Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon: Dydd Mawrth ·
Teyrngedau
i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ·
Datganiad
gan ·
·
Ni fydd
cyfnod pleidleisio. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm. Teyrngedau
i Dafydd Elis-Thomas Cadarnhaodd
y Llywydd y trefniadau i deyrngedau gael eu rhoi i Dafydd Elis-Thomas ar
ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw. Bydd hi'n gwahodd y Senedd i gynnal munud o
dawelwch cyn galw ar y Prif Weinidog ac arweinwyr y pleidiau i roi teyrngedau
ar ran eu grwpiau, ac yna Aelodau eraill. Dydd
Mercher ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm. |
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiad a ganlyn i amserlen busnes
y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
18 Chwefror 2025 ·
|
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd i
ychwanegu’r eitemau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf:
|
|
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 |
|
|
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ynghylch amserlen y Gyllideb Cofnodion: Dywedodd y
Trefnydd y bydd Llywodraeth Cymru yn dod â dyddiad cyhoeddi'r Gyllideb Flynyddol
ymlaen i 20 Chwefror 2025, ond y byddai'r dyddiad ar gyfer y ddadl ar y
Gyllideb Derfynol yn aros yr un fath, sef dydd Mawrth 4 Mawrth. Trafododd y
Pwyllgor Busnes hyn a chytunodd i ddiwygio’r amserlen ar gyfer Cyllideb
Llywodraeth Cymru 2025-26 yn unol â hynny. |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Gohebiaeth rhwng y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch cydgrynhoi cyfraith cynllunio. · Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad – 23 Ionawr 2025 · Ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a’r
Gweinidog Cyflawni – 4 Chwefror 2025 Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ohebiaeth rhwng y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni a Chadeirydd
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch bwriad
Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i gydgrynhoi cyfraith cynllunio.
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyrau a gofynnodd, pe bai Llywodraeth Cymru yn
dymuno cynnig unrhyw ddulliau gweithdrefnol newydd posibl o graffu ar y ddau
Fil, dylid eu codi gyda'r Pwyllgor Busnes i'w hystyried cyn gynted â phosibl. |
|
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Y wybodaeth
ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a drafodwyd ochr yn ochr ag
eitem 5.3 |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd Meddwl Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad a’r wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
gan y Llywodraeth a chytunwyd i wneud yr hyn a ganlyn:
|
|
|
Casglu ynghyd ganllawiau a gyhoeddir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17 |
|
|
Ychwanegiadau drafft i’r Canllawiau ar gynnal busnes y Senedd yn briodol: Dadleuon Agored Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y canllawiau i’w cyhoeddi a
chytunodd arnynt. |
|
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Cododd y
Trefnydd fater yn ymwneud â diogelwch Aelodau. |
PDF 211 KB