Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.35pm Dydd
Mercher Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
gyflwyno cynigion i newid aelodau’r blaid Lafur ar nifer o bwyllgorau i'w
hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i
gais gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (o dan eitem 5.1) i amserlennu cynnig i
benodi Comisiynydd Safonau Dros Dro yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher. Felly,
cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i agenda dydd Mercher: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i gais gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (o dan eitem 5.1)
i amserlennu cynnig i benodi Comisiynydd Safonau Dros Dro yn y Cyfarfod Llawn
ddydd Mercher. Felly, cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i agenda dydd
Mercher:
|
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd
wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
3 Rhagfyr 2024 · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Her 50 diwrnod newydd i wella
rhyddhau cleifion o'r ysbyty a gofal cymunedol (45 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Diwrnod
Rhyngwladol Pobl Anabl (45 munud) |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd Mercher 27 Tachwedd 2024 - · Datganiad gan James Evans -
Diweddariad ar y Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru) arfaethedig (30 munud) Dydd
Mercher 11 Rhagfyr 2024
|
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Amserlen ar gyfer y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
gyfeirio’r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas
Defnyddir (Cymru) at y Pwyllgor Newid
Hinsawdd. yr Amgylchedd a Seilwaith er mwyn ystyried yr egwyddorion
cyffredinol ac ymgynghori â’r Pwyllgor ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer
gwaith craffu, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
|
Llythyr gan James Evans AS ynghylch y Bil Iechyd Meddwl (Safonau Gofal) (Cymru) Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd ar y cynnig i amser gael ei roi i James
Evans AS wneud datganiad i ddiweddaru'r Senedd ar ddatblygiad ei Fil Iechyd
Meddwl (Safonau Gofal) (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Tachwedd 2024. |
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch penodi Comisiynydd Safonau Dros Dro Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i drefnu amser ar gyfer cynnig
i benodi Comisiynydd Safonau Dros Dro i ystyried cwyn benodol, gael ei gynnig
yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 20 Tachwedd, a chytunodd arno. |
|
|
Amserlen y Senedd |
|
|
Dyddiadau Toriadau Cofnodion: Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad Hanner Tymor y Sulgwyn a Thoriad
yr Haf 2025, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer Hanner Tymor yr
Hydref 2025 a Thoriad y Nadolig 2025/6. |
|
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Datganiad
Ysgrifenedig ar amseroedd aros Nododd y
Llywydd ei bod wedi derbyn llythyr gan Arweinydd Plaid Cymru ynghylch Datganiad
Ysgrifenedig ar amseroedd aros a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros
Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddydd Sul 17 Tachwedd ac yn mynegi pryder am
gyhoeddi cyllid ychwanegol yng nghynhadledd y blaid Lafur dros y penwythnos,
cyn i unrhyw wybodaeth gael ei darparu i'r Senedd. Nododd y Llywydd hefyd y
byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad llafar yn y Cyfarfod Llawn y
prynhawn yma. |
PDF 191 KB