Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal
fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.15pm. Dydd
Mercher Rhoddodd y
Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn: · Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd ( ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.05pm. Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi cytuno i gais am bleidlais drwy
ddirprwy gan Lesley Griffiths, i’w chyflawni gan Jane Hutt, ar gyfer y cyfnod
rhwng 3 Chwefror a 3 Mawrth 2025. Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd Paul Davies yn gofyn cwestiynau Arweinwyr
y Pleidiau yn ystod y Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw ar ran Darren
Millar. |
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes nad oes unrhyw newidiadau i amserlen Busnes
y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd i ychwanegu’r
eitemau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd
Mercher 5 Mawrth 2025 – ·
Dadl
Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Dadl fer:
Hannah Blythyn AS (Delyn) (30 munud) |
|
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y
cynigion arfaethedig ar gyfer dadl. Mynegodd Heledd Fychan ei chefnogaeth i
amserlennu cynnig gan Sioned Williams ar y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes drwy fwyafrif i amserlennu’r cynigion canlynol i’w
trafod: 12 Chwefror Jenny Rathbone NNDM8814 Cynnig bod
y Senedd: 1. Yn
nodi: a) er
gwaethaf y digonedd o fwyd o safon a gynhyrchir gan ffermwyr Cymru, mae
goruchafiaeth bwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn ein diet yn arwain at
ganlyniadau dinistriol i iechyd, cyfoeth a llesiant ein cenedl; b) bod
mynediad at fwyd fforddiadwy ac iach yn fater cyfiawnder cymdeithasol, gyda
chymunedau tlotach yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan afiechydon sy'n
gysylltiedig â diet; c) bod
cynhyrchiant Cymru o 20,000 tunnell o ffrwythau a llysiau y flwyddyn ond yn
cyfateb i chwarter dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd fesul person; d) y gall
ehangu cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy helpu i leihau milltiroedd bwyd, gwella
diogelwch bwyd, a chreu swyddi gwyrdd yng Nghymru; ac e) bod
pontio i fod yn genedl fwyd gynaliadwy yn gofyn am ddull cydgysylltiedig,
cydweithredol ac ataliol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a) datblygu
strategaeth llywodraeth gyfannol a chydgysylltiedig i wella diet pobl; b) hyrwyddo
manteision bwyd ffres, heb ei brosesu i annog newidiadau dietegol a mynd i'r
afael â goruchafiaeth bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth; c)
defnyddio'r buddsoddiad sydd i'w groesawu mewn partneriaethau bwyd lleol i ddod
â thyfwyr, arlwywyr a bwytawyr at ei gilydd i ehangu garddwriaeth yng
Nghymru; d)
cyflymu'r gwaith o lunio strategaeth fwyd gymunedol o fewn y Chweched Senedd;
ac e)
defnyddio pŵer caffael cyhoeddus i wella'r bwyd a weinir i ddisgyblion,
cleifion a phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. 5 Mawrth Mark Isherwood NNDM8734 Cynnig bod y Senedd 1. Yn nodi: a) yr angen i ddarparwyr
gwasanaethau ddiwallu anghenion y gymuned fyddar; b) bod pobl sy’n
byw â cholled clyw yn wynebu anfantais difrifol o gymharu â phobl nad
yw hynny’n effeithio ar eu clyw; c) mai Iaith Arwyddion Prydain
(BSL) yw’r dull cyfathrebu a ffefrir gan lawer o bobl fyddar; a d) pryder ynghylch penderfyniad
Cymwysterau Cymru i beidio â bwrw ymlaen â chymhwyster TGAU iaith
arwyddion. 2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru: a) i sicrhau bod y tasglu hawliau
pobl anabl yn mynd ati’n benodol i nodi’r materion a’r rhwystrau sy’n effeithio
ar fywydau pobl fyddar; a b) i ymwneud
yn fwy â’r gymuned fyddar i ganfod beth yw eu hanghenion. |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y diweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a, fel y
trafodwyd yn ei gyfarfod blaenorol, nododd bod Memorandwm Atodol arall (Rhif 6)
bellach wedi cael ei osod ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) yn dilyn
gwelliannau a wnaed i’r Bil yng Nghyfnod Adrodd Tŷ’r Cyffredin. Gan nad
yw’r amserlen ar gyfer craffu ar y Bil yn Senedd y DU yn caniatáu ar gyfer
ystyried barn y Senedd ar gydsyniad ar gyfer y gwelliannau diweddaraf, roedd y
Pwyllgor Busnes wedi cytuno’n flaenorol i beidio â chyfeirio’r Memorandwm
Atodol (Rhif 6) ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) i bwyllgorau ar gyfer
craffu, ond nododd bod pwyllgorau'n parhau i allu trafod a chyflwyno adroddiad
ar y Memorandwm Atodol pe baent yn dewis hynny. |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynghylch y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig). Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes y llythyr. |
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Llythyr gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ynghylch Rheol Sefydlog Dros Dro 35 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes
ohebiaeth gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ynghylch newid
posibl i Reol Sefydlog 35, sy’n gysylltiedig â’r Pwyllgor hwnnw, ynghylch llwon
a chadarnhadau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
ysgrifennu yn ôl at Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru i ofyn am
eglurhad ar yr union gais ac i ddychwelyd i ystyried y mater ymhellach unwaith
y bydd ymateb wedi dod i law. |
|
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
|
Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch Rheolau Sefydlog ar gyfer y Seithfed Senedd: Categorïau o Aelodau Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes ymateb gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch newidiadau
posibl i’r Rheolau Sefydlog ar gyfer y Seithfed Senedd mewn perthynas â’r
categoriau o Aelodau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd i ystyried
cynigion terfynol i ddiwygio Rheolau Sefydlog yn ddiweddarach, yng ngoleuni
gwelliannau posibl eraill ac unrhyw argymhellion neu gasgliadau a wneir gan
Bwyllgor Senedd y Dyfodol. |
|
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Nododd y
Llywydd ei bod wedi cael sylwadau gan sawl Aelod ynghylch y Pwyllgor Busnes yn
enwebu Rhys ab Owen AS fel aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried y mater a dychwelyd ato yn
y cyfarfod canlynol. |
PDF 194 KB