Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm

 

Mynegodd Heledd Fychan siom nad yw'r diweddariadau diweddar ar 'Drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd' yn y GIG a fframwaith mesurau arbennig newydd, gan gynnwys meini prawf dad-ddwysáu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi cael eu gwneud fel datganiadau llafar ac felly yn destun gwaith craffu gan y Senedd. Nododd y Trefnydd y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyflwyno datganiadau llafar ar y materion hyn.

 

Dydd Mercher

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:

 

·       Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl y ddadl fer.  

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.45pm

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

Dydd Mawrth 17 Medi 2024

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg: Yr economi werdd (45 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau rhynglywodraethol (45 munud)

 

Dydd Mawrth 24 Medi 2024

 

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd (45 munud)

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: 

 

Dydd Mercher 2 Hydref 2024 –

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl fer (30 munud)

 

Holodd Heledd Fychan a fyddai modd aildrefnu Dadl Aelod Delyth Jewell ar ofal iechyd menywod a oedd i fod i gael ei chynnal ar 19 Mehefin ond a gafodd ei gohirio ar gais yr Aelod. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'n caniatáu ailgyflwyno'r cynnig fel y gellir ei ailystyried i'w ddewis pan ddaw’r cyfle nesaf.

 

 

4.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26

4.1

Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr amserlen ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2025-26

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ymateb y Pwyllgor Cyllid a'r materion a godwyd ganddo ynghylch yr amserlen arfaethedig ar gyfer ystyried Cyllideb Ddrafft 2025-26. Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen arfaethedig, gan nodi y gallai fod yn bosibl addasu'r amserlen unwaith y bydd dyddiad digwyddiad cyllidol yr hydref Llywodraeth y DU yn hysbys.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i ystyried ymhellach yr awgrymiadau a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd i'r Senedd graffu ar y gyllideb yn ystod tymor yr hydref.

 

 

 

 

 

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet ynghylch amserlen Cyllideb Ddrafft 2025-26

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ymateb y Pwyllgor Cyllid a'r materion a godwyd ganddo ynghylch yr amserlen arfaethedig ar gyfer ystyried Cyllideb Ddrafft 2025-26. Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen arfaethedig, gan nodi y gallai fod yn bosibl addasu'r amserlen unwaith y bydd dyddiad digwyddiad cyllidol yr hydref Llywodraeth y DU yn hysbys.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i ystyried ymhellach yr awgrymiadau a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd i'r Senedd graffu ar y gyllideb cyn cyflwyno’r Gyllideb.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch ei ymchwiliad i atebolrwydd aelodau unigol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

 

5.2

Llythyr ar y cyd gan Bwyllgorau ynghylch ymweliad ag Iwerddon

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais a chytunodd mewn egwyddor i aelodau'r tri phwyllgor adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar ddydd Mercher 18 Medi 2024.

Gofynnodd y Pwyllgor Busnes i'r opsiynau ar gyfer yr Aelodau dan sylw  allu teithio ar adeg sy'n cyfyngu ar yr effaith ar y Cyfarfod Llawn gael eu harchwilio ymhellach.

 

 

6.

Gwaith Gweithdrefnol

6.1

Diwygiad arfaethedig i Reol Sefydlog 29.1

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i lunio adroddiad yn argymell bod y Senedd yn cytuno i ddiwygio Rheol Sefydlog 29.1 (cydsyniad mewn perthynas â Biliau Senedd y DU).

 

 

6.2

Cynnig gan Aelodau ar gyfer dadl ffurf hirach

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes drafodaeth bellach ar rinweddau cyflwyno fformat newydd ar gyfer dadleuon estynedig achlysurol i'w cynnal ar brynhawn Mercher i’w threialu, yn dilyn ei ystyriaeth flaenorol o ohebiaeth gan sawl Aelod.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y cynnig a'r opsiynau a gyflwynwyd gyda grwpiau pleidiau a dychwelyd i ystyried cynnig manwl mewn cyfarfod yn gynnar yn nhymor yr hydref.

 

 

6.3

Adolygiad o’r canllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at drafodaeth bellach ar y canllawiau cyfredol ar drafodion rhithwir a hybrid ar ddechrau tymor yr hydref.