Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon - WEDI'I DIWEDDARU

Cofnodion:

Dydd Mawrth

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i Fusnes yr Wythnos Hon:

 

·       Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Storm Bert (45 munud)

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Paratoi ar gyfer diwygio bysiau (45 munud) Gohiriwyd tan 10 Rhagfyr

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.45pm

 

Nododd y Llywydd y byddai hi a'r Dirprwy Lywydd yn defnyddio eu disgresiwn ynghylch terfynau amser, yn ôl yr angen, yn ystod y Datganiad ar Storm Bert i alluogi Aelodau sy'n cynrychioli ardaloedd y mae llifogydd wedi effeithio arnynt i godi materion sy'n effeithio ar eu hetholwyr.

 

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.40pm

 

Dadleuon y gwrthbleidiau

 

Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa eu grwpiau y bydd gan yr Aelodau dair munud ar gyfer cyfraniadau i ddadeluon y gwrthbleidiau ddydd Mercher. Nododd y bydd yn sicrhau bod y ddwy ddadl yn cadw’n llym at amser felly efallai na fyddai’n bosibl darparu ar gyfer pob cais i siarad.

 

3.2

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf - WEDI'I DIWEDDARU

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2024

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl (45 munud) - cyhoeddir fel datganiad ysgrifenedig

·       Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2024 (15 5 munud)

 

Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2024

 

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Paratoi ar gyfer diwygio bysiau (45 munud)

·       Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024 (15 munud)

 

 

 

3.11

Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i aildrefnu dadl Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod, Siân Gwenllian, a gafodd ei gohirio yr wythnos diwethaf, ar gyfer 8 Ionawr 2025.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i beidio amserlennu amser i’r gwrthbleidiau ar 8 Ionawr fel eithriad untro, oherwydd dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno busnes dros doriad y Nadolig.

Felly, cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 8 Ionawr 2025 -

·       Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Sian Gwenllian AS (Arfon) (30 munud)

·       Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Carolyn Thomas AS (Gogledd Cymru) (30 munud)

·       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) Sian Gwenllian AS (Arfon) (30 munud)

·       Dadl fer (30 munud)

 

 

3.4

Dadl gan Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu: 

4 Rhagfyr 2024

Hefin David

NNDM8659 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi bod dros 40 mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi Strategaeth Cymru Gyfan, a oedd â'r nod o dynnu pobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu allan o leoliadau ysbyty hirdymor a'u cefnogi i fyw yn eu cymunedau lleol. 

2. Yn gresynu bod rhai pobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru yn dal i gael eu secsiynu o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu'n cael eu cadw o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 mewn ysbytai diogel, sy'n amhriodol o ran eu llesiant ac yn achosi trawma hirdymor sylweddol, yn ogystal â gofid iddynt hwy a'u hanwyliaid. 

3. Yn credu bod hyn yn parhau i ddigwydd i bobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu oherwydd diffyg cymorth yn eu hardaloedd lleol, a bod secsiynu’n cael ei ddefnyddio fel opsiwn diofyn gan awdurdodau perthnasol o dan rai amgylchiadau. 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru: 

a) i nodi'n fanwl sut y bydd yn ymateb i bryderon ac amcanion ymgyrch 'Cartrefi Nid Ysbytai' Bywydau Wedi'u Dwyn; 

(b) i gasglu a chyhoeddi data cywir a chyfredol ar: 

i) nifer y bobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru sy'n cael eu lleoli mewn ysbytai; 

ii) y math o ysbytai mewn achosion o'r fath e.e. ysbytai iechyd meddwl neu unedau asesu a thrin; 

iii) darparwyr yr ysbytai mewn achosion o'r fath e.e. y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r sector gwirfoddol; a 

iv) nifer a natur y lleoliadau byw â chymorth neu leoliadau preswyl sydd wedi methu, gan arwain at symud unigolion i ysbytai e.e. enw'r darparwr a'r math o ddarparwr; 

c)  i roi diweddariad ar y cynnydd a wnaed o ran sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen pwrpasol i weithio gyda rhanddeiliaid i helpu i fynd i'r afael â'r materion a'r pryderon a godwyd gan Bywydau Wedi’u Dwyn, ac sydd o fewn ei chyfrifoldebau datganoledig; a 

d)  i weithredu argymhellion ei hadolygiad gofal cenedlaethol yn 2020, a nododd yn glir mai dim ond os nad oes ffyrdd eraill o'u trin yn ddiogel y dylai pobl aros mewn ysbytai.  

8 Ionawr 2025

Siân Gwenllian

NNDM8664 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi: 

a) y prinder sylweddol o wasanaethau deintyddol y GIG yng ngogledd Cymru, yn enwedig yn Arfon gyda dim ond 36.6 y cant o'r boblogaeth yn gallu derbyn triniaeth drwy’r GIG sef y ganran isaf yng Nghymru; a 

b) cyhoeddi adroddiad "Llenwi’r Bwlch" a gomisiynwyd gan Sian Gwenllian AS yn gwneud yr achos dros sefydlu Ysgol Ddeintyddol ym Mangor. 

2. Yn credu: 

a) bod gwasanaethau deintyddol yng ngogledd Cymru mewn sefyllfa o argyfwng: 

b) bod prinder difrifol o ddeintyddion y GIG yn Arfon sy'n gadael llawer o gleifion, gan gynnwys plant a phobl fregus, heb fynediad priodol at ofal deintyddol sylfaenol; 

c) bod pwysau ychwanegol yn cael ei roi ar adrannau brys yr ysbytai lleol oherwydd diffyg mynediad at ddeintyddion, gan arwain at gostau ac amseroedd aros ychwanegol; 

d) bod angen am fwy o hyfforddiant deintyddol; 

e) bod nifer sylweddol o fyfyrwyr sy’n dymuno astudio deintyddiaeth yn gorfod gadael Cymru oherwydd diffyg capasiti mewn ysgolion deintyddol; 

f) y gallai ysgol ddeintyddol newydd ym Mangor chwarae rôl allweddol wrth hyfforddi mwy o ddeintyddion yn lleol, gan gynnig gwell siawns o gadw’r gweithlu deintyddol yn y rhanbarth a darparu gwasanaethau hanfodol yn lleol; 

g) y byddai sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor yn darparu swyddi newydd o safon a denu buddsoddiad i'r economi leol, gan gefnogi Bangor fel canolfan ragoriaeth ym maes iechyd, ochr yn ochr â'r ysgol feddygol newydd; a 

h) gallai'r ysgol deintyddiaeth ychwanegu at ddarpariaeth gwasanaethau dei y gallai’r ysgol ddeintyddol ychwanegu at y ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol Cymraeg a dwyieithog, gan wella mynediad at ofal iechyd i gymunedau lleol sy’n siarad Cymraeg. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru: 

a) ystyried yr achos economaidd ac iechyd cyhoeddus dros sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor yn seiliedig ar y canfyddiadau allweddol a gyflwynwyd yn yr adroddiad Llenwi’r Bwlch; 

b) sicrhau cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a sefydliadau perthnasol eraill i ddatblygu cynllun dichonoldeb ar gyfer sefydlu’r ysgol ddeintyddol; ac 

c) buddsoddi’n strategol i sefydlu’r ysgol ddeintyddol fel rhan o ymdrechion ehangach i wella mynediad at wasanaethau iechyd yn y rhanbarth ac i fynd i’r afael â’r argyfwng parhaus mewn darpariaeth ddeintyddol yng Nghymru. 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:

  • gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Iechyd Meddwl at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 7 Chwefror 2025; a
  • chyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Tybaco a Fêps at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 7 Chwefror 2025.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch eu cyfarfod ar 27 Ionawr 2025

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i'w gyfarfod ar 27 Ionawr 2025 ddechrau yn gynt na slot arferol y pwyllgor.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i roi caniatâd cyffredinol i bwyllgorau amrywio amseroedd cychwyn cyfarfodydd pan fyddant yn cael eu cynnal ar ddiwrnod y maent eisoes i fod i gyfarfod, cyn belled â bod dim gwrthdaro o ran aelodaeth yn cael ei greu o ganlyniad i hyn.

 

6.

Gwaith Gweithdrefnol

6.1

Rhaglen Waith Weithdrefnol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y dull arfaethedig o ymdrin â'i raglen waith weithdrefnol a'r amserlen eglurhaol ar gyfer y gwaith hwn hyd at y Pasg 2025 a chytunodd arnynt.

 

6.2

Ystyriaeth o ddiwygiadau posibl i Reolau Sefydlog y Seithfed Senedd: categorïau o Aelodau

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y gofyniad i'r Chweched Senedd gytuno ar newidiadau i Reolau Sefydlog yn ymwneud â chategorïau o Aelodau a fydd yn dod i rym ar ddechrau'r Seithfed Senedd, sy'n adlewyrchu'r newid i system etholiadol y Senedd.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i ofyn iddo adolygu'r Rheolau Sefydlog perthnasol a chyflwyno argymhellion, i gynorthwyo'r Pwyllgor Busnes wrth ystyried y newidiadau penodol a allai fod eu hangen.