Agenda a chofnodion drafft

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:

 

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Blaenoriaethau Economaidd Ein dyfodol economaidd (30 45 munud)

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Blaenoriaethau Trafnidiaeth Blaenoriaethau ar gyfer Trafnidiaeth: Gwrando, partneriaeth, gwneud newid (30 45 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i newid aelodau Llafur a Cheidwadol ar nifer o bwyllgorau, i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth. Felly, cytunwyd ar y newid ychwanegol a ganlyn i agenda dydd Mawrth:

 

  • Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau (5 munud)

 

Gofynnodd Heledd Fychan i’r Prif Weinidog wneud datganiad llafar i egluro’r sefyllfa mewn perthynas â rhoddion i’w ymgyrch arweinyddiaeth a benthyciadau a wnaed gan Fanc Datblygu Cymru. Cydnabu y Trefnydd y cais. 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.05pm

 

Dydd Mercher

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:

 

·       Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 10 munud)

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y bydd hi’n cyhoeddi canlyniad y balot diweddaraf ar gyfer Bil Aelod ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.

 

Gofynnodd Heledd Fychan pam fod y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar berfformiad Dŵr Cymru wedi’i hamserlennu am 30 munud, yn lle’r 60 munud arferol. Cadarnhaodd y Llywydd fod hyn ar gais y Pwyllgor ond y byddai hi’n ystyried ymestyn y ddadl os bydd nifer fawr o geisiadau i siarad.

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm

 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 30 Ebrill 2024

 

·       Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):

o   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 1

o   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorioncynnig 2

 

Dydd Mawrth 7 Mai 2024

 

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Gweithio ar y cyd i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy (30 munud)

·       Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024 (5 munud)

·       Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024 (15 munud)

 

Holodd Heledd Fychan a oedd yn fwriad gan y Llywodraeth i ychwanegu busnes pellach ar gyfer yr wythnosau i ddod. Dywedodd y Trefnydd mai ei bwriad yw rhoi rhagor o fanylion yn yr amserlen yn y dyfodol.

 

Gofynnodd Darren Millar fod yr amseriad rhagosodedig ar gyfer datganiadau’r Llywodraeth yn cael ei ddychwelyd i 45 munud. Nododd y Trefnydd y cais a chytunodd i’r newid a ganlyn ar gyfer 7 Mai:

 

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Gweithio ar y cyd i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy (30 45 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

O ganlyniad i’r ffaith nad oedd unrhyw gynigion arfaethedig wedi’u cyflwyno ar gyfer Dadl yr Aelod a drefnwyd ar gyfer 8 Mai, cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y Tair Wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 1 Mai 2024 -

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl fer: Peredur Owen Griffiths AS (Dwyrain De Cymru) Alun Davies AS (Blaenau Gwent) (30 munud)

 

Dydd Mercher 8 Mai 2024 –

 

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl fer: Alun Davies AS (Blaenau Gwent) Peredur Owen Griffiths MS (Dwyrain De Cymru) (30 munud)

 

Trefnwyd yr eitemau a ganlyn:

Dydd Mercher 15 Mai 2024 –

·      Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·      Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol. (60 munud)

·      Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl fer: Cefin Campbell AS (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ddiwygiedig ar gyfer Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr amserlen ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer craffu ar y Bil, ac i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

5.

Gwaith Gweithdrefnol

5.1

Meini prawf gwneud penderfyniadau ar gyflymu’r amserlenni ar gyfer Biliau

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes feini prawf arfaethedig i helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ar yr amserlenni ar gyfer Biliau pan ofynnir am gyfnod craffu cyflym.

Gofynnodd Darren Millar am gael cynnwys ystyriaeth ychwanegol mewn perthynas ag a oedd y Bil dan sylw yn cynnwys darpariaethau a allai fod yn ddadleuol.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried yr ychwanegiad arfaethedig drwy e-bost ac, yn amodol ar ei gytuno, i fabwysiadu’r meini prawf i’w defnyddio yn y dyfodol pan fyddai’n cael ceisiadau i gytuno ar amserlen gyflym ar gyfer craffu ar Fil.