Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan. Roedd Mabon ap Gwynfor yn bresennol yn ei lle.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar Gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm

 

Dydd Mercher

 

·       Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 10 munud) 

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl y ddadl fer.  

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.25pm

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 9 Gorffennaf 2024

  • Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024 (15 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: 

 

Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2024 -

 

·      Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Trydydd adroddiad ar ddeg i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)

 

Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2024 -

 

  • Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Atebolrwydd Aelod Unigol (30 munud)

·      Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26 (60 munud)

·      Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Y sefyllfa sydd ohoni: Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru (60 munud)

·      Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·      Dadl Fer: Luke Fletcher AS (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ar gyfer amserlen Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio Bil y Gymraeg ac Addysg at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn ystyried yr egwyddorion cyffredinol ac ymgynghori â’r Pwyllgor ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gwneud cais i gwrdd y tu allan i’w slot cyfarfod arferol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y gall y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gwrdd dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024 ac ar amser cynharach na'i slot cyfarfod rheolaidd ddydd Llun 23 Medi 2024.

 

 

6.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Pleidleisio

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes bwysleisio eto i'w grwpiau pa mor bwysig yw bod yn bresennol ac yn weladwy mewn da bryd cyn yr amser pleidleisio, yn enwedig pan fo niferoedd uchel o Aelodau yn cymryd rhan o bell. Nodwyd y bydd disgwyliadau ynghylch pleidleisio o bell yn cael eu harchwilio ymhellach pan fydd y Pwyllgor Busnes yn ailedrych ar ganllawiau cymryd rhan o bell, fel y cytunwyd yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor.

Rhaglen waith weithdrefnol

Nododd y Llywydd fod llwyth gwaith gweithdrefnol y Pwyllgor ar gyfer y tri chyfarfod arall yn nhymor yr haf yn debygol o fod yn sylweddol.