Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·       Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn trafodion Cyfnod 3.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.00pm.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai angen egwyl o 10 munud cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai hyn yn cael ei gynnal ar ôl y Cyfnod Pleidleisio.

 

Dydd Mercher

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 4 Chwefror 2025

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Diwygio Diwylliant a Llywodraethiant yn y Gwasanaeth Tân ac Achub (45 munud) Tynnwyd yn ôl

 

Dydd Mawrth 11 Chwefror 2025

·       Dadl: Mesur Teithio gan Ddysgwyr (60 munud) Tynnwyd yn ôl

 

Dywedodd y Trefnydd y bydd y ddwy eitem yn cael eu haildrefnu yn ddiweddarach.

 

Gofynnodd Heledd Fychan i'r Llywodraeth ystyried amserlennu datganiadau llafar ar: ymchwiliad diweddar y BBC i grwpiau asgell dde eithafol yng Nghymru; goblygiadau diwygiadau pensiwn i Gymru; a chynnydd tuag at gyrraedd targedau ar gyfer lleihau rhestrau aros y GIG erbyn gwanwyn 2025. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried pob cais gyda’r Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol.  

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd i ychwanegu’r eitemau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 5 Chwefror 2025 –

·      Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Pedwerydd adroddiad ar bymtheg i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)

 

Dydd Mercher 19 Chwefror 2025 –

·      Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Plant sydd ar yr ymylon (60 munud)

·      Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·      Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl fer: Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) (30 munud)

 

 

3.4

Cynigion deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 5 Chwefror:

 

Sioned Williams AS

NNDM8724 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar sicrhau cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl. 

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: 

a) gwella'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a lleoliadau gofal iechyd ar gyfer gofalwyr di-dâl, yn seiliedig ar yr hawliau a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; 

b) cadarnhau'r gwaith o gasglu a monitro data ymgysylltu â gofalwyr di-dâl ar draws gwasanaethau statudol i adrodd arnynt o bryd i'w gilydd; 

c) sicrhau bod rhagor o ddata gofalwyr di-dâl yn cael eu rhannu, lle bo hynny'n briodol, rhwng gwasanaethau statudol i gefnogi gofalwyr wrth iddynt lywio drwy wasanaethau ac eirioli dros y bobl y maent yn gofalu amdanynt; ac 

ch) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gydnabod gofalwyr di-dâl fel grŵp blaenoriaeth wrth ddylunio a darparu pob ymyriad polisi yn y dyfodol. 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:

 

  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Hawliau Rhentwyr at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar yr holl femoranda cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil hwn ar 7 Mawrth 2025.
  • cyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar Fil Ynni Prydain Fawr i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad graffu arno, gan nodi mai 3 Chwefror 2025 oedd y terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad.
  • ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Data (Defnydd a Mynediad) tan 14 Mawrth 2025.

 

Hefyd, rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig), yn dilyn y ddadl a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 21 Ionawr. Yn dilyn gwelliannau i'r Bil sydd wedi eu cyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Memorandwm Atodol pellach ar y Bil. Gan fod disgwyl i drafodion y Cyfnod Adrodd gael eu cynnal heddiw, nododd y Pwyllgor Busnes na fyddai’n bosibl mwyach i’r Senedd wneud penderfyniad ystyrlon ar gydsyniad mewn perthynas â’r gwelliannau diweddaraf.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â gosod dyddiad terfyn i bwyllgorau'r Senedd gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Atodol diweddaraf, ond nododd fod pwyllgorau'n parhau i allu trafod a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Atodol pe baent yn dewis hynny.