Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Roedd Russell George yn bresennol ar ran Darren Millar.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:

 

  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
  • Dadl: Adroddiad Ymchwiliad Gwaed Heintiedig (60 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Trawsnewid Gwasanaethau Plant (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Trawsnewid y Rheilffyrdd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Metro yn Ne Cymru a’r Rhaglen i Ddiweddaru’r Fflyd (30 munud)
  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
  • Dadl: Y Diwydiant Dur yng Nghymru (60 munud)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. 
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.40pm

 

Dydd Mercher

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes ei bod wedi cymeradwyo trefniant pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer Jack Sargeant oherwydd absenoldeb rhiant, a fydd yn weithredol rhwng 4 Mehefin 2024 a 28 Mehefin 2024. Bydd y bleidlais drwy ddirprwy yn cael ei chynnal gan Vikki Howells.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 11 Mehefin 2024

 

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Amgylchedd morol cynaliadwy yng Nghymru (45 munud)

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: D Day ac wythnos y lluoedd arfog (45 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Y sector manwerthu – cyfrannu at genhadaeth economaidd Cymru (45 munud)

 

Dydd Mawrth 18 Mehefin 2024

 

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: Wythnos y ffoaduriaid: ein cartref (45 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cymru Greadigol: diweddariad sgiliau (45 munud)

·       Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud)

o   Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

o   Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol))

 

Rrhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes bod Cam 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) wedi'i ohirio tan 2 Gorffennaf.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 12 Mehefin 2024 -

·      Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru (5 munud)

·      Dadl Fer: Joel James AS (Canol De Cymru) (30 munud) Tynnwyd yn ôl

 

Dydd Mercher 26 Mehefin 2024 -

·      Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·      Dadl ar Ddeiseb P-06-1437: Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a'r Comisiwn Brenhinol (30 munud)

·      Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·      Dadl Fer: Heledd Fychan AS (Canol De Cymru) (30 munud)

 

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa eu grwpiau mai'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno cynigion i'w hystyried ar gyfer y Ddadl gan Aelod ar 19 Mehefin yw 5.00pm ddydd Iau, 6 Mehefin.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

5.

Pwyllgorau

5.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am slot ar gyfer dadl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu dadl ar ddeiseb P-06-1437. Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a'r Comisiwn Brenhinol ddydd Mercher 26 Mehefin Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried hyd y ddadl yn nes at yr amser.

 

 

6.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y cynhelir sesiynau galw heibio o gwmpas y Cyfarfod Llawn ar 12 a 19 Mehefin i roi cyfle cynnar i'r Aelodau rannu eu meddyliau neu ddisgwyliadau cychwynnol ynghylch rhaglen adolygiadau gweithdrefnol y Pwyllgor Busnes sy'n deillio o Ddiwygio'r Senedd. Bydd safbwyntiau a fynegir yn cael eu hystyried wrth ddatblygu Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer y gwaith, a chaiff ei gyflwyno i'r Pwyllgor Busnes cyn toriad yr haf.