Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:

 

·       Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Torri’r cyflenwad dŵr yng Nghonwy (45 munud)

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.20pm.

 

Holodd Heledd Fychan a fyddai datganiad llafar yn cael ei drefnu ar y cadoediad yn Gaza. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried y cais. 

 

Dydd Mercher

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 4 Chwefror 2025

 

  • Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy'n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2025 (15 munud)

 

Nododd y Trefnydd y bydd datganiad yn cael ei gyflwyno ym mis Chwefror ar gyfranogiad Cymru yn nhwrnamaint Ewro Merched UEFA 2026.

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd i ychwanegu’r eitemau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 12 Chwefror 2025 -

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Sioc ddiwylliannol - Diwylliant a’r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Carolyn Thomas AS (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes na fydd y Pwyllgor Cyllid yn adrodd ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024.

 

 

5.

Gwaith Gweithdrefnol

5.1

Cynnig ar gyfer dadl ffurf hirach

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynnig a chytunodd y dylai Aelodau gyflwyno pynciau arfaethedig ac y dylid eu cyhoeddi ar adeg cyflwyno. Yna byddai'r Pwyllgor Busnes yn dewis un pwnc ar gyfer pob dadl, gan adael pynciau heb eu dewis ar y Cofnod. Cytunwyd dros dro y bydd y ddadl gyntaf yn cael ei chynnal ddydd Mercher 19 Mawrth.

 

 

5.2

Adroddiad drafft - Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.19

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor adroddiad drafft yn cynnwys y newid arfaethedig i Reol Sefydlog 12.19 a chytunodd arno, a chytunodd i gynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog gael ei gyflwyno i'w ystyried gan y Senedd ddydd Mercher 29 Ionawr.

Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at ystyried canllawiau manwl ynghylch Dadleuon Agored mewn cyfarfod diweddarach.