Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:

 

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg: Tata Steel (45 munud)

·       Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):

o   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion  cynnig 1 - wedi’i ohirio tan 7 Mai

o   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion  cynnig 2 - wedi’i ohirio tan 7 Mai

·       Cyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (360 240 munud)

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl o 10 munud cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.

 

  • Ni fydd Cyfnod Pleidleisio cyn trafodion Cyfnod 3.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.30pm

 

Dydd Mercher

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 7 Mai 2024  

 

·       Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Senedd yn 25 (45 munud)

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Blaenoriaethau ar gyfer newid hinsawdd a materion gwledig (45 munud)

·       Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):

o    Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 1

o    Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 2

 

Dydd Mercher 8 Mai 2024

 

·       Dadl: Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 14 Mai 2024

 

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ein cenhadaeth genedlaethol: cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru (45 munud)

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Dyfodol ffermio yng Nghymru (45 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Blynyddoedd Cynnar: Gwella iechyd meddwl yng Nghymru (30 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Ein gweledigaeth ar gyfer gofal maeth yng Nghymru (30 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 8 Mai 2024

 

·       Dadl ar Ddeiseb P-06-1392: Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (30 60 munud)

 

Dydd Mercher 22 Mai 2024 -  

 

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud
  • Dadl ar Ddeiseb P-06-1407: Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya 
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 
  • Dadl Fer: Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud) 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd i:

  • gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 13 Mai;
  • gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 31 Mai

 

Nododd y Pwyllgor hefyd y diffyg amser sydd ar gael ar gyfer craffu ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer 7 Mai a chytunodd, o ganlyniad, i beidio â chyfeirio'r Memorandwm at bwyllgorau i graffu arno. Wrth wneud hynny, nododd y Pwyllgor Busnes natur anfoddhaol y sefyllfa hon. Esboniodd y Trefnydd bod y Llywodraeth, oherwydd ei phryderon am y Bil, yn ystyried y dylai'r Senedd ei ystyried cyn gynted â phosibl, tra mae’r Bil yn dal i fod yn y camau diwygio yn San Steffan. Gan fod nifer uchel o ddiwygiadau wedi’u cyflwyno ar hyn o bryd yn San Steffan, tynnodd y Trefnydd sylw hefyd at y ffaith ei bod yn debygol y bydd Memorandwm Atodol pellach yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am slot ar gyfer dadl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu dadl ar ddeiseb P-06-1407. Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu a dileu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya ddydd Mercher 22 Mai

 

 

5.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch ei gyfarfod ar 17 Mehefin

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r cais i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gwrdd cyn ei slot dynodedig ar 17 Mehefin er mwyn darparu ar gyfer sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, ar yr amod bod holl aelodau'r Pwyllgor yn fodlon gwneud hynny.

 

 

6.

Gwaith Gweithdrefnol

6.1

Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar rannu swyddi cadeiryddion pwyllgorau a chytunodd:

  • bod papur yn cael ei baratoi a'i ddychwelyd i'r Pwyllgor Busnes cyn toriad y Sulgwyn ar y materion ymarferol a gweithdrefnol sy'n ymwneud â rhannu swydd cadeirydd pwyllgor, i gynnwys rhestr arfaethedig o gwestiynau a fydd yn sail i gasglu tystiolaeth fewnol ac allanol;
  • i ymgynghori ag Aelodau o'r Senedd yn uniongyrchol a thrwy Reolwyr Busnes, a chyda Fforwm y Cadeiryddion;
  • cyhoeddi galwad agored am dystiolaeth ysgrifenedig a'i hyrwyddo i randdeiliaid perthnasol; a
  • rhoi ystyriaeth bellach i amserlennu tystiolaeth lafar yng ngoleuni unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a dderbyniwyd.

Holodd Heledd Fychan a ellid ystyried y potensial i alluogi rhannu swyddi mewn rolau anstatudol eraill hefyd drwy'r broses hon. Dywedodd y Trefnydd y byddai angen i'r Pwyllgor Busnes fod yn glir wrth esbonio cwmpas y gwaith hwn, a'r rhesymau drosto, yn enwedig gyda chynulleidfaoedd allanol.

Gofynnodd Darren Millar i ystyriaeth gael ei rhoi i weld a ddylai'r gwaith hwn gael ei ddatblygu gan y Pwyllgor Busnes neu'r Pwyllgor Biliau Diwygio, o ystyried yr arbenigedd y mae wedi'i ddatblygu mewn meysydd cysylltiedig. Nododd hefyd y goblygiadau posibl i aelodau meinciau cefn ar gapasiti craffu os cyflwynir deiliaid swyddi ychwanegol drwy rannu swydd.

Cytunodd y Llywydd y bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y materion hyn wrth ystyried y papur nesaf ar y pwnc hwn.