Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd
dim ymddiheuriadau. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes ar welliannau i gofnodion eitem 4.1: Amserlen ar gyfer y Bil
Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymu) (Cymru) ar gais y Trefnydd. Derbyniodd
yr aelodau hefyd wahoddiad gan y Trefnydd i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog
Cyflawni ddarparu briff ar raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth mewn cyfarfod
o’r Pwyllgor Busnes yn y dyfodol. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o
fynd y tu hwnt i 7.00pm Dydd
Mercher · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.15pm Pwyllgor
Senedd y Dyfodol Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y gallai Pwyllgor Senedd y Dyfodol, os caiff ei sefydlu gan y
Senedd ar 16 Hydref, gynnal cyfarfod cychwynnol fore Mercher 23 Hydref. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd, mewn egwyddor, i’r Pwyllgor gael slot cyfarfod parhaol o
fewn amserlen y pwyllgorau yn yr un cylchdro â’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai. |
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r
Rheolwyr Busnes nad oes unrhyw newidiadau i amserlen Busnes y Llywodraeth ar
gyfer y tair wythnos nesaf. Gwnaeth Darren Millar gais i’r
Llywodraeth wneud datganiad ysgrifenedig neu lafar ar y Cynllun Ffermio
Cynaliadwy cyn y toriad hanner tymor. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried y
cais. |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mercher 23 Hydref 2024 –
Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024 - ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: A yw plant a phobl
ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? (60 munud) ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adfer safleoedd
glo brig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Nododd y
Pwyllgor Busnes y bydd dadl ar y ddeiseb P-06-1456: Ymchwiliad cyhoeddus
llawn i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng nghanolbarth a gogledd Cymru y
gofynnwyd amdani’n flaenorol gan y Pwyllgor Deisebau, yn cael ei gohirio nes y
bydd gweithrediadau barnwrol cyfredol ar y mater wedi’u cwblhau. |
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch ymweliad y pwyllgor â Brwsel. Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes ar gais pellach i aelodau’r pwyllgor gael eu hesgusodi hefyd o’r
Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 19 Tachwedd, pe bai busnes yn rhedeg yn hwyr y
noson honno. |
|
|
Casglu ynghyd ganllawiau a gyhoeddir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17 |
|
|
Canllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y diwygiadau arfaethedig i'r
Canllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid, yn ymwneud â'r Cyfarfod Llawn a
chyfarfodydd pwyllgor a nododd ei fod yn fodlon â'r diwygiadau hynny. Cytunodd
y Rheolwyr Busnes hefyd ar drefniadau ymarferol arfaethedig ar gyfer treialu
rhaghysbysiad ar gyfer pleidleisio o bell yn y Cyfarfod Llawn. |
|
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
|
Rhaglen Waith Weithdrefnol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ei Raglen Waith Weithdrefnol a'r rhyngweithio rhwng nifer o
eitemau yn y rhaglen a chylch gwaith Pwyllgor arfaethedig Senedd y Dyfodol.
Mewn perthynas â’r adolygiadau arfaethedig o’r broses graffu ddeddfwriaethol ar
gyfer Biliau cyhoeddus a phroses Bil Aelod, nododd y Pwyllgor Busnes y byddai’n
parhau i fod yn gyfrifol am y ddau adolygiad, ond y gallai fod angen iddo
ystyried unrhyw gynigion a wneir gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol sy’n berthnasol
i'r agweddau hynny, ac agweddau eraill, ar ei raglen. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y canlynol: · yr amserlen arfaethedig ar gyfer ei
waith gweithdrefnol; a · pheidio â dechrau adolygiad llawn
o'r broses cydsyniad deddfwriaethol fel rhan o'r rhaglen ar hyn o bryd, ond
ystyried y sefyllfa yng ngoleuni profiad wrth ystyried diweddariad pellach i'r
rhaglen yn nhymor y Gwanwyn. |
|
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Gofynnodd y
Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau o sesiynau galw heibio ac
ymgynghoriad sydd ar y gweill gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol. |
PDF 192 KB