Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon (wedi'i diweddaru)

Cofnodion:

Dydd Mawrth

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.30pm

 

Gofynnodd Darren Millar pam roedd y Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol wedi cael ei ohirio o 21 Mai i 4 Mehefin. Cadarnhaodd y Trenfydd fod angen i'r Llywodraeth gymryd rhagor o amser i ystyried y mater yn dilyn diwedd y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

 

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

 

Ar ôl i gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ymddisywddo wedi iddi gael ei phenodi i rôl weinidogol, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai cadeiryddiaeth y pwyllgor hwnnw barhau i gael ei ddyrannu i’r grŵp Llafur.

Gofynnodd Darren Millar i nodyn gael ei ddosbarthu ynghylch y dyraniad presennol o ran cadeiryddiaeth pwyllgorau i grwpiau gwleidyddol. Cadarnhaodd Heledd Fychan fod Rhys ab Owen AS yn parhau i fod wedi ei wahardd o grŵp Plaid Cymru dros dro.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y byddai'r Llywydd yn gwahodd enwebiadau cyn Cwestiynau'r Prif Weinidog ac y byddai’r canlyniad, pe bai angen pleidlais gudd, yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y cyfarfod llawn heddiw. 

 

 

Dydd Mercher

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm

 

Cytundeb Cydweithio

 

Ar ôl derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan Arweinydd Plaid Cymru ei bod wedi tynnu'n ôl o'r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, cadarnhaodd y Llywydd nad yw’r Canllawiau ychwanegol ar weithrediad trafodion y Cyfarfod Llawn yn ystod y Cytundeb Cydweithio bellach yn berthnasol. Yn dilyn ymgynghoriad â Rheolwyr Busnes, cadarnhaodd y Llywydd hefyd:

 

  • Bydd llefarwyr Plaid Cymru yn cael eu galw i ofyn tri chwestiwn yn ystod sesiynau cwestiynau llafar, i ddod i rym ar unwaith, gan ddechrau gyda chwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol y prynhawn yma.
  • Ni fydd yn ofynnol bellach i Arweinydd Plaid Cymru a chyn-Aelodau Dynodedig gyfyngu ar y cwestiynau (a gyflwynir ac atodol) yn ystod sesiynau cwestiynau gweinidogol i faterion etholaethol neu ranbarthol, a gallant gyfrannu at ddatganiadau llafar gweinidogol yn yr un modd ag Aelodau eraill.

 

Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y bydd cymhareb yr amser ar gyfer cynnal dadl wrthblaid a ddyrennir i Blaid Cymru yn cyfateb i nifer yr Aelodau yng ngrŵp Plaid Cymru ac na fydd bellach yn cael ei leihau i gymryd i ystyriaeth Arweinydd Plaid Cymru a nifer yr Aelodau Dynodedig.

 

 

3.2

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf (wedi'i diweddaru)

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

Dydd Mawrth 4 Mehefin 2024

 

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol (45 munud)

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad (15 munud) -Gohiriwyd

 

Holodd Heledd Fychan a oedd yn fwriad gan y Llywodraeth ychwanegu busnes pellach ar gyfer yr wythnosau i ddod. Cadarnhaodd y Trefnydd y byddai'n rhoi rhagor o fanylion i'r Pwyllgor Busnes o ran yr amserlen i ddod erbyn diwedd busnes dydd Mercher.  

 

3.3

Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

3.4

NNDM8578 – Dyfodol gwaith dur Port Talbot

Cofnodion:

Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 5 Mehefin 2024 -

 

  • Dadl Fer: Laura Anne Jones AS (Dwyrain De Cymru) Altaf Hussain AS (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mercher 19 Mehefin 2024 -

 

·      Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn gofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) (60 munud)

·      Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Rhys ab Owen AS (Canol De Cymru) (30 munud)

 

NNDM8578 – Dyfodol gwaith dur Port Talbot 

Trafododd y Pwyllgor Busnes gais pellach gan Luke Fletcher i drefnu dadl ar NNDM8578.

Datganodd Heledd Fychan fuddiant gan ei bod wedi cefnogi'r cynnig a mynegodd ei chefnogaeth dros drefnu dadl. Fodd bynnag, nid oedd mwyafrif y Pwyllgor Busnes yn cytuno i drefnu dadl o ystyried y cytundeb a wnaed yn y cyfarfod blaenorol i drefnu datganiad llafar gan y Prif Weinidog ar yr un pwnc ar 14 Mai.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes gais i ymestyn y terfyn amser ar gyfer adrodd a chytunwyd ar derfyn amser newydd o 21 Mehefin ar gyfer yr holl Femoranda sy'n weddill ar y Bil Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad.

 

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tybaco a Fêps

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes gais i ymestyn y terfyn amser ar gyfer Cynnig y Bil Tybaco a Fêps hyd at 26 Gorffennaf, yng ngoleuni'r anawsterau yr oedd y Pwyllgor wedi'u cael o ran sicrhau argaeledd gweinidogol ar gyfer craffu.

Ni wnaeth y Pwyllgor Busnes gytuno i ymestyn y terfyn amser oherwydd y potensial i'r Bil gwblhau'r broses ddeddfwriaethol yn San Steffan cyn toriad yr haf. Fodd bynnag, cadarnhaodd y Trefnydd y byddai'n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i helpu i sicrhau y byddai ar gael i gymryd rhan mewn sesiwn graffu gyda'r Pwyllgor yn yr amser hwnnw.

 

4.3

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ynghylch y Bil Deallusrwydd Artiffisial (Rheoleiddio)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y gall y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gwrdd naill ai ddydd Iau 23 Mai neu ddydd Gwener 24 Mai.

 

6.

Gwaith Gweithdrefnol

6.1

Y Broses Craffu ar Ddeddfwriaeth Sylfaenol:  Terfyn Amser ar gyfer Cyflwyno

Cofnodion:

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at drafodaeth bellach o opsiynau i ganiatáu rhagor o amser rhwng terfynau amser cyflwyno gwelliannau deddfwriaethol a thrafodion ar y gwelliannau hynny.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes yn unfrydol y dylid ystyried y materion hyn fel rhan o'r adolygiad llawn o'r broses graffu ddeddfwriaethol sydd wedi’i threfnu.

Cynigiodd Darren Millar a Heledd Fychan hefyd y dylid bwrw ymlaen â newid dros dro cyn yr adolygiad llawn i roi amser ychwanegol rhwng terfynau amser cyflwyno a thrafodion. Awgrymwyd ganddynt y byddai newid o'r fath yn gwella gwaith craffu ac ansawdd y dadleuon.

Dywedodd y Trefnydd na fyddai'r llywodraeth yn cefnogi unrhyw newidiadau dros dro a gaiff eu gwneud cyn yr adolygiad llawn, oherwydd pryderon am yr effaith y gallai ei chael ar allu'r Llywodraeth i baratoi gwelliannau a rheoli'r amserlen ddeddfwriaethol. Nododd hefyd fod y Llywodraeth yn gweithio'n agosach gydag Aelodau o'r tu allan i'r Llywodraeth yn ystod y camau diwygio.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y mater ymhellach y tu allan i'r Pwyllgor.