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Camau Gweithredu 2025-26 i Wella Iechyd a Gofal (45 munud)i’w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig

 

Gofynnodd Heledd Fychan i'r Llywodraeth gyflwyno datganiadau llafar ar yr adroddiad diweddar ynghylch llawfeddygaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru; a chyflwr yr ystâd carchardai yng Nghymru. Cytunodd y Trefnydd i ystyried datganiadau ar y ddau fater.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd i ychwanegu’r eitemau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 11 Mehefin 2025 –

  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Yr economi werdd (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl fer: Llyr Gruffydd AS (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch amserlen y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol  (Cymru).

 

 

4.2

Amserlen ar gyfer Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith er mwyn trafod yr egwyddorion cyffredinol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ymgynghori â'r Pwyllgor ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ac i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Nododd y Trefnydd fod y Llywodraeth yn ystyried cais y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i'r Bil a'r deunyddiau cysylltiedig gael eu darparu i randdeiliaid penodol ar sail gyfrinachol, cyn iddo gael ei gyflwyno'n ffurfiol.

 

 

 

4.3

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud yr hyn a ganlyn:

 

  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau i gyflwyno adroddiad ar 20 Mehefin 2025.
  • cyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif 3) ar y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg ar gyfer craffu at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 19 Mai 2025. 
  • cyfeirio’r Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Cyflogaeth at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad i 20 Mehefin 2025.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Cymru ar Ymchwiliad Covid-19: Trefniadau cadeirio

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ymhellach ddyfodol Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru a chraffu ar benderfyniadau a wnaed yng Nghymru yn ystod y pandemig Covid.

Mynegodd y Trefnydd safbwynt y grŵp Llafur nad yw'n gredadwy ar hyn o bryd i'r Pwyllgor barhau heb gydbwysedd gwleidyddol. Nododd Heledd Fychan siom grŵp Plaid Cymru ynghylch y diffyg datrysiad i'r sefyllfa bresennol a'r angen i waith craffu barhau yn y Senedd, gan gynnwys mewn perthynas â'r bylchau y mae'r Pwyllgor wedi'u nodi hyd yma. Nododd y byddai Plaid Cymru yn fodlon parhau i gymryd rhan yn y Pwyllgor pe bai ei drefniadau cadeirio a'i aelodaeth yn cael eu diwygio. Cadarnhaodd Paul Davies fod grŵp y Ceidwadwyr yn credu y dylai fod ymchwiliad annibynnol i Gymru yn unig a nododd y byddent ond yn ailystyried cymryd rhan yn y Pwyllgor pe bai'n cael ei ganiatáu i fynnu i dystion gymryd llw neu gadarnhad.

Pwysleisiodd y Llywydd bwysigrwydd gwaith craffu parhaus gan y Senedd ar benderfyniadau a wnaed yn ystod y pandemig a gofynnodd i Reolwyr Busnes gyflwyno atebion posibl i'w hystyried yn y cyfarfod yr wythnos nesaf. Awgrymodd y Llywydd y gellid gwahodd un neu fwy o bwyllgorau i ystyried sut y gellid aildrefnu eu rhaglenni gwaith i'w galluogi i ymgymryd ag elfennau perthnasol o'r gwaith hwn a gofynnodd i Reolwyr Busnes drafod hyn gyda'u priod gadeiryddion pwyllgorau.

 

 

5.2

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Senedd y Dyfodol ynghylch ei adroddiad ar drefn busnes seneddol yn y Seithfed Senedd

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad a nododd yr argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol a chytunodd i drafod yr argymhellion hynny sy’n berthnasol i’r Pwyllgor Busnes fel rhan o’i raglen waith weithdrefnol yn ystod yr amser sy’n weddill o’r Chweched Senedd.

 

 

6.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Lle Russell George ar bwyllgor

Cynigiodd y Llywydd bod y Pwyllgor Busnes yn dychwelyd at drafodaeth ynghylch cynnig lle i Russell George ar bwyllgor yn y cyfarfod nesaf.