Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu:
2 Hydref
Delyth
Jewell
NNDM8566
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn
gresynu bod poen corfforol ac emosiynol menywod yn cael ei normaleiddio yn eu
gofal iechyd, yn ogystal â'r disgwyliad bod poen yn agwedd anffodus ar iechyd
menywod ond yn un na ellir ei hosgoi.
2. Yn
credu, drwy ymgynghori â gynaecolegwyr, bydwragedd a grwpiau iechyd menywod, y
dylai gweithwyr iechyd proffesiynol anelu at leihau sefyllfaoedd lle y mae poen
yn ddisgwyliedig ac yn cael ei dderbyn fel rhywbeth normal yng ngofal iechyd y
GIG.
3. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a)
cryfhau'r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau'r GIG yn y Datganiad Ansawdd ar
gyfer iechyd menywod a merched;
b) sefydlu
gofyniad cyfreithiol i ddarparwyr gofal iechyd gasglu adborth yn rheolaidd gan
gleifion benywaidd am eu profiadau a'u bodlonrwydd â'r gofal a gânt, yn enwedig
mewn perthynas ag apwyntiadau gynaecolegol, bydwreigiaeth a gwasanaethau
ôl-enedigol, iechyd meddwl amenedigol a menopos; ac
c) cyflwyno
rhwymedigaethau statudol ar gyfer datblygu, cydgysylltu a gweithredu'r Cynllun
Iechyd Menywod a ddatblygwyd gan GIG Cymru y mae gynaecolegwyr, bydwragedd a
grwpiau iechyd menywod wedi ymgynghori arno, a ddylai gynnwys mesurau i fynd
i'r afael â normaleiddio poen ym maes gofal iechyd menywod, ac atal y
normaleiddio hwnnw.
23 Hydref
Julie
Morgan
NNDM8656
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi nad yw'r cyfrifoldeb dros ddeddfu i
ganiatáu cymorth i farw wedi ei ddatganoli i Gymru, gan ei fod ar hyn o bryd yn
fater a gaiff ei lywodraethu gan gyfraith droseddol.
2. Yn nodi,
pe bai cymorth
i farw yn cael ei gyfreithloni, ac o ystyried ei chyfrifoldeb dros iechyd a
gofal cymdeithasol, y byddai angen i Lywodraeth Cymru gael dealltwriaeth fanwl
o unrhyw gynigion.
3. Yn credu
y dylai oedolyn yn ei lawn bwyll, y mae ganddo gyflwr corfforol annioddefadwy
na ellir ei wella ac y mae wedi nodi ei ddymuniad clir a phendant i farw, gael
yr opsiwn o gymorth i farw, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu cadarn.
4. Yn nodi
bod ymchwiliad diweddar gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol San Steffan
wedi canfod cysylltiad rhwng cyflwyno cymorth i farw a gwelliant o ran gofal
lliniarol mewn sawl awdurdodaeth.
5. Yn nodi
bod y Swyddfa Economeg Iechyd wedi canfod, hyd yn oed pe baent yn cael y
feddygaeth liniarol orau, y byddai o leiaf 5,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru
a Lloegr yn marw heb unrhyw ffordd effeithiol o leddfu eu poen yn eu mis
olaf.
6. Yn nodi
bod agweddau'r cyhoedd at roi cymorth i farw wedi newid, gyda hyd at 88% o'r
cyhoedd yn ffafrio newid y gyfraith.
7. O ran
pobl o'r DU sy'n dioddef, bod mwy nag un yr wythnos bellach yn dewis dod â’u
bywyd i ben yn un o ganolfannau diwedd oes y Swistir, a bod llawer yn rhagor a
fyddai'n dewis gwneud yr un peth ond sy’n methu â fforddio'r costau uchel
perthnasol, sy’n aml ymhell dros £10,000.
8. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) cefnogi
egwyddorion cymorth i farw; a
b) cefnogi
senedd San Steffan i gyflwyno deddf dosturiol o ran cymorth i farw yng Nghymru
a Lloegr.