Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan.
Roedd Llyr Gruffydd yn bresennol ar ei rhan. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am
Ddatganiad Llafar brys gan Lywodraeth Cymru ar y gwrthdrawiad rhwng dau drên yn
y Canolbarth nos Lun. Dywedodd y Trefnydd fod Datganiad Ysgrifenedig yn cael ei
lunio ac y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i Ddatganiad Llafar yn y Cyfarfod
Llawn heddiw. ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. ·
Nid yw’r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm Dydd Mercher ·
Bydd y
Cyfnod Pleidleisio yn digwydd cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw’r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.10pm |
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
5 Tachwedd 2024 · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg: Gwella safonau addysgol yng Nghymru (45 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cyllideb y DU (45 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Cynllun
Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (45 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Sefydliadau GIG Cymru – diweddariad
uwchgyfeirio (45 munud) Dydd Mawrth
12 Tachwedd 2024 · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cofio (45 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg: Wythnos Gwrth-fwlio: Iechyd meddwl a llesiant dysgwyr (45
munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Amrywiaeth a
chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol (45 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Diogelwch Adeiladau (45 munud) · Dadl: Adroddiad Blynyddol
Comisiynydd y Gymraeg 2023-24 (60 munud) Gofynnodd
Llyr Gruffydd am Ddatganiad Llafar ar bwysau’r gaeaf yn y GIG. Nododd y
Trefnydd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi
gwneud datganiad ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf yn y GIG ar 24 Medi. |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd
Mercher 6 Tachwedd 2024 –
Dydd
Mercher 20 Tachwedd 2024 –
|
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Amserlen ar gyfer y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes ar ddyddiad terfynol i bwyllgorau gyflwyno adroddiad ar egwyddorion
cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru),
sef 14 Chwefror 2025, a dyddiad terfynol ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2,
sef 4 Ebrill 2025. |
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gwneud cais i gwrdd y tu allan i’w slot cyfarfod arferol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y caiff y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
ddechrau ei gyfarfod ar 4 Tachwedd am 11am, y tu allan i’w slot arferol. |
|
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
|
Cynnig ar gyfer dadl ffurf hirach Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes opsiynau o ran amserlennu, natur a strwythur cyfnod treialu
posibl ar gyfer dadl ffurf hirach achlysurol yn ystod amser Busnes y Senedd yn
ystod 2025. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Aelodau o’r Senedd a wnaeth y cynnig
gwreiddiol a grwpiau’r pleidiau ar ddull gweithredu arfaethedig ar gyfer y
cyfnod treialu, ar y sail a ganlyn:
|
PDF 192 KB