Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Meeting Room 4B, Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi ysgrifennu at y tri Aelod nad ydynt
yn aelodau o grwpiau gwleidyddol, er mwyn esbonio eu hawliau o dan Reol
Sefydlog 11.3 ynglŷn â chymryd rhan yn nhrafodion y Pwyllgor Busnes. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd toriad o 10 munud yn cael ei gymryd
rhwng y Cyfnod Pleidleisio a dechrau trafodion Cyfnod 3. Nododd y Llywydd y
byddai’n caniatáu toriad 10 munud arall yn ystod Cyfnod 3 pe bai’r Aelodau sy'n
arwain y trafodion hynny’n gofyn amdano. Dydd
Mercher Gofynnodd
Paul Davies i Gadeirydd newydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gael ei
enwebu’n aelod o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Felly, rhoddodd y
Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
|
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
13 Mai 2025 ·
Datganiad
gan y Prif Weinidog: Fframwaith Gwydnwch Cymru a’r Cynllun Cyflawni (45 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth
a Newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (45 munud) · Dydd Mawrth
20 Mai 2025 · Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Addysg: Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif (45 munud) · Datganiad gan y Gweinidog
Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Blaenoriaethau Diwylliant (45
munud) · · Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y
Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg (15 munud) |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd i
drefnu’r eitemau a ganlyn ar Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd
Mercher 4 Mehefin 2025 – ·
Dadl ar
ddeiseb P-06-1476: Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd
a phresennol (30 munud) ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Os yw’r
Gefnogaeth yn Gywir, Amdani! Mynd i’r afael â’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd (60
munud) ·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Dadl Fer:
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) (30 munud) |
|
|
Dadleuon Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunodd i amserlennu’r cynnig a ganlyn ar 14 Mai
2025: Luke
Fletcher NNDM8812 Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod diffodd tân yn gwneud
unigolion yn agored i elifion carsinogenaidd, gan gynnwys bensen a tholwen,
sy’n cynyddu'n sylweddol y cyfraddau marwolaethau ymhlith diffoddwyr tân o'u
cymharu â’r boblogaeth gyffredinol; b) gwaith Asiantaeth Ryngwladol
Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ymchwil ar Ganser a’i dosbarthiad o ganser
ymhlith diffoddwyr tân fel perygl galwedigaethol Grŵp 1; c) bod gwledydd megis yr Unol
Daleithiau, Canada ac Awstralia wedi cydnabod yn swyddogol y cysylltiad rhwng
dod i gysylltiad ag elifion gwenwynig a mwy o achosion o ganser; d) ymgyrch 'DECON' Undeb y Brigadau
Tân a’i hymdrechion hanfodol i helpu diffoddwyr tân i leihau eu cysylltiad
niweidiol â halogyddion. 2. Yn cydnabod canfyddiadau ymchwil
wyddonol dan arweiniad yr Athro Anna Stec yng Nghanolfan y Gwyddorau Tân a
Pheryglon, Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, a gomisiynwyd gan Undeb y
Brigadau Tân, sy’n datgelu bod diffoddwyr tân rhwng 35 a 39 oed a arolygwyd yn
wynebu cyfradd canser sy'n benodol i oedran hyd at 323 y cant yn uwch na
phoblogaeth gyffredinol yr un grŵp oedran. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) cydweithio ag Undeb y Brigadau
Tân, gwasanaethau tân ac achub, ac arbenigwyr blaenllaw ym maes tocsicoleg tân
i liniaru effeithiau elifion carsinogenaidd ar ddiffoddwyr tân yng
Nghymru; b) sefydlu rhaglen iechyd ataliol i
fonitro a chofnodi cysylltiadau ar gyfer pob diffoddwr tân yng Nghymru, gan
gynnwys profion sgrinio canser blynyddol fel safon ofynnol; c) alinio Cymru ag arferion gorau
rhyngwladol o ran diogelu iechyd diffoddwyr tân. |
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn gwneud cais i Aelodau'r Pwyllgor gael ymgymryd â busnes y pwyllgor yn Slofenia Cofnodion: Derbyniodd
y Pwyllgor Busnes y cais i aelodau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus fod yn absennol o fusnes y Cyfarfod Llawn ar 7 Mai i
ymgymryd â busnes y Pwyllgor yn Slofenia. |
|
|
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn gwneud cais am ddadl Cofnodion: Derbyniodd
y Pwyllgor Busnes gais i drefnu dadl yn y Cyfarfod Llawn ar P-06-1494 Llywodraeth
Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac
Awdurdodau Lleol. |
|
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
|
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch ei ymchwiliad i atebolrwydd Aelodau unigol o’r Senedd Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ei
adroddiadau diweddar ar adalw a thwyllo bwriadol yng nghyd-destun ei raglen
waith weithdrefnol am y cyfnod sy'n weddill yn nhymor y Senedd bresennol. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i aros am gynigion deddfwriaethol a gyflwynwyd gan Lywodraeth
Cymru a rhagor o gynigion manwl gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad mewn perthynas
ag argymhellion 8 a 9 yn ei adroddiad ar dwyllo bwriadol. |
|
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Pwyllgor
Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru: Trefniadau cadeirio Cododd y
Llywydd fater trefniadau cadeirio Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19
Cymru gyda Rheolwyr Busnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at y mater
yn y cyfarfod dilynol. |
PDF 192 KB