Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Darren Millar AS. Roedd Paul Davies AS yn dirprwyo ar ei
ran. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn: · Datganiad gan y Dirprwy Brif
Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
Storm Darragh (45 munud) Cytunodd y
Rheolwyr Busnes hefyd i gynnwys yr eitemau a ganlyn ar yr amserlen: · Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros
dro (5 munud) · Cynnig i ddiddymu Rheoliadau'r
Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol)
(Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024 (30 munud) · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 8.45pm Dilynodd Jane Dodds ymholiad a
godwyd ganddi yn y cyfarfod blaenorol ynghylch pryd y byddai Datganiad Llafar
ar y Cynllun Lles Anifeiliaid yn cael ei amserlennu, a nododd arwydd blaenorol
y byddai hyn yn digwydd cyn diwedd y flwyddyn hon. Dywedodd y Trefnydd y bydd
Datganiad Ysgrifenedig ar yr ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei
gyhoeddi cyn y Nadolig ac y byddai hi’n trafod y mater o Ddatganiad Llafar
ymhellach gyda’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr
Busnes y bydd yn cyhoeddi aelodaeth newydd Senedd Ieuenctid Cymru ar ddechrau'r
Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth. Bydd y cyhoeddiad yn rhagflaenu Cwestiynau’r Prif
Weinidog a bydd delweddau gweledol yn cyd-fynd ag ef. Dydd
Mercher Rhoddodd y
Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
|
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlynd i amserlen Busnes
y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. Dydd Mawrth
7 Ionawr 2025 · Datganiad gan y Prif Weinidog:
Cyflawni dros Gymru (60 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Technoleg a’r Gymraeg (45 munud) Dydd Mawrth
14 Ionawr 2025 · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau’r Gaeaf ar y GIG (45 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Gwneud y Gorau
o Incwm a diweddariad ar waith i weithredu Siarter Budd-daliadau Cymru (45
munud) · Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl
(Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Cynllun Peilot) (Cymru) 2025 (15 munud) Gofynnodd
Heledd Fychan fod y Llywodraeth yn ystyried cyflwyno datganiadau llafar ar y
Mesur Teithio gan Ddysgwyr a sut y mae’n bwriadu gwneud y gorau o gymhwysedd
tîm pêl-droed cenedlaethol menywod Cymru ar gyfer twrnamaint yr Ewro 2025.
Ymatebodd y Trefnydd gan ddweud y byddai'n rhoi ystyriaeth i'r ddau fater. |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd
Mercher 22 Ionawr 2025 -
|
|
|
Cais i amserlennu dadl ar y cynnig i ddiddymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais gan
Adam Price AS i amserlennu dadl ar gynnig i ddiddymu Rheoliadau’r Gwasanaeth
Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi
Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif
2) 2024, yr oedd wedi eu cyflwyno ar 4 Rhagfyr. Nododd y Pwyllgor Busnes y
byddai’r cyfnod o 40 diwrnod ar gyfer ystyried cynnig o’r fath o dan Reol
Sefydlog 27.2 yn dod i ben ar 10 Rhagfyr 2024. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
neilltuo amser i’r cynnig gael ei drafod yn y Senedd heddiw, ac i gyflwyno
cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn galluogi’r ddadl i gael ei chynnal. |
|
|
Cais i amserlennu dadl ar Gynnig Heb Ddyddiad Trafod 8756 Cofnodion: Bu'r
Pwyllgor Busnes yn ystyried cais a ddaeth i law gan Mabon ap Gwynfor AS i
drefnu dadl ar Gynnig Heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd yn ei enw ynghylch
agenda 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru. Cytunodd y mwyafrif o
aelodau’r Pwyllgor Busnes y dylid trefnu dadl ar ddyddiad i’w gadarnhau yn
ystod y tymor nesaf. |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a
chytunodd i:
Nododd y
Pwyllgor Busnes y byddai trafodaethau’n parhau rhwng Comisiwn y Senedd a
swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch a fydd yn bosibl ymestyn y dyddiad cau
ymhellach ar gyfer cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Dŵr (Mesurau
Arbennig) a’r Bil Hawliau Rhentwyr. Nododd y
Trefnydd hefyd y bydd y Llywodraeth yn gosod Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Data (Defnydd a Mynediad) yr wythnos hon, i’w
gyfeirio’n ffurfiol ar gyfer craffu arno ym mis Ionawr, a bod y Llywodraeth ar
hyn o bryd yn rhagweld y bydd yn argymell dyddiad cau ar gyfer adrodd ar 7
Mawrth ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn. |
|
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
|
Cynnig ar gyfer dadl ffurf hirach Cofnodion: Bu'r
Pwyllgor Busnes yn ystyried yr ymatebion a gafwyd gan Aelodau a grwpiau'r
pleidiau i'r cynnig i dreialu fformat newydd ar gyfer dadleuon ffurf hirach o
bryd i'w gilydd, a chytunwyd i fwrw ymlaen â'r treial. Cytunodd y Pwyllgor:
|
PDF 191 KB