Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:

 

  • Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 (15 munud) Gohiriwyd tan 14 Mawrth

Cadarnhaodd y Trefnydd mai hi fydd yn ateb Cwestiynau’r Prif Weinidog ar ran y Prif Weinidog yr wythnos hon.

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm.

 

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.40pm.

 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 28 Chwefror 2023

 

·       Datganiad gan Weinidog yr Economi: Strategaeth Sgiliau Sero Net (30 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasoly Gymraeg ac Addysg: Cymru: cymuned o gymunedau (30 munud)

·       Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2021-22 (60 munud) Gohiriwyd tan 21 Mawrth

 

Dydd Mawrth 7 Mawrth 2023

 

·       Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2023 (15 munud).

·       Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru (15 30 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i symud y Ddadl Aelodau ar 1 Mawrth i 8 Mawrth oherwydd argaeledd Gweinidogion ac, o ganlyniad, cytunodd i wneud y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 1 Mawrth 2023 –

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) Data biometrig mewn ysgolion (60 munud) symudwyd i 8 Mawrth

 

Dydd Mercher 8 Mawrth 2023 –

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) Data biometrig mewn ysgolion (60 munud) symudwyd o 1 Mawrth
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) Symudwyd i 15 Mawrth

 

Dydd Mercher 15 Mawrth 2023 –

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) Symudwyd o 8 Mawrth
  • Dadl Fer: James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) (30 munud)

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Busnes drafodaeth gychwynnol ar effaith bosibl gweithredu diwydiannol a gyhoeddwyd ar gyfer 15 Mawrth a nododd y darperir rhagor o wybodaeth yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar y goblygiadau ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau, busnes y Cyfarfod Llawn a therfynau amser cyflwyno.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch amserlen y Bil Bwyd (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i’r cais i ymestyn yr amserlen ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 y Bil Bwyd (Cymru) o 28 Ebrill i 12 Mai ac, ar yr amod y bydd y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 14 Gorffennaf 2023.

 

 

4.2

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a:

 

  • chytunodd i gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) a osodwyd ar 9 Chwefror at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gan nodi y gallai'r Bil hefyd fod o ddiddordeb i nifer o bwyllgorau eraill, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 30 Mawrth 2023; a
  • nododd sefyllfa’r Memoranda a ystyriwyd gan y Pwyllgor Busnes ar 7 Chwefror 2023.

 

 

5.

Adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy

5.1

Absenoldeb rhiant: materion i'w hystyried

Cofnodion:

Fel rhan o'i adolygiad o drefniadau pleidleisio drwy ddirprwy, trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymatebion i'w ymgynghoriad ag Aelodau ac ystod o faterion yn ymwneud â'r Rheolau Sefydlog dros dro ar bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes, ar sail barn fwyafrifol, i gynnig y dylid gwneud y darpariaethau presennol ar bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant yn barhaol. Datganodd Darren Millar wrthwynebiad y Grŵp Ceidwadol i gadw'r darpariaethau presennol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig y dylid diwygio uchafswm yr hyd i saith mis ar gyfer mam neu dad baban, partner rhywun sy’n rhoi genedigaeth, rhiant sy’n mabwysiadu neu ofalwr mewn trefniant â rhywun sy’n rhoi genedigaeth ar eu rhan, lle gellir cymryd uchafswm o un mis cyn y dyddiad y disgwylir i’r baban gael ei eni, neu’r dyddiad mabwysiadu, ac uchafswm o chwe mis ar ôl i’r baban gael ei eni neu’r dyddiad mabwysiadu. Nododd y Llywydd nad y Llywydd ddylai benderfynu pa riant sy’n brif ofalwr. Gofynnodd Siân Gwenllian am i ystyriaeth gael ei rhoi i'r trefniadau a fyddai'n ymwneud â genedigaethau cynamserol pan gaiff y canllawiau eu drafftio.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes, os bydd unrhyw amwysedd, y dylai'r Llywydd barhau i allu defnyddio eu disgresiwn wrth benderfynu ar faterion ynghylch cymhwysedd unigolion i gael pleidlais drwy ddirprwy a hyd trefniadau o'r fath. Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor, pan fydd Aelod neu eu partner yn colli baban yn y groth neu pan fydd baban yn marw ar enedigaeth mai dim ond i benderfynu ar hyd trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy ac nid cymhwysedd yr Aelod y dylid defnyddio disgresiwn.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at y mater o ba wybodaeth a gaiff ei chyhoeddi pan fydd trefniant pleidleisio drwy ddirprwy yn cael ei gytuno unwaith y bydd wedi ystyried y posibilrwydd o ymestyn darpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy mewn cyfarfod dilynol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig y dylid caniatáu pleidleisio drwy ddirprwy mewn pob math o bleidleisio yn y Cyfarfod Llawn a Phwyllgor o'r Senedd Gyfan, gan gynnwys y rhai sy'n gofyn am basio cynnig neu ddatrysiad ar bleidlais lle nad yw nifer yr Aelodau sy'n pleidleisio o blaid yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm seddi'r Senedd, neu pan fyddai'r bleidlais drwy ddirprwy yn cyfrif tuag at y nifer sydd ei angen ar gyfer cworwm.