Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

 

Dydd Mawrth

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.45pm.

 

Dydd Mercher

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:

 

·       Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 0 munud)

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 25 Mawrth 2025

 

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Y diweddaraf ar gynhwysiant digidol – cam nesaf (45 munud) – aildrefnwyd i 1 Ebrill

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Teithio i bawb (45 munud) - aildrefnwyd i 1 Ebrill

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Diwygio Diwylliant a Llywodraethu yn y Gwasanaeth Tân ac Achub (45 munud) – aildrefnwyd o 1 Ebrill

·       Dadl: Teithio i Ddysgwyr (60 munud) - aildrefnwyd o 1 Ebrill

·       Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025 (15 munud)

·       Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 (15 munud)

·       Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2025 (5 munud)

·       Dadl: Ystad y Goron (60 munud) - aildrefnwyd o 1 Ebrill

 

Nododd y Trefnydd fod y dadleuon ar Ystâd y Goron a Theithio i Ddysgwyr wedi cael eu symud ymlaen i 25 Mawrth i ddarparu ar gyfer y Datganiad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a datganiadau cysylltiedig, sydd wedi'u gohirio tan 1 Ebrill.

 

Nododd y Trefnydd hefyd fod trafodion Cyfnod 3 ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), y bwriadwyd eu cynnal ar 1 Ebrill, bellach wedi'u trefnu ar gyfer 6 Mai. Gwneir hyn er mwyn caniatáu amser i drafod ymhellach rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg a'r Aelodau ar y dull o ymdrin â gwelliannau cyfnod 3. 

 

Tynnodd y Llywydd sylw at y ffaith fod y dyddiad newydd yn dilyn yn syth ar ôl dydd Llun gŵyl y banc, a deallir hefyd mai dyma'r diwrnod y rhagwelir, ar hyn o bryd, y bydd trafodion Cyfnod 3 ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymu) (Cymru) yn cael eu hamserlennu.

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr effaith o ran terfynau amser cyflwyno gwelliannau a'r anawsterau ymarferol y gallai'r amserlennu arfaethedig eu hachosi i'r Aelodau, staff swyddfeydd grwpiau a staff y Comisiwn. Cytunodd y Trefnydd i ystyried y pwyntiau a godwyd a'r opsiynau ar gyfer amserlennu'r trafodion cyn i'r Pwyllgor Busnes ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod dilynol.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd i drefnu’r eitemau a ganlyn ar Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 2 Ebrill 2025 -

 

·      Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru: Dadl ar y bylchau a ganfuwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod y pandemig COVID-19 y dylid eu harchwilio ymhellach (60 munud)

·      Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Atebolrwydd Aelodau Unigol: Dichell fwriadol (60 munud)

·      Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·      Dadl Fer: Lesley Griffiths AS (Wrecsam) (30 munud)

 

 

3.4

Dadleuon Agored: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 19 Mawrth 2025: Carolyn Thomas: NNDM8839 A all ynni adnewyddadwy yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru? 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ar gyfer y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a chytunodd i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Newid Hinsawdd. yr Amgylchedd a Seilwaith i ystyried yr egwyddorion cyffredinol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

4.2

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:

 

  • nodi'r sefyllfa mewn perthynas â’r Bil Great British Energy a pheidio â gosod dyddiad terfynol i bwyllgorau gyflwyno adroddiad ar Femorandwm Atodol (Rhif 4), ar y Bil Great British Energy, ond nodi bod pwyllgorau'n parhau i allu adrodd i'r Senedd os ydynt yn dymuno; a
  • chyfeirio'r Memorandwm Atodol ar y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau i gyflwyno adroddiad ar 2 Mai 2025 ar gyfer yr holl femoranda ar y Bil.

 

 

4.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

 

5.

Gwaith Gweithdrefnol

5.1

Trafod adroddiad Pwyllgor Senedd y Dyfodol: ‘Adolygiad o’r Trothwyon yn y Rheolau Sefydlog’

 

·       Papur eglurhaol

·       Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Senedd y Dyfodol

·       Adroddiad ar Adolygid o'r Trothwyon yn y Rheolau Sefydlog

 

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes adroddiad Pwyllgor Senedd y Dyfodol: Adolygiad o’r Trothwyon yn y Rheolau Sefydlog a'i argymhellion, a chytunodd i:

 

  • ystyried cyngor, yn ystod tymor yr haf, ar lefel y trothwy yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer ffurfio grwpiau gwleidyddol (a materion perthnasol) cyn y Seithfed Senedd;
  • ystyried cyngor, yn ystod tymor yr haf, ar newidiadau posibl i'r broses enwebu ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau ochr yn ochr â newidiadau posibl eraill i'r broses honno a allai godi o gyflwyno’r bwriad i rannu swydd cadeiryddion pwyllgorau, a dychwelyd at waith pellach ar rannu swydd yn dilyn hyn; a
  • dychwelyd yn ddiweddarach at ystyried cynigion terfynol yn ymwneud â'r argymhellion sy'n weddill.

 

Unrhyw Fater Arall

 

Cyfarfod y Pwyllgor Busnes – 18 Mawrth

 

Trafododd y Llywydd gyfarfod y Pwyllgor ar 18 Mawrth. Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gynnig i'r cyfarfod gael ei gynnal wyneb yn wyneb ac ymgorffori ymweliad â Siambr Hywel, cyn i'r Cyfarfod Llawn symud yno ar ôl toriad y Pasg er mwyn galluogi gwaith ehangu i gael ei wneud ar Siambr y Senedd.