Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds a David Rees.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm.

 

Cadarnhaodd y Trefyndd mai hi fydd yn ateb Cwestiynau’r Prif Weinidog ar ran y Prif Weinidog yr wythnos hon.

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am ei bwriad i gydymdeimlo ar ran y Senedd ar ddechrau Cyfarfod Llawn dydd Mawrth â Carolyn Thomas yn dilyn marwolaeth ei mab. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd criw camera o ABC Awstralia yn ffilmio yn yr oriel gyhoeddus ar ddechrau'r cyfarfod ddydd Mawrth.

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth14 Chwefror 2023

 

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a'r Cynllun Cyflenwi Trafnidiaeth Cenedlaethol (45 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) – wedi'i ohirio tan 28 Chwefror

 

Dydd Mercher 28 Chwefror 2023

 

·         Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023 (15 5 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) (15 munud) wedi'i ohirio o 14 Chwefror

·         Dadl: Pedwerydd Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru  - Ebrill 2021 tan Ragfyr 2022 (30 munud) wedi'i ohirio tan 21 Mawrth

 

O ganlyniad i ohirio'r ddadl ar yr Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio), cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y pwyllgorau i 27 Chwefror 2023. Cytunodd y Pwyllgor hefyd mewn egwyddor i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol pellach (Rhif 5) a ragwelir ar yr un Bil at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gyda'r un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud yr ychwanegiadau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 8 Mawrth 2023 –

 

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch amserlen Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu ar Fil Iechyd y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)  Wrth wneud hynny, nododd y Pwyllgor bryderon y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y cyfnod byrrach ar gyfer craffu Cyfnod 1 a'r ffaith y bydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Cyfnod 2 yn disgyn yn ystod toriad hanner tymor. Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai hyn yn golygu bod angen dyddiad cau cynharach ar gyfer cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2.

 

 

4.2

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r cyfansoddiad ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)

Cofnodion:

Nododd Pwyllgor Busnes yr argymhelliad perthnasol a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r cyfansoddiad fel rhan o'i adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl), sy'n cynnig adolygiad o Reolau Sefydlog y Senedd mewn perthynas ag effaith ymarferol Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried yr argymhelliad ymhellach fel rhan o waith arfaethedig ar ddiwygiadau gweithdrefnol ar ôl-Brexit.

 

 

5.

Adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy

5.1

Adborth o ymgynghoriad ag Aelodau

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymatebion i'w ymgynghoriad ar bleidleisio drwy ddirprwy gyda'r Aelodau presennol a chyn-Aelodau a chytunodd i ystyried papur yn adolygu treialu pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhieni yn y cyfarfod canlynol, cyn ystyried estyniadau posibl i ddarpariaethau wedi hynny.

 

 

 

6.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Yn dilyn diweddariad llafar gan y Trefnydd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i:

 

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes y gwaith paratoadol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar oblygiadau Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ar gyfer y Llywodraeth a'r Senedd.