Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Llywydd. Y Dirprwy Lywydd oedd yn cadeirio’r cyfarfod. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal
fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.15pm Dydd
Mercher · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.10pm |
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
19 Tachwedd 2024 · Gorchymyn y Cynllun Masnachu
Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2024 (5 munud) · Dadl: Yr Holodomor (60 munud) |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd
Mercher 27 Tachwedd 2024 - ·
Dadl ar
adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Banc Datblygu Cymru
(60 Munud) ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Craffu ar
Gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22 (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
|
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Amserlen ar gyfer y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) Etc. (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) Etc. (Cymru)
at y Pwyllgor Cyllid er mwyn ystyried yr egwyddorion cyffredinol, ac ymgynghori
â’r Pwyllgor Cyllid ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu, a
dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch terfynau amser adrodd ar gyfer memoranda cydsyniad deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i ymestyn y terfynau amser adrodd ar
gyfer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol canlynol tan 10 Ionawr 2025:
Bu'r
Pwyllgor Busnes hefyd yn trafod gwerth pennu terfynau amser cychwynnol ar gyfer
adrodd ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol i gyd-fynd â'r dyddiad craffu
terfynol tebygol yn Nhŷ cyntaf Senedd y DU y cyflwynir y Bil perthnasol
iddo, fel y cynnigir gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai swyddogion y Senedd a Llywodraeth Cymru yn
ystyried ymhellach pa mor ymarferol yw mabwysiadu'r dull hwn. |
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn gofyn am Ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Cyllid i Ddatganiad Cadeirydd Pwyllgor gael
ei drefnu yn y Cyfarfod Llawn i adrodd yn ôl ar Adolygiad y Pwyllgor
o'r gweithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau a gynhaliwyd gan Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd y Rheolwyr Busnes o'r farn y byddai
dadl yn fwy priodol a chytunwyd i ymateb i'r Pwyllgor Cyllid i ofyn iddo
ystyried amserlennu dadl yn hytrach. |
|
|
Trefniadau Cyflwyno |
|
|
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig Cofnodion: Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y trefniadau arfaethedig ar gyfer
|
PDF 191 KB