Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm

 

Dydd Mercher

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025

·       Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Tyfu'r Diwydiant Coed yng Nghymru: Swyddi a Thwf Gwyrdd (45 munud)

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) (15 munud) wedi’i ddwyn ymlaen o 28 Ionawr

 

Dydd Mawrth 28 Ionawr 2025

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) (15 munud) wedi’i ddwyn ymlaen i 21 Ionawr

 

Holodd Paul Davies a fyddai datganiad llafar yn cael ei drefnu ar glefyd y traed a'r genau yn dilyn yr achosion diweddar yn yr Almaen. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n trafod y mater gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd i ychwanegu’r eitemau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 5 Chwefror 2025 -

·      Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·      Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Y Cyflenwad o Dai Cymdeithasol (60 munud)

·      Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer: Hefin David AS (Caerffili) (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:

  • gyfeirio'r Memorandwm (Rhif 2) ar y Bil Iechyd Meddwl at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 28 Chwefror 2025.
  • nodi y bydd Dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) yn cael ei dwyn ymlaen i 21 Ionawr 2025.
  • cyfeirio'r Memorandwm (Rhif 5) ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 20 Ionawr 2025, ond nodwyd efallai na fydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn gallu gosod ei adroddiad tan fore 21 Ionawr.
  • ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y memoranda ar y Bil Tybaco a Fêps tan 28 Chwefror 2025.

 

 

5.

Gwaith Gweithdrefnol

5.1

Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor: Crynodeb o dystiolaeth cyfnod 2 a chytuno ar y camau nesaf

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adborth a gafwyd i ddau ymgynghoriad. Cyflwynodd y Llywydd yr eitem a'r dystiolaeth a ddaeth i law, gan gynnwys nifer o gwestiynau a phryderon ymarferol a godwyd mewn tystiolaeth a chan aelodau o Fforwm y Cadeiryddion yn ystod eu trafodaethau ar y cynnig.

 

Dywedodd y Trefnydd a Heledd Fychan fod eu grwpiau hwy ill dwy yn cefnogi cyflwyno darpariaethau sy'n galluogi rhannu swydd cadeirydd pwyllgor. Dywedodd Paul Davies fod ei grŵp yn gwrthwynebu cyflwyno rhannu swydd cadeirydd pwyllgor ac y byddai'n cefnogi gwaith o ddatblygu model Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yn lle hynny.

 

Ar ôl ystyried safbwyntiau a gafwyd o ran terminoleg, cytunodd mwyafrif y Rheolwyr Busnes y dylid parhau i ddefnyddio'r term 'rhannu swydd' i ddisgrifio'r cynnig.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar faterion a godwyd gan y Comisiynydd Safonau yn ei gyflwyniad. Gofynnodd y Pwyllgor hefyd i gyngor pellach gael ei ddarparu ar opsiynau ar gyfer telerau a hyd cynllun treialu arfaethedig, gan gynnwys a ddylid cyfyngu ar nifer y pwyllgorau y gallai swydd cadeirydd gael ei rhannu yn ystod y cyfnod treialu.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried y materion hyn ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol a thrafod gyda'u grwpiau, cyn datblygu cynnig terfynol.