Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

  • Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 (15 munud) – Tynnwyd yn ôl
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr EU a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio (30 munud) – Gohiriwyd tan 21 Mawrth

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.05pm.

 

Soniodd y Llywydd am y profiadau amrywiol o ran y dadleuon hybrid yr wythnos diwethaf, gan nodi’r llwyddiant yn y ddadl Cyfnod 3 ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), ac yna’r ffaith bod sawl Aelod wedi mynegi eu hanfodlonrwydd ynghylch materion technegol ac ymyriadau rhwng y Siambr a chyfranogwyr Zoom yn ystod y ddadl ar yr Adolygiad Ffyrdd.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 21 Mawrth 2023

 

·       Datganiad gan y  Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar y Chwe Nod ar gyfer y Rhaglen Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng (30 munud) Tynnwyd yn ôl

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr EU a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio (30 munud)

 

Dydd Mawrth 28 Mawrth 2023

 

·       Rheoliadau Diodydd Alcoholig (Diwygio) (Cymru) 2023 (5 munud)

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud) Gohiriwyd tan 2 Mai

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) (15 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf: 

 

Dydd Mercher 22 Mawrth 2023 –

 

  • Dadl Fer: Rhys ab Owen (Canol De Cymru) (30 munud)

Dydd Mercher 26 Ebrill 2023 –

 

  • Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Y Rheolau ynghylch gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus – Craffu ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru 2020-21 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) (30 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 22 Mawrth:

 

Jack Sargeant

NNDM8219

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu:

a) ei fod yn sgandal genedlaethol bod 600,000 o bobl wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu yn 2022 oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni;

b) bod rheoleiddiwr ynni Ofgem wedi methu â diogelu aelwydydd bregus drwy ganiatáu i gyflenwyr ynni osgoi gwiriadau priodol;

c) y dylai'r rhai sy'n cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu gael eu digolledu'n briodol gan gyflenwyr ynni a'u newid yn ôl yn rhad ac am ddim.

2. Yn nodi:

a) y cafodd cyflenwad ynni 3.2 miliwn o bobl ei dorri y llynedd oherwydd eu bod wedi rhedeg allan o gredyd ar eu mesuryddion rhagdalu;

b) y gallai biliau ynni cyfartalog cartrefi godi hyd yn oed ymhellach, gan roi baich ychwanegol ar aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd oherwydd yr argyfwng costau byw.

3. Yn cydnabod cynllun peilot ynni yn y cartref 2021-22 Llywodraeth Cymru, a oedd yn rhoi cyngor rhagweithiol a chefnogaeth allgymorth i bobl a oedd, neu a oedd mewn perygl o fod, mewn tlodi tanwydd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaeth cyngor ynni yn y cartref ledled Cymru i sicrhau bod pob cartref yn gallu cael y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd ar y canlynol:

 

  • cyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol a osodwyd ar 9 Mawrth ar gyfer craffu arno, gan nodi bod angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 4 Mai 2023;
  • cyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm Rhif 6) ar y Bil Tai Cymdeithasol a osodwyd ar 9 Mawrth ar gyfer craffu arno, gan nodi bod angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 27 Mawrth 2023;
  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm Rhif 4) ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ar gyfer craffu arno, gan nodi bod angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 20 Mawrth 2023; a
  • nodi’r safbwynt ynghylch y Bil Caffael.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a gafodd ei dderbyn a’i ddosbarthu yn dilyn eu cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Llun 13 Mawrth. Nododd y Pwyllgor Busnes safbwynt y Pwyllgor na fyddai’n gallu cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm Rhif 4) ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) oherwydd yr amser cyfyngedig iawn ar gyfer gwneud hyn.

 

 

4.2

Papur i’w nodi - Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio).

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

 

5.

Amserlen y pwyllgorau

5.1

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch slotiau cyfarfodydd amgen i’r pwyllgor ym mis Mai

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais y Pwyllgor i gael cyfarfodydd ar ddydd Mawrth 2 Mai a dydd Mawrth 9 Mai yn lle yn eu slot arferol oherwydd effaith y gwyliau banc ar 1 Mai ac 8 Mai.

 

 

6.

Adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy

6.1

Meysydd posibl ar gyfer ymestyn: materion i'w trafod

Cofnodion:

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at y materion yn ymwneud â meysydd posibl ar gyfer ymestyn fel rhan o'i adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy.

 

Datganodd Darren Millar wrthwynebiad y Grŵp Ceidwadol i gadw neu ymestyn darpariaethau presennol pleidleisio drwy ddirprwy.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes, ar sail barn y mwyafrif, i gynnig bod darpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy yn cael eu hymestyn i gynnwys salwch neu anaf hirdymor, cyfrifoldebau gofalu a phrofedigaeth. Ym mhob achos, byddai’r hawl i ofyn am bleidlais drwy ddirprwy yn codi mewn amgylchiadau lle byddai Aelod yn absennol o holl drafodion y Senedd.

Ar gyfer darpariaethau yn ymwneud â salwch neu anaf hirdymor a chyfrifoldebau gofalu, byddai isafswm amser o bedair wythnos ac uchafswm amser safonol o chwe mis, gyda'r gallu i hyn gael ei ymestyn yn ôl disgresiwn y Llywydd. Bydd cyfnod pleidlais drwy ddirprwy yn sgil profedigaeth yn cael ei gytuno rhwng yr Aelod a’r Llywydd.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r trefniadau presennol ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am gymhwysedd unigol ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy barhau, gyda’r categori eang o bleidlais drwy ddirprwy yn cael ei gynnwys pan fydd adroddiad ar y trefniant yn cael ei osod gan y Llywydd.

 

Cododd Jane Dodds y ffordd y mae’r broses pleidlais drwy ddirprwy yn gweithio i Aelodau nad ydynt yn rhan o grŵp plaid. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried hyn ymhellach wrth ystyried diweddariadau drafft i'r canllawiau.