Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

 

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Jane Dodds

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai’n ateb Cwestiynau Llafar yn lle’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni heddiw oherwydd salwch. Nododd y Trefnydd hefyd y newidiadau a ganlyn i’r agenda heddiw:

 

·       Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Iechyd a lles anifeiliaid (45 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: EURO Menywod UEFA 2025 (45 munud) Datganiad Ysgrifenedig

 

Gofynnodd Heledd Fychan pam nad oedd y datganiad ar EURO Menywod UEFA 2025 yn cael ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn absenoldeb y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Nododd y Trefnydd ei bod wedi nodi’r pwynt a wnaed.

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm.

 

Dydd Mercher

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:

 

·       Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Plant sydd ar yr ymylon (60 munud) Gohiriwyd tan 12 Mawrth

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.10pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 11 Mawrth 2025

·       Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025 (15 munud)

 

Cynigiodd y Trefnydd gyfnewid y Cwestiynau Llafar i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am y cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, sydd i’w cynnal ar 26 Mawrth a 2 Ebrill yn y drefn honno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes â’r cynnig.

 

Gofynnodd Heledd Fychan a yw’r Trefnydd wedi ystyried datganiad llafar ar ddiwygiadau pensiwn Llywodraeth y DU a’r goblygiadau i Gymru. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried y cais.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd i ychwanegu’r eitemau a ganlyn i Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 12 Mawrth 2025 –

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) Symudwyd i 26 Mawrth
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Plant sydd ar yr ymylon (60 munud) Aildrefnwyd o 19 Chwefror

 

Dydd Mercher 19 Mawrth 2025 –

  • Trafodaeth agored (120 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

3.4

Llythyr oddi wrth Luke Fletcher AS ynghylch NNDM8829 - dadl ar Fil Ystad y Goron

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes gais gan Luke Fletcher AS i neilltuo amser i ddadl ar NNDM8829 ynghylch Bil Ystad y Goron. Dywedodd y Trefnydd nad yw’r Llywodraeth yn cytuno bod angen dadl ar frys cyn toriad Hanner Tymor, o gofio bod y Bil wedi’i gyflwyno yn San Steffan ym mis Gorffennaf 2024. Nododd safbwynt Llywodraeth Cymru y dylai Ystad y Goron gael ei datganoli i Gymru ac y byddai’r Llywodraeth yn barod i gyflwyno cynnig ar Ystad y Goron o fewn amser y llywodraeth yn ddiweddarach

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a:

 

  • chytunwyd i gyfeirio’r Memorandwm ar Fil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad yw 2 Mai 2025.
  • cytunwyd i estyn y dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar bob Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Cyflogaeth a’r Bil Data (Defnydd a Mynediad) hyd at 28 Mawrth 2025.
  • nodwyd y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Atodol ar Fil Ynni Prydain Fawr yn dilyn gwelliannau a gyflwynir yn ystod Cyfnod Adrodd Tŷ’r Arglwyddi, ond cytunwyd i beidio â phennu dyddiad cau i’r pwyllgorau gyflwyno adroddiad oherwydd cyfnod hwyr proses Senedd y DU ar y Bil.
  • nodwyd y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Atodol arall (Rhif 7) ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) a nodwyd hefyd ohebiaeth ychwanegol oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gofyn am gyfle i gynnal dadl ar Femorandwm Atodol (Rhif 6). Cefnogodd Heledd Fychan a Paul Davies gais y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i’r Llywodraeth gyflwyno cynnig am ddadl ar y Memorandwm hwnnw. Dywedodd y Trefnydd y byddai’n trafod y cais â’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ac y byddai’n rhoi gwybod i’r Rheolwyr Busnes am ei phenderfyniad mewn perthynas â threfnu dadl y prynhawn yma. Ni fyddai dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar Femorandwm Atodol (Rhif 7) yn cael ei bennu yn y cyfamser.

 

Nododd y Trefnydd y sefyllfa annymunol y mae hyn yn rhoi’r Senedd ynddi gan ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i godi pwysigrwydd y broses cydsynio deddfwriaethol fel ffactor i Lywodraeth y DU fod yn ymwybodol ohono wrth lunio amserlenni ar gyfer ei deddfwriaeth.

 

 

 

4.2

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ynghylch Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025 at y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu, ac i ofyn i’r pwyllgorau gyflwyno adroddiad erbyn 10 Mawrth 2025, os ydynt yn dymuno gwneud hynny, cyn dadl yn y Senedd ar y Rheoliadau ar 11 Mawrth 2025.    

 

 

 

5.

Gwaith Gweithdrefnol

5.1

Gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar newidiadau posibl i’r Rheolau Sefydlog ynghylch gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan.

 

Dywedodd y Trefnydd nad yw Llywodraeth Cymru o’r farn bod angen newid y Rheolau Sefydlog ar hyn o bryd, yng ngoleuni adolygiad statudol o’r Ddeddf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried newidiadau posibl i’r Rheolau Sefydlog ymhellach yn dilyn adolygiad Llywodraeth y DU a’i adolygiadau ei hun o’r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod.

 

 

6.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Sesiwn gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni yn mynd i gyfarfod y Pwyllgor Busnes ar 4 Mawrth i drafod pumed flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.