Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes fod Jack Sargeant a Vikki Howells wedi ymddiswyddo fel cadeiryddion y
Pwyllgor Deisebau a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn y drefn honno, yn dilyn eu
penodiadau i swyddi gweinidogol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai
cadeiryddiaeth y ddau bwyllgor barhau i gael ei dyrannu i’r grŵp Llafur.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer
cadeiryddion y pwyllgorau ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth. Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn: · Enwebiadau ar gyfer cadeiryddion
pwyllgorau (5 munud) · Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
(45 munud) Symudwyd i 1 Hydref · Cynnig i atal Rheolau Sefydlog (5
munud) · Cynnig i gymeradwyo enwebu Cwnsler
Cyffredinol (5 mun) · Datganiad gan y Gweinidog Gofal
Cymdeithasol: Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng
Nghymru Gohiriwyd tan 24 Medi · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Yr economi werdd Tynnwyd yn ôl · Datganiad gan y Prif Weinidog:
Cysylltiadau rhynglywodraethol Gohiriwyd tan 24 Medi · Datganiad gan y Prif Weinidog:
Blaenoriaethau'r Llywodraeth (60 munud) · Datganiad gan y Prif Weinidog: Tata
Steel (45 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cyflogau’r sector cyhoeddus (45 munud) · Datganiad gan y Dirprwy Brif
Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
Glanhau ein hafonydd, llynnoedd a moroedd (45 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg: Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd (45
munud) Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai ffotograffydd yn bresennol yn y Siambr
ar ddechrau’r cyfarfod ddydd Mawrth i dynnu ffotograffau o’r sesiwn Cwestiynau
i'r Prif Weinidog. · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.15pm Dydd
Mercher · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal ar ôl y Ddadl Fer. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.10pm |
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. Dydd Mawrth
24 Medi 2024 · Datganiad gan y Prif Weinidog:
Cysylltiadau rhynglywodraethol (45 munud) Gohiriwyd o 17 Medi · Datganiad gan y Gweinidog Plant a
Gofal Cymdeithasol: Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a
Chymorth yng Nghymru (45 munud) - gohiriwyd o 17 Medi · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein
rheilffyrdd (45 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn y GIG
(45 munud) · · Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.79 i
dynnu Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn ôl (30 munud) Dydd
Mercher 25 Medi 2024 · Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Dydd Mawrth
1 Hydref 2024 ·
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 mins) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Mwy o gartrefi i helpu i roi diwedd ar
ddigartrefedd (45 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg: trochi yn y Gymraeg (45 munud) · Datganiad gan y Gweinidog Plant a
Gofal Cymdeithasol: Pwysigrwydd y 1000 diwrnod cyntaf mewn bywyd plentyn – o
genhedlu i 2 oed (45 munud) Dydd
Mercher 2 Hydref 2024 · Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet
dros Lywodraeth Leol a Thai |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf: Dydd Mercher 25 Medi 2024 – ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Pedwerydd adroddiad ar ddeg i’r
Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)
Dydd Mercher 2 Hydref 2024 – ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Cyfoeth
Naturiol Cymru - Gwaith Craffu Blynyddol 2023-24 (60 munud)
Dydd Mercher 9 Hydref 2024 –
|
|
|
Amserlen ar gyfer Cwestiynau Llafar i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes yr amserlen newydd ar gyfer Cwestiynau Llafar i Weinidogion
Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor
Busnes y wybodaeth ddiweddaraf ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a
chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:
|
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y broses cydsyniad deddfwriaethol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad ynghylch adolygiad cynhwysfawr o’r broses cydsyniad
deddfwriaethol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drafod opsiynau ar gyfer bwrw
ymlaen â’r gwaith hwn wrth gytuno ar ei flaenraglen waith weithdrefnol mewn
cyfarfod yn y dyfodol. |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Rheolau Sefydlog 29 a 30A Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr ac ei fod wedi cytuno i gynnig gwelliannau i eiriad
Rheol Sefydlog 29.1 i’r Senedd. Nododd y
Pwyllgor hefyd y gellid ystyried Rheol Sefydlog 30A o fewn unrhyw adolygiad
ehangach o'r cydsyniad deddfwriaethol a'r prosesau cysylltiedig y gall y
Pwyllgor Busnes benderfynu ymgymryd â nhw wrth gytuno ar ei flaenraglen waith
weithdrefnol mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 |
|
|
Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am amserlen Cyllideb Ddrafft 2025-26 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes y llythyr. Cadarnhaodd y Trefnydd fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r
gyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr 2024. |
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Llythyr gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ynghylch slot cyfarfod parhaol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes gais
gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru i’r
Pwyllgor hwnnw gael slot cyfarfod parhaol o fewn amserlen y Pwyllgorau. Trafododd y Pwyllgor Busnes yr
opsiynau posibl ar gyfer cael slot i’r Pwyllgor o fewn yr amserlen bresennol a
nododd y byddai angen ystyried newidiadau disgwyliedig i aelodaeth pwyllgorau
mewn unrhyw benderfyniad. Nododd y Pwyllgor Busnes mai slot cyfarfod ar ddydd
Llun yw'r ateb gorau ar hyn o bryd ond cytunodd i ddychwelyd at y mater yn y
cyfarfod canlynol. |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn gwneud cais am slot dadl Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes gais
gan y Pwyllgor Deisebau a chytunodd i drefnu dadl ar ddeiseb P-06-1456: Ymchwiliad
cyhoeddus llawn i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng nghanolbarth a
gogledd Cymru |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn gwneud cais i Aelodau’r Pwyllgor ymgymryd â busnes y Pwyllgor ym Mhowys Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais
gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i’w Aelodau gael eu
hesgusodi o’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 2 Hydref er mwyn ymgymryd â busnes y
Pwyllgor. |
|
|
Rheolau Sefydlog |
|
|
Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 29.1 (Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU) Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad, ac iddo gael ei osod, a chynnig i’r Senedd
gytuno ar y newid i’r Rheolau Sefydlog i’w gyflwyno i’w drafod ddydd Mercher 25
Medi 2024. |
|
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
|
Adolygiad o’r canllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
Busnes weithrediad y canllawiau presennol ar drafodion rhithwir a hybrid, gan
gynnwys materion yn ymwneud â’r lleoliadau lle gall Aelodau ymuno â thrafodion
y Cyfarfod Llawn a’r gallu i fodloni niferoedd uchel o Aelodau sy’n ymuno o bell
yn ystod y cyfnod pleidleisio. Nododd y Pwyllgor
rinweddau trafodion hybrid ond roedd yn cydnabod yr heriau y gall hyn eu
cyflwyno weithiau ar gyfer cadeirio cyfarfodydd a'r angen i sicrhau
proffesiynoldeb bob amser. Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd fod Fforwm y
Cadeiryddion wedi nodi awydd i wneud rhai newidiadau i agweddau ar y canllawiau
sy'n ymwneud â thrafodion pwyllgorau. Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i drafod y materion a godwyd gyda'u grwpiau ac i ddychwelyd at
drafodaeth bellach ynghylch gwelliannau posibl i’r canllawiau mewn cyfarfod yn
y dyfodol. |
PDF 130 KB