Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Rhaglen Porthladdoedd Rhydd Cymru (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Papur Gwyn ar Dacsis a Cherbydau Hurio Preifat (30 munud) Tynnwyd yn ôl
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 11 a 12 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)
    • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael – cynnig 1
    • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael – cynnig 2

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm.

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.30pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 25 Ebrill 2023

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rhaglen Lifogydd 2023/24 (30 munud)

·       Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ffyniant Cyffredin a Ffyniant Bro (30 munud)

·       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar weithredu Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg (30 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Strategaeth Ddiagnostig Genedlaethol (30 munud)

 

Dydd Mawrth 2 Mai 2023

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddiwygio Trethi Lleol (30 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Raglen y Chwe Nod ar gyfer Gofal mewn Argyfwng (30 munud)

·       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Myfyrwyr fel Dinasyddion – Addysg Uwch (30 munud)

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:  

 

Wednesday 10 Mai 2023 – 

 

·       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru – 2022-23 (30 munud)

·       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru (30 munud)

·       Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·       Dadl Fer (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Papur i’w nodi - gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Bil Mewnfudo Anghyfreithlon

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a bwriad Llywodraeth Cymru i osod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil y tu hwnt i’r amserlenni arferol.

 

 

4.2

Papur i’w nodi - llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 4)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a safbwynt y Pwyllgor na fyddai’n gallu cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm Rhif 4) ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). 

 

 

4.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar lafar a chytunodd i gyfeirio ymlaen llaw’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Rhif 2, a fydd yn cael ei osod yr wythnos hon, at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 8 Mehefin 2023.