Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Meeting Room 4B, Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn: · Datganiad gan y Prif Weinidog: Bil
y Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig) (45 munud) · Datganiad gan y · Datganiad gan y Dirprwy Brif
Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
Strategaeth Bwyd Cymunedol (45 munud)
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.20pm. Mynegodd
Heledd Fychan y farn y byddai dadl ar y Bil Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig)
wedi bod yn well na datganiad. Ymatebodd y Trefnydd fod datganiad llafar yn
cael ei ystyried yn fwy priodol ar yr achlysur hwn. Gofynnodd
Heledd Fychan a fydd datganiad llafar yn cael ei gyflwyno i nodi deng mlynedd
ers sefydlu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cadarnhaodd y
Trefnydd y bydd datganiad llafar yn cael ei drefnu ym mis Mehefin. Dydd
Mercher Rhoddodd y
Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn: · Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd ( Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i’w hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd
Mercher i newid aelodau’r grŵp Ceidwadol ar y pwyllgorau a
ganlyn:
O dan eitem
6.1, trafododd y Pwyllgor Busnes swydd wag Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol a chytuno y dylid parhau i’w dyrannu i'r grŵp Ceidwadol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar ddechrau'r
Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, gyda phleidlais gudd i'w chynnal yn ystod y
cyfarfod os oes angen. O
ganlyniad, cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i agenda dydd Mercher:
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.15pm. Siambr
Hywel Gofynnodd y
Llywydd i Reolwyr Busnes sicrhau bod Aelodau eu grwpiau wedi ymgyfarwyddo â'r
canllawiau ar weithredu Cyfarfod Llawn a gynhelir yn Siambr Hywel, cyn y
cyfarfod y prynhawn yma. |
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
6 Mai 2025 · Datganiad gan y Gweinidog Iechyd
Meddwl a Llesiant: Y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant (45 munud) Ar gais y
Trefnydd, cytunodd y Rheolwyr Busnes i symud y Cwestiynau Llafar i Ysgrifennydd
y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg o 21 Mai i 4 Mehefin. O ganlyniad, bydd
Cwestiynau Llafar i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y
Trefnydd a'r Prif Chwip yn symud o 4 Mehefin i 21 Mai. |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd i
drefnu’r eitemau a ganlyn ar Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd
Mercher 21 Mai 2025 - ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Rôl, llywodraethiant ac
atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned (60 munud) ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a
Chysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol ar Gysylltiadau Rhyngwladol 2024
(60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Dadl Fer:
Mick Antoniw AS (Pontypridd) (30 munud) |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Amserlen ar gyfer y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu ar y Bil Dyrannu
Tai Cymdeithasol (Cymru) a chytunodd i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Llywodraeth
Leol a Thai i ystyried yr egwyddorion cyffredinol. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar yr
amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu, a dychwelyd at y mater mewn
cyfarfod yn y dyfodol. |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith at y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynghylch y dull o ystyried Bil yr Amgylchedd (Llywodraethu, Egwyddorion a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a'r cais y mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr
Amgylchedd a Seilwaith wedi'i wneud i Lywodraeth Cymru, cyn ei ystyriaeth ei
hun o'r amserlen ar gyfer Bil yr Amgylchedd (Llywodraethu, Egwyddorion a
Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cadarnhaodd
y Trefnydd y bydd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig yn ystyried y llythyr ac yn ymateb maes o law i’r
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. |
|
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd
i:
|
|
|
Cyllideb Atodol 2025-26 Llywodraeth Cymru |
|
|
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch dull cyhoeddi cyllidebau atodol yn ystod 2025-26 Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr. |
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Yr effaith pan fydd Aelod yn gadael grŵp gwleidyddol: cadeirio pwyllgor a chynrychiolaeth ar bwyllgorau Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes y goblygiadau sy'n deillio o atal Russell George dros dro o'r
grŵp Ceidwadol a chytunodd:
Nododd y
Pwyllgor Busnes hefyd y goblygiadau i gynrychiolaeth yr Aelodau hynny nad ydynt
yn aelodau o grwpiau gwleidyddol ar y Pwyllgor Busnes, sydd bellach yn codi o
dan Reol Sefydlog 11. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Llywydd yn
ysgrifennu at y tri Aelod o dan sylw, er mwyn esbonio eu hawliau o dan Reol
Sefydlog 11.3 ac y byddai'r Llywydd yn ystyried unrhyw farn a ddaw i law wrth
benderfynu ar unrhyw ffordd o weithredu yn y dyfodol. Nododd y
Pwyllgor Busnes hefyd y bydd gofyn iddo ystyried gofynion y Rheolau Sefydlog
sy'n ymwneud â ffurfio grwpiau gwleidyddol a chynrychiolaeth ar y Pwyllgor
Busnes, fel rhan o'i waith gweithdrefnol i adolygu'r trothwyon a gynhwysir yn y
Rheolau Sefydlog yng ngoleuni Diwygio'r Senedd. |
|
|
Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru: Trefniadau Cadeirio Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes opsiynau ar gyfer llenwi swyddi gwag cyd-gadeirydd ac aelodaeth
ar Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru. Nododd Paul
Davies fod safbwynt y grŵp Ceidwadol yn parhau i fod yn ddigyfnewid.
Dywedodd Heledd Fychan fod grŵp Plaid Cymru o blaid model un Cadeirydd ar
gyfer y Pwyllgor a dileu'r gofyniad iddo gael dau Gyd-gadeirydd. Dywedodd y
Trefnydd y byddai angen iddi roi ystyriaeth bellach i'r mater. Cytunodd y
Pwyllgor i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch ei adroddiad ar benodiadau cyhoeddus. Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes yr argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ei adroddiad ar benodiadau cyhoeddus a chytunodd i
ystyried ei ymateb fel rhan o'i ystyriaeth a fydd yn cael ei chynnal o'i raglen
waith weithdrefnol am y cyfnod sy'n weddill yn nhymor y Senedd bresennol. |
|
|
Rhaglen Waith Weithdrefnol y Pwyllgor Busnes: camau nesaf Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes ei Raglen Waith Weithdrefnol a chytunodd i gyfarfod mewn cyfres
o gyfarfodydd ychwanegol i ystyried materion gweithdrefnol, a bydd y cyntaf o'r
cyfarfodydd ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i flaenoriaethu'r gwaith
gweithdrefnol i'w gyflwyno yn yr amser sy'n weddill yn nhymor y Senedd hon. Cytunodd y
Pwyllgor y byddai'r ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno amserlen arfaethedig ar gyfer
y cyfarfodydd ychwanegol. |
PDF 197 KB