Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Trefn
Busnes Busnes yr
Wythnos Hon Dydd Mawrth
Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn: ·
Cwestiynau
i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ( ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.35pm. Dydd
Mercher ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm. |
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd
wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
1 Ebrill 2025 ·
Datganiad
gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Strategaeth Atal Hunanladdiad a
Hunan-niweidio (45 munud) Dydd Mawrth
29 Ebrill 2025 ·
Datganiad
gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud) Gofynnodd
Heledd Fychan a yw'r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno Datganiad Llafar yr
wythnos nesaf ar effaith Datganiad Gwanwyn Llywodraeth y DU ar Gymru. Dywedodd
y Trefnydd y byddai'n ystyried hyn. |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd i
drefnu’r eitemau a ganlyn ar Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd
Mercher 7 Mai 2025 - ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Ymchwiliad dilynol i ddarparu
safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr (60 munud) ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Atal a
gwrthdroi colli natur erbyn 2030 (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Dadl fer
(30 munud) Nododd y
Llywydd y ddadl sydd ar ddod ar adroddiad cyntaf Pwyllgor Diben Arbennig
Ymchwiliad Covid-19 Cymru, sydd wedi'i threfnu ar gyfer 2 Ebrill. Dywedodd y
bydd, pe bai unrhyw welliannau yn cael eu cyflwyno i'r cynnig, yn penderfynu a
ddylid eu dethol i'w trafod o dan Reol Sefydlog 12.23(iii) yn seiliedig ar eu
cynnwys a'r cylch gwaith y cytunwyd arno i’r Pwyllgor. |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ynghylch amserlen y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes ymateb interim y Pwyllgor a chytunodd i ddychwelyd i ystyried yr
amserlen ymhellach yn y cyfarfod dilynol. |
|
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd
i:
|
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn gwneud cais am slot ar gyfer dadl Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu dadl ar ddeiseb P-06-1365. Ail-agor llinellau
rheilffordd i gysylltu gogledd a de Cymru, a nododd ddiweddariadau ar
ddeisebau eraill. |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gwneud cais am slot cyfarfod amgen Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gais gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
iddo gwrdd fore Mawrth 6 Mai 2025. |
|
|
Amserlen y Senedd |
|
|
Dyddiadau Toriadau Cofnodion: Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor yr hydref 2025 a
thoriad y Nadolig 2025, a chytunwyd ar ddyddiadau dros dro ar gyfer hanner
tymor y gwanwyn a’r Pasg yn 2026. |
|
|
Trefniadau Cyflwyno |
|
|
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Pasg Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn, cwestiynau
ysgrifenedig a gwelliannau i Filiau yn ystod toriad y Pasg, a newidiadau i
derfynau amser o ganlyniad i wyliau banc mis Mai. Unrhyw
fater arall Fformat
cyfarfodydd yn y dyfodol Trafododd
Rheolwyr Busnes fformat cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes yn y dyfodol a chytunodd
y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y cnawd o'r wythnos nesaf, gydag opsiwn
hybrid ar gael. Cyfeiriodd
y Llywydd at y nifer uchel o faterion gweithdrefnol sydd i'w hystyried gan y
Pwyllgor dros y 12 mis sy’n weddill o'r Senedd hon, a nododd y gallai fod angen
i'r Pwyllgor Busnes ystyried defnyddio slot cyfarfod amgen yn rheolaidd ar
gyfer gwaith gweithdrefnol. Darllenfa
Siambr Hywel Trafododd y
Pwyllgor Busnes y defnydd posibl ar gyfer ail ddarllenfa yn Siambr Hywel a
nododd y byddai'r Llywydd yn gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid bwrw ymlaen
ar ôl ystyried yr opsiynau a'r gost o ddarparu un. |
PDF 192 KB