Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan y Dirprwy Lywydd, a chroesawodd yr Aelodau i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn

 

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Cofio Tynnwyd yn Ôl

·       Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

·       Dadl: Cofio (60 munud)

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.20pm

 

Dydd Mercher

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024

 

·     Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Cynnydd ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy - dylunio drwy gydweithio (45 munud)

·     Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Diweddariad ar Fuddsoddiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (45 munud)

·     Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Defnydd Sengl) (Cymru) 2024 (5 munud) - gohiriwyd tan 10 Rhagfyr

·     Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) 2024 (15 munud)

 

Gofynnodd Heledd Fychan am ddatganiad llafar ar yr 'Her 50 diwrnod newydd i wella cyfraddau rhyddhau cleifion o ysbytai a gwella gofal cymunedol' a gyhoeddwyd ar 11 Tachwedd. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried y cais.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 20 Tachwedd 2024 -

 

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau a gynhaliwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (30 munud)

 

Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2024

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Eu Dyfodol: Ein Blaenoriaeth? Ymchwiliad dilynol i ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) (30 munud)

 

 

3.4

Cynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu: 

 

20 Tachwedd 2024

Siân Gwenllian

NNDM8712 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar ymgorffori’r Hawl i Dai Digonol, fel y nodir yn y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR), yng nghyfraith Cymru. 

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai: 

a) sefydlu’r Hawl i Dai Digonol fel hawl sylfaenol yng nghyfraith Cymru, gan sicrhau mynediad i dai saff, diogel a fforddiadwy i bawb; 

b) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus i wireddu'n raddol yr Hawl i Dai Digonol; 

c) gofyn am asesiadau rheolaidd o anghenion ac amodau tai, gyda thargedau wedi'u gosod i leihau'r anghenion tai sydd heb eu diwallu a gwella amodau dros amser; 

d) cryfhau amddiffyniadau tenantiaid a chefnogi arferion rhentu teg i sicrhau sefydlogrwydd tai; ac 

e) sefydlu mecanweithiau i unigolion geisio iawn os yw eu hawl i dai digonol yn cael ei dorri neu heb ei fodloni. 

 

8 Ionawr 2025

Carolyn Thomas

NNDM8723 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil cipio anifeiliaid anwes. 

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai: 

a) gwneud cipio anifail anwes yn drosedd benodol yng Nghymru; 

b)  cydnabod nad gwrthrychau difywyd yw cathod a chŵn ond bodau ymdeimladol sy'n gallu profi trallod a thrawma emosiynol arall; 

c) cydnabod y trallod sylweddol ac unigryw a achosir i berchennog pan gaiff anifail anwes ei ddwyn; a 

d) dod â deddfwriaeth Cymru yn gyfartal â deddfwriaeth yn Lloegr. 

Deddfwriaeth

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynglŷn ag amserlen y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) Etc. (Cymru).

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ymateb gan y Pwyllgor Cyllid a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) Etc. (Cymru).

 

 

4.2

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad terfynol o 10 Ionawr 2025 i gyflwyno adroddiad.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch ymweliad y pwyllgor â Brwsel.

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i Aelodau'r Pwyllgor ymadael ar unwaith yn dilyn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth 19 Tachwedd.

 

 

5.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gwneud cais i gwrdd y tu allan i’w slot cyfarfod arferol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i geisiadau gan y Pwyllgor iddo gwrdd y tu allan i'w slot cyfarfod rheolaidd ar foreau dydd Mawrth 3 Rhagfyr a dydd Llun 9 Rhagfyr.

 

 

6.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Dirprwy Lywydd y bydd ymgynghoriad y Pwyllgor Busnes ar rannu swydd gydag Aelodau a grwpiau yn cau ddydd Gwener 15 Tachwedd.

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eraill eu gwahodd gan y Trefnydd i ystyried cyd-gyflwyno'r cynnig ar gyfer y ddadl ar Holodomor a gynhelir yn amser y Llywodraeth ar 19 Tachwedd.