Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Rhoddodd
y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i Fusnes yr Wythnos
Hon: ·
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ( ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. ·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.35pm Nododd
Heledd Fychan ei bod yn debygol y bydd diddordeb sylweddol gan yr Aelodau yn y
datganiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ar y Datganiad
sefyllfa canol trefi. Dydd Mercher
|
|
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd
y Trefnydd nad oes unrhyw newidiadau i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y
tair wythnos nesaf. Gofynnodd
Jane Dodds a fyddai datganiad llafar ar y Cynllun Lles Anifeiliaid yn cael ei
drefnu cyn y toriad, yng ngoleuni ymrwymiad blaenorol a wnaed. Dywedodd y
Trefnydd y byddai'n ystyried y cais. |
|
|
Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i
amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2024
Dydd Mercher 15 Ionawr 2025 -
|
|
|
Cais i amserlennu dadl ar Gynnig Heb Ddyddiad Trafod 8755 Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes gais gan Sioned Williams i amser gael ei roi i gynnal dadl ar
Gynnig Heb Ddyddiad Trafod 8755 ynghylch y gwrthdaro yn Israel a Gaza. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gynnal trafodaethau pellach rhwng pleidiau gyda'r bwriad o
amserlennu dadl ar y mater hwn ar sail drawsbleidiol yn y dyfodol agos. |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd, a Seilwaith ynghylch y Bil Hen Glofeydd a Thomennydd Chwareli (Cymru) Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes
ymateb gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a chytunodd ar
yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar y Bil Tomenni Mwyngloddiau a
Chwareli Nas Defnyddir (Cymru). |
|
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor Busnes bapur diweddaru ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a
chytunodd i:
|
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Craffu gan y Pwyllgor ar Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth Pobl) 2025 Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer hwyluso gwaith craffu pwyllgorau ar ferswin
ddrafft Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 a chytunodd i:
|
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyfarfod Fforwm y Pwyllgor Cyllid Rhyngseneddol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes gais i aelodau'r Pwyllgor Cyllid deithio i Belfast ddydd Mawrth
18 Mawrth 2025 i fod yn bresennol mewn cyfarfod o Fforwm y Pwyllgorau Cyllid Rhyngseneddol ac, yn amodol ar drefniadau teithio, i'w
hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn ar 18 a 19 Mawrth, a chytunodd iddo. |
|
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
|
Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau: cwmpasu cychwynnol Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes
bapur cwmpasu cychwynnol yn cynnwys cwmpas, dull ac amserlenni arfaethedig ar
gyfer adolygu prosesau Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau. Cytunodd y Rheolwyr Busnes
ar y cynigion (yn amodol ar fân newidiadau) a gwnaethant gais am wybodaeth
gefndirol o ran trefniadau mewn seneddau eraill ar gyfer Memoranda Esboniadol a
Biliau Aelodau. |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Senedd yn y Dyfodol ynghylch adolygiadau gweithdrefnol o brosesau Bil cyhoeddus a Biliau Aelodau Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a
chytunodd y bydd yn ymateb i rannu manylion ei ddull, ei amserlenni a'i
fwriadau ar gyfer yr adolygiadau deddfwriaethol, gan gynnwys cyfleoedd i'r
Aelodau gyfrannu. |
PDF 78 KB