Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jane Dodds. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
Dydd
Mercher
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
16 Mai 2023 · Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i
sefydlu pwyllgor Senedd (5 munud) · Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diwygio etholiadol (30 munud) · Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac
Addysg: Lleihau llwyth gwaith (30 munud) · Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol – Cyhoeddi Cynllun
Gweithredu (Cyfnod 1) Adroddiad y Grŵp Arbenigol (30 munud) Dydd Mawrth
23 Mai 2023 · Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Wasanaethau Bysiau (45 munud) · Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Costau Byw (30 munud) · |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos
nesaf: Dydd Mercher 7 Mehefin 2023 -
|
|
Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor Busnes y cynnig arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i’w amserlennu
i’w drafod ar 17 Mai: Janet Finch-Saunders NNDM8230 Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i
sicrhau bod datblygwyr adeiladau uchel iawn yn gyfrifol am faterion diogelwch. 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn
fyddai: a) creu dyletswydd ar ddatblygwyr i
ad-dalu lesddeiliaid am gostau rhesymol a gronnwyd o ganlyniad i faterion diogelwch
adeiladau; a b) gwahardd unrhyw ddatblygwr sy’n
gwrthod cyweirio’r diffygion diogelwch tân ar adeiladau a ddatblygwyd ganddynt
rhag cael caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yng Nghymru. |
|
Deddfwriaeth |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Busnes y
wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a
chytunodd ar y canlynol:
|
|
Rhaglen waith weithdrefnol |
|
Rhaglen waith weithdrefnol y Pwyllgor Busnes Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes raglen ddiwygiedig
ar gyfer ei waith gweithrefnol, a chytunodd arni, gan gynnwys trafod ymhellach
yr eitemau a ganlyn cyn cyn toriad yr haf:
Cytunodd y Pwyllgor i roi
ystyriaeth bellach i waith gweithdrefnol a all fod yn ofynnol o ganlyniad i
ddiwygio'r Senedd pan fydd deddfwriaeth wedi'i chyflwyno. |