Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds. |
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd y gofnodion
y cyfarfod blaenorol i’w gyhoeddi |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm Dydd Mercher ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio
ei gynnal cyn y ddadl fer. ·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm |
|
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd
y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes
y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd
Mawrth 15 Hydref 2024 ·
Datganiad
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ynni a’r economi
werdd (45 munud) Dydd
Mawrth 22 Hydref 2024 ·
Datganiad
gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig: Y Strategaeth Addasu Hinsawdd (45 munud) ·
Rheoliadau
Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol)
(Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024 (5 munud) |
|
|
Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar y newidiadau a
ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mercher 16 Tachwedd
2024 -
Dydd Mercher 6 Tachwedd
2024 -
|
|
|
Gynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Datganodd
Heledd Fychan fuddiant ar ôl cyflwyno un o'r cynigion arfaethedig i'w ddethol. Trafododd
y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i
amserlennu’r cynnig canlynol ar 16 Hydref: Heledd
Fychan NNDM8687 Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno rhagdybiaeth mewn prosesau cynllunio yn
erbyn cymeradwyo datblygu chwareli yn agos at aneddiadau. 2.
Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a)
ei gwneud yn ofynnol i risgiau i'r amgylchedd a bioamrywiaeth, ac i iechyd y
cyhoedd, mewn cysylltiad â safleoedd chwarelyddol arfaethedig gael eu hasesu
fel rhan o'r broses gynllunio; b)
gosod parth clustogi gorfodol o 1,000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a'r
rhai presennol; ac c)
darparu mai dim ond Gweinidog perthnasol Llywodraeth Cymru all wneud y
penderfyniad ar gais cynllunio ar gyfer datblygu chwarel, gydag ystyriaeth yn
cael ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Amserlen ar gyfer y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ohebiaeth a ddaeth i law ynghylch yr
amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi
a Diddymu) (Cymru), ynghyd â meini prawf penderfynu ar geisiadau am amserlenni
cyflym. Nododd Darren Millar a Heledd Fychan nad oedd y rhesymeg a ddarparwyd gan y
Llywodraeth yn bodloni'r meini prawf y cytunwyd arnynt ar gyfer amserlen gyflym
ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1. Dywedodd y Trefnydd fod y Llywodraeth wedi
cynnig yr hyn yr oedd yn ei deimlo oedd yn briodol, yn hytrach nag amserlen
gyflym ar gyfer Cyfnod 1, yng ngoleuni natur dechnegol y Bil ac y byddai gydag amharodrwydd yn gallu cytuno
i symud i
eisteddiad deg wythnos ar gyfer
Cyfnod 1. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid diwygio'r amserlen i ddarparu deuddeg
wythnos ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1, ac y dylid ystyried y mater yn ymwneud
ag a ddylai fod rhagor o hyblygrwydd o ran hyd priodol ar gyfer gwaith craffu
Cyfnod 1 ar gyfer gwahanol Filiau, fel rhan o'r adolygiad sydd ar y gweill o'r
broses ar gyfer Biliau cyhoeddus. |
|
|
Meini prawf gwneud penderfyniadau ar geisiadau i gyflymu'r amserlenni ar gyfer Biliau'r Senedd Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y papur a chytunodd y dylai'r pwyllgor
newydd arfaethedig gael ei alw'n Bwyllgor Senedd y Dyfodol / Future Senedd Committee. Cafodd y Pwyllgor Busnes drafodaeth bellach ar union gylch gwaith
Pwyllgor Senedd y Dyfodol a chytunodd i ystyried rhai mân newidiadau a chytuno
arnynt, y tu allan i'r cyfarfod. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gadarnhau aelodaeth y Pwyllgor i'r
ysgrifenyddiaeth ac i gynnig yn cynnig sefydlu'r pwyllgor gael ei osod i'w
ystyried gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 16 Hydref. |
|
|
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Amserlen ar gyfer y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) |
|
|
Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad: Amserlen y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) |
|
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
|
Cynnig cylch gwaith drafft ar gyfer pwyllgor newydd mewn ymateb i Ddiwrnod Cwrdd i Ffwrdd y Pwyllgor Busnes a Chomisiwn y Senedd (Cymraeg i ddilyn) Cofnodion: Business Committee
considered the paper and agreed that the proposed new committee should be
titled the Future Senedd Committee/Pwyllgor Senedd y Dyfodol. Business Committee
had a further discussion of the precise remit for the Future Senedd Committee
and agreed to consider and agree some minor changes outside of the meeting. Business Managers
agreed to confirm the membership of the Committee to the secretariat and for a
motion proposing the establishment of the committee to be laid for
consideration by the Senedd in Plenary on Wednesday 16 October. |
|
|
Rhannu swydd Cadeirydd Pwyllgor: crynodeb o dystiolaeth cam 1 a datblygu cynigion manwl Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus
cam 1 a chytunodd i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad cam 2 gydag Aelodau o'r Senedd
a chyrff eraill. Wrth wneud hynny,
cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:
|
PDF 195 KB