Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|||||||||||||||||
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|||||||||||||||||
|
Trefn Busnes |
|||||||||||||||||
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn: · Cyfnod 3 y Bil Cyllid
Llywodraeth Leol (Cymru) ( · Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn
trafodion Cyfnod 3. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.30pm Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd toriad o 10 munud yn cael ei gymryd rhwng
y Cyfnod Pleidleisio a thrafodion Cyfnod 3. Dydd
Mercher · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal ar ôl y ddadl fer. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.40pm |
|||||||||||||||||
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes nad oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i
amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|||||||||||||||||
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd
Mercher 17 Gorffennaf 2024 -
Dydd
Mercher 18 Medi 2024 -
Dydd
Mercher 25 Medi 2024 -
|
|||||||||||||||||
|
Deddfwriaeth |
|||||||||||||||||
|
Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch amserlen Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb
gan y Pwyllgor a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar Fil y
Gymraeg ac Addysg (Cymru). |
|||||||||||||||||
|
Amserlen ddiwygiedig ar gyfer Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes amserlen ddiwygiedig a gyflwynwyd gan y Trefnydd a: ·
chytuno ar
y terfyn amser diwygiedig ar gyfer Cyfnod 2, sef 4 Hydref 2024; ·
nodi y
cytunwyd mewn egwyddor yn flaenorol i gyflwyno cynnig bod trafodion Cyfnod 2 yn
cael eu cyfeirio at Bwyllgor o’r Senedd Gyfan; ·
cytuno i
roi effaith i'r penderfyniad hwnnw drwy gyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog
26.17(iii) i'w drafod ar 17 Gorffennaf 2024, yn amodol ar yr egwyddorion
cyffredinol yn cael eu cytuno ar 16 Gorffennaf; a ·
chytuno y
cynhelir trafodion Cyfnod 2 ar ôl y Cyfarfod Llawn ar 1 Hydref 2024. · yn ddarostyngedig i'r uchod, cytuno i ddyrannu slot cyfarfod i Bwyllgor o’r
Senedd Gyfan at ddibenion trafodion Cyfnod 2 ar ôl y Cyfarfod Llawn ar 1 Hydref
2024. |
|||||||||||||||||
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 |
|||||||||||||||||
|
Llythyr gan y Trefnydd a'r Prif Chwip ynghylch amserlen Cyllideb Ddrafft 2025-26 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes
amserlen y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26 ac, yn unol â Rheol Sefydlog 20.4,
cytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid er mwyn ymgynghori â’r pwyllgor ar
yr amserlen arfaethedig. |
|||||||||||||||||
|
Pwyllgorau |
|||||||||||||||||
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn gwneud cais am slot ar gyfer dadl Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais
a chytunodd i drefnu dadl ar ddeiseb P-06-1455 Amddiffyn adrannau iau
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhag cael eu cau ar 18 Medi 2024. |
|||||||||||||||||
|
Ystyried yr ymatebion a gafwyd gan bwyllgorau ynghylch eu cylchoedd gwaith Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymatebion a’r awgrymiadau a gafwyd gan y pwyllgorau,
a chytunwyd i drosglwyddo cyfrifoldeb am graffu ar borthladdoedd
rhydd a’r economi gylchol o gylch gorchwyl Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
(CCEI) i gylch gorchwyl
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (ETRA). Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i
gynnig bod cadeiryddion y pwyllgorau hyn, a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
(LGH) yn trafod yn anffurfiol ffyrdd y gallent gydgysylltu ymhellach y gwaith
craffu gweinidogol rhwng eu pwyllgorau, ac yn arbennig yn ystod gwaith craffu
ar y gyllideb. |
|||||||||||||||||
|
Amserlen y Senedd |
|||||||||||||||||
|
Dyddiadau Toriadau Cofnodion: Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y
dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y gwanwyn a thoriad y Pasg 2025, a
chytunwyd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn a’r Haf 2025,
fel y nodir isod:
* Dyddiadau
dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes. |
|||||||||||||||||
|
Trefniadau Cyflwyno |
|||||||||||||||||
|
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad yr Haf Cofnodion: Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y
trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod toriad yr haf a
chytunodd hefyd ar y trefniadau arferol ar gyfer cyflwyno Cwestiynau
Ysgrifenedig. |
PDF 195 KB