Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:

 

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg: Tata Steel (45 munud)

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn trafodion Cyfnod 3.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.05pm

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd toriad o 15 munud yn cael ei gymryd rhwng y Cyfnod Pleidleisio a thrafodion Cyfnod 3. Mae 53 o welliannau i’w gwaredu mewn 15 grŵp ac felly’r disgwyl yw y bydd Cyfnod 3 yn cymryd rhwng 2 a 3 awr.

 

At hynny, dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi cytuno i Julie James gael pleidlais drwy ddirprwy o’r wythnos hon tan 13 Awst. Jane Hutt fydd yn cynnal y bleidlais. Nododd y Llywydd, hefyd, fod trefniant pleidleisio drwy ddirprwy Jack Sargeant bellach wedi dod i ben.

 

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl y ddadl fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.25pm

 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio (45 munud) – i’w hateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet

 

Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar drafnidiaeth (45 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (5 munud)

o   Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2024

o   Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024

 

Gofynnodd Heledd Fychan am eglurder ar destun y Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar drafnidiaeth, i'w gynnal ar 16 Gorffennaf. Cytunodd y Trefnydd i ddarparu rhagor o wybodaeth i Reolwyr Busnes y tu allan i'r cyfarfod.

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: 

 

Dydd Mercher 18 Medi 2024 –

 

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl fer (30 munud)

 

 

4.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26

4.1

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet ynghylch amserlen y Gyllideb Ddrafft 2025-26

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

 

5.

Gwaith Gweithdrefnol

5.1

Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor: ymagwedd at waith

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried ei ddull o weithio o ran cadeiryddion pwyllgor yn rhannu swydd, a chytunwyd ar gylch gorchwyl ac amserlen fesul cam ar gyfer y gwaith.

 

Byddai'r amserlen honno'n cynnwys ymarfer casglu tystiolaeth cyfyngedig wedi'i dargedu gyda Fforwm y Cadeiryddion a rhanddeiliaid allanol perthnasol, ar egwyddorion ac ymarferoldeb cadeiryddion pwyllgorau yn rhannu swydd, fel cam cyntaf y gwaith. Byddai’r ail gam yn cynnwys ymgynghori ag Aelodau, grwpiau gwleidyddol, y Bwrdd Taliadau Annibynnol, Comisiwn y Senedd a Fforwm y Cadeiryddion ar gynigion penodol yn nhymor yr hydref.

 

 

5.2

Parodrwydd gweithdrefnol ar gyfer Diwygio’r Senedd – ystyried yr adolygiad arfaethedig

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried materion ac opsiynau yn ymwneud â chwmpas ei adolygiad gweithdrefnol arfaethedig mewn ymateb i ddiwygio’r Senedd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnal adolygiad eang i gynnwys meysydd dewisol, yn ogystal â’r gofynion hanfodol a’r ymrwymiadau y mae wedi’u rhoi’n flaenorol, a dychwelyd i ystyried cynllun manwl ac amserlen ar gyfer yr adolygiad yn nhymor yr hydref.

 

Gofynnodd Heledd Fychan i’r cydbwysedd rhwng y rhywiau o ran aelodaeth y pwyllgorau gael ei ystyried fel rhan o’r gwaith, a nododd y Llywydd y byddai angen gwneud gwaith hefyd ar drefniadau pleidleisio yn ymwneud â Dirprwy Lywydd ychwanegol posibl.