Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Darren Millar AS. Roedd Paul Davies AS yn bresennol fel
dirprwy ar ei ran. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn: ·
Datganiad gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Porthladd Caergybi
(45 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau'r Gaeaf ar y GIG (45 munud) ·
Datganiad
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Grŵp
Gorchwyl a Gorffen Gwynt ar y Môr (45 munud) ·
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r
Rheolwyr Busnes y byddai’n talu teyrnged i Jenny Randerson ar ddechrau’r
Cyfarfod Llawn heddiw, cyn gwahodd Jane Dodds i siarad fel Arweinydd
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Yn dilyn ymddiswyddiad Paul Davies
fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylai cadeiryddiaeth y Pwyllgor hwnnw barhau i gael ei
ddyrannu i grŵp y Ceidwadwyr. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r
Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer y rôl hon ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn
heddiw, gyda chanlyniad unrhyw bleidlais gyfrinachol yn cael ei gyhoeddi ar
ddiwedd y cyfarfod. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i
gyflwyno cynigion i newid yr aelodau Ceidwadol ar nifer o bwyllgorau i'w
hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth. O ganlyniad, cytunwyd ar y
newidiadau ychwanegol a ganlyn i agenda ddydd Mawrth: · Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau
(5 munud) · Enwebiadau ar gyfer Cadeirydd
Pwyllgor (5 munud) · Ni fydd Cyfnod Pleidleisio. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.00pm Dydd
Mercher Rhoddodd y
Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
|
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
14 Ionawr 2025 · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Cartrefi Cynnes (45 munud)
Dydd Mawrth
21 Ionawr 2025 · Datganiad gan y Dirprwy Brif
Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
Adfer natur yng Nghymru (45 munud) · Rheoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn)
(Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 (5 munud) · Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir
(Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2025 (5 munud) · Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau
Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024 (15 munud) |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
y newidiadau a ganlyn i amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd
Mercher 22 Ionawr 2025 –
Dydd
Mercher 29 Ionawr 2025 –
|
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:
Nododd y
Pwyllgor hefyd y byddai swyddogion y Senedd a Llywodraeth Cymru yn trafod y
posibilrwydd o ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) o 10 Ionawr 2025, o gofio
bod y ddadl ar gydsyniad ar hyn o bryd wedi’i threfnu ar gyfer 28 Ionawr a’i
bod yn bosibl y gallai Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ychwanegol
gael ei osod. |
|
|
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a
Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024 at y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i graffu arnynt, ac i ofyn i'r
pwyllgorau adrodd erbyn 20 Ionawr 2025, cyn y ddadl ar y rheoliadau yn y
Senedd, a drefnwyd ar gyfer 21 Ionawr 2025. |
PDF 191 KB