Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Dirprwy Lywydd yr
Aelodau i'r cyfarfod a chadeirio eitemau 1-5.1. Cadeiriodd y Llywydd eitemau
5.2 a 5.3. Ni chafwyd dim ymddiheuriadau. |
||
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
||
(09:00 - 09:30) |
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. ·
Nid yw'r Cyfarfod
Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.45pm. Dywedodd y
Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y Llywydd yn bwriadu talu teyrnged
i'r cyn-Aelod Alison Halford a chynnig cydymdeimlad ar ran y Senedd ar
ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw. Dydd
Mercher ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm. Dywedodd y
Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod dehongliad byw o Iaith Arwyddion
Prydain (BSL) wedi’i drefnu ar gyfer Dadl yr Aelodau Mark Isherwood ddydd
Mercher. |
||
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
11 Mawrth 2025
·
Dadl:
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod – cyflymu gweithredu (60 munud) Dydd Mawrth
18 Mawrth 2025 ·
Gofynnodd
Heledd Fychan pryd y byddai dadleuon ar Ystâd y Goron a'r Mesur Teithio i
Ddysgwyr yn digwydd, yn dilyn ymrwymiadau blaenorol a wnaed gan y Llywodraeth.
Cadarnhaodd y Trefnydd y bydd y ddwy ddadl yn cael eu trefnu ar gyfer dydd
Mawrth 1 Ebrill. |
||
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd i
ychwanegu’r eitemau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd
Mercher 26 Mawrth 2025 – ·
Dadl ar
Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) Aildrefnwyd o 12 Mawrth ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a
Chysylltiadau Rhyngwladol - Degawd o doriadau: Effaith gostyngiadau cyllid ar
ddiwylliant a chwaraeon (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Dadl Fer:
Heledd Fychan AS (Canol De Cymru) (30 munud) Gofynnodd y
Dirprwy Lywydd i Reolwyr Busnes atgoffa Aelodau eu grwpiau mai'r dyddiad cau ar
gyfer cyflwyno'r cynigion cyntaf ar gyfer pynciau Dadl Agored yw dydd Iau 6
Mawrth. |
||
|
Pwyllgorau |
||
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch argymhellion yn ei adroddiad ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes ddau argymhelliad
iddo ystyried cynnal adolygiadau gweithdrefnol a wnaed gan y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ei adroddiad ar Egwyddorion
Cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymu) (Cymru). Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymateb i'r
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i nodi y bydd yn rhoi
ystyriaeth bellach i'r cynigion wrth ystyried blaenoriaethau ei raglen waith
weithdrefnol ar gyfer gweddill y Chweched Senedd yn gynnar yn nhymor yr Haf. |
||
|
Deddfwriaeth |
||
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ynghylch cydgrynhoi cyfraith gynllunio Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth
bellach gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y
Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni ynghylch yr amserlenni ar gyfer
Biliau arfaethedig i gydgrynhoi cyfraith gynllunio, cyn ei drafodaeth ei hun
â'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni a gynhelir yn ddiweddarach yn yr
un cyfarfod. |
||
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a:
Cydnabu'r
Trefnydd eto y sefyllfa annerbyniol y mae hyn yn rhoi’r Senedd ynddi ac y bydd
y Llywodraeth yn parhau i gyfeirio at bwysigrwydd y broses gydsynio
deddfwriaethol fel ffactor i Lywodraeth y DU fod yn ymwybodol ohono wrth
amserlennu ei deddfwriaeth. |
||
(09:30 - 10:00) |
Sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni ynghylch rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru · Julie James AS, Cwnsler Cyffredinol a’r
Gweinidog Cyflawni, Llywodraeth Cymru · Charlie Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr,
Is-adran Ddeddfwriaeth, Llywodraeth Cymru Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Busnes friff gan
y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni ar gynnig gan y Llywodraeth i
addasu'r broses cyn cyflwyno ar gyfer Biliau. Amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol
mai nod y newid fyddai cynorthwyo pwyllgorau'r Senedd yn eu hystyriaethau a
helpu'r Pwyllgor Busnes i benderfynu ar amserlenni ar gyfer Biliau’r
Llywodraeth a gyflwynir ym mlwyddyn olaf y rhaglen ddeddfwriaethol. Holodd y Rheolwyr Busnes y Cwnsler
Cyffredinol am y dull arfaethedig a nododd y byddai briff pellach ar oblygiadau
posibl yn cael ei ddarparu mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
PDF 210 KB