Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Meeting Room 4B
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.50pm. Dydd
Mercher Rhoddodd y
Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn: · ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.10pm. |
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
29 Ebrill 2025 · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Adroddiad y Grŵp Cynghori
Gweinidogol ar Berfformiad a Chynhyrchiant GIG Cymru (45 munud) · Datganiad gan y Gweinidog Addysg
Bellach ac Uwch: Addysg Ryngwladol (45 munud) Dydd Mawrth
6 Mai 2025 · Datganiad gan y Prif Weinidog:
Diwrnod VE (45 munud) · Cynnig i amrywio'r drefn o ystyried
gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau
(Cymru) (5 munud) Mynegodd
Heledd Fychan siom nad oedd y Llywodraeth wedi cyflwyno Datganiad Llafar ar
effaith Datganiad Gwanwyn Llywodraeth y DU ar Gymru a gofynnodd i'r Llywodraeth
ailystyried. Nododd y
Trefnydd fod Datganiad Ysgrifenedig wedi'i gyhoeddi a bod Cwestiynau fory i
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg. Cadarnhaodd y Trefnydd na
fyddai Datganiad Llafar yn cael ei wneud. |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd i
drefnu’r eitemau a ganlyn ar Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd
Mercher 30 Ebrill 2025 - ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad:
Ugeinfed adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 (15
munud) Dydd
Mercher 14 Mai 2025 - ·
Dadl
Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Deisebau: P-06-1482 Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol
yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol) (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Dadl Fer:
Heledd Fychan (Canol De Cymru) (30 munud) |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Amserlen ar gyfer y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu ar y Bil
Gwasanaethau Bysiau (Cymru). |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y cais ac y bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad yn gosod ei adroddiad ar y Bil ar 9 Ebrill. |
|
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd
i:
|
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynglŷn â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo. Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr. |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynglŷn â'r Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ar y Bil Llesiant Plant ac Ysgolion Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y llythyr a bod Llywodraeth Cymru wedi gosod Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar 24 Mawrth 2025. |
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn gwneud cais am slot ar gyfer dadl Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar P-06-1476: Clustogfa orfodol 1000 metr ar
gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol Datganodd
Heledd Fychan fuddiant gan ei bod wedi darparu tystiolaeth i'r Pwyllgor
Deisebau ar y ddeiseb. |
|
|
Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru Cofnodion: Yn dilyn
ymddiswyddiad Tom Giffard fel Cyd-gadeirydd a Sam Rowlands fel Aelod o Bwyllgor
Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru, gwahoddodd y Pwyllgor Busnes
grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i enwebu Cyd-gadeirydd newydd o fewn ei
aelodaeth, yn unol â Rheol Sefydlog 35.7. Cadarnhaodd Paul Davies na fyddai'r
grŵp Ceidwadol yn cyflwyno enwebai ar gyfer swydd wag Gyd-gadeirydd. Myfyriodd y
Llywydd ar bwysigrwydd sicrhau bod y Senedd yn gallu ymgysylltu ag Ymchwiliad
Covid y DU a faint o ymdrech ac adnoddau sydd wedi'u gwneud i gefnogi'r
Pwyllgor hyd yma. Trafododd y
Pwyllgor Busnes statws presennol y Pwyllgor yng ngoleuni absenoldeb
Cyd-gadeirydd a'r bwlch arall yn ei aelodaeth, ac opsiynau ar gyfer sicrhau bod
y Senedd yn ystyried penderfyniadau a wnaed yn ystod pandemig Covid-19 /
adroddiadau modiwl yr Ymchwiliad yn cael eu cynnal. Cytunodd y Rheolwyr Busnes
i drafod gyda'u grwpiau ac i roi adborth i'r Llywydd cyn gynted â phosibl. |
PDF 193 KB