Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Pwyllgor |
|||||||||||||||||
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|||||||||||||||||
Trefn busnes |
|||||||||||||||||
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
Gofynnodd
Heledd Fychan am ddatganiadau'r Llywodraeth ar y Grant Hanfodion Ysgol a'r
Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol cyn toriad yr haf. Dywedodd y Trefnydd y
byddai’n codi hyn gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ac y byddai diweddariadau
yn debygol o gael eu darparu ar ffurf datganiadau ysgrifenedig. Dydd
Mercher Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig bod y Senedd yn ethol Buffy Williams yn aelod
o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn lle Sarah Murphy. Tynnodd
y Llywydd sylw at hyn a’r ychwanegiadau a ganlyn at gyfarfod dydd Mercher:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Llywydd yn gwahodd
enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio gan y grŵp Llafur
yn y cyfarfod ddydd Mercher.
|
|||||||||||||||||
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nid oedd unrhyw newidiadau i amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. Gofynnodd
Heledd Fychan am ddiweddariad ar amserlen dadl Cyfnod 3 ar gyfer Bil Caffael y
Gwasanaeth Iechyd (Cymru). Dywedodd y Trefnydd fod dyddiad y ddadl yn dibynnu
ar amserlen y Bil Caffael yn San Steffan ac y byddai'n diweddaru’r Rheolwyr
Busnes cyn gynted ag y byddai rhagor o wybodaeth ar gael. |
|||||||||||||||||
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
y newidiadau a ganlyn i amserlen busnes y Senedd am y tair wythnos
nesaf: Dydd
Mercher 27 Medi 2023 –
|
|||||||||||||||||
Deddfwriaeth |
|||||||||||||||||
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes
ddiweddariad gan y Trefnydd ar filiau Llywodraeth y DU sy’n gofyn am gydsyniad
deddfwriaethol y Senedd, neu’n debygol o fod yn gofyn am gydsyniad, yn dilyn
toriad yr haf. |
|||||||||||||||||
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 |
|||||||||||||||||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol ar gyfer 2024-25 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes bryderon y
Pwyllgor Cyllid ynghylch yr amserlen arfaethedig a’r ffaith bod Llywodraeth
Cymru unwaith eto yn cynnig peidio â dilyn y protocol y cytunwyd arno rhwng y
Senedd a’r Llywodraeth. Cadarnhaodd y Trefnydd fod hyn o ganlyniad i ansicrwydd
ynghylch amseriad digwyddiad cyllidol hydref Llywodraeth y DU, a nododd y
byddai’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ymateb yn ysgrifenedig i
bryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Cyllid. Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr
amserlen arfaethedig ac y byddai’n ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i’w wahodd i
ystyried adolygu gweithdrefnau’r gyllideb yn sgil profiad y blynyddoedd
diwethaf. |
|||||||||||||||||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y Ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2023-24 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
Nododd y Trefnydd nad oedd unrhyw bryderon wedi’u mynegi iddi hi na’r Pwyllgor
Busnes cyn y ddadl ond cytunodd i drefnu dadleuon o’r math hwn yn y dyfodol am
30 munud. |
|||||||||||||||||
Pwyllgorau |
|||||||||||||||||
Trefniadau craffu ar gyfer Bil Diwygio'r Senedd a deddfwriaeth gysylltiedig |
|||||||||||||||||
Bil Diwygio'r Senedd - amserlen Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y
trefniadau craffu ar gyfer Bil Diwygio’r Senedd a deddfwriaeth gysylltiedig, a
chytunwyd ar y canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
ddychwelyd at y mater o ran a ddylai’r Bil Gweinyddu Etholiadol arfaethedig ar
gyfer llywodraeth leol hefyd gael ei gyfeirio at y Pwyllgor Biliau Diwygio yn
nhymor yr hydref. |
|||||||||||||||||
Amserlen y Senedd |
|||||||||||||||||
Dyddiadau Toriadau Cofnodion: Business Committee considered and confirmed the dates for Spring Half
Term and Easter Recess 2024 and agreed provisional recess dates for Whitsun
Half Term and Summer Recess 2024, adjusting the provisional dates of the Summer
recess for 2024 as indicated below.
*
Provisional dates to be confirmed by Business Committee. |
|||||||||||||||||
Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad yr haf Cofnodion: Cytunodd
y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn a’r
trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig yn ystod toriad yr
haf. |
|||||||||||||||||
Unrhyw fater arall Cofnodion: Balot
Bil Aelod ac adolygiad o'r broses ddethol Cytunodd
y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal balot nesaf y Bil Aelod gan ddefnyddio’r
gweithdrefnau presennol, cyn unrhyw adolygiad o’r broses ddethol y gall gytuno
i’w gynnal wedi hynny. Nododd
y Pwyllgor hefyd ei bod yn fwriad gan y Llywydd i gyhoeddi yn ystod y Cyfarfod
Llawn yr wythnos hon y dyddiad yn nhymor yr hydref y cynhelir y balot nesaf ar
y Bil Aelod, er mwyn galluogi’r Aelodau i baratoi. |
|||||||||||||||||
Trefniadau cyflwyno |