Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.20pm.

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes mai hi fydd yn ateb y Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw yn absenoldeb y Prif Weinidog.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes am ei bwriad i fynegi cydymdeimlad â'r Prif Weinidog ar ran y Senedd ar ddechrau'r cyfarfod y prynhawn yma.

 

Dydd Mercher 

 

Dim busnes wedi'i drefnu

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 7 Chwefror 2023

 

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu LHDTC+ (30 munud)

 

Dydd Mercher 14 Chwefror 2023

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (60 munud)

·       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Dysgu Digidol mewn Addysg Bellach (30 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Yr Ymateb Dyngarol i Wcráin (30 munud)

·       Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 (15 munud)

·       Dadl: Setliad yr Heddlu 2023-24 (30 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 8 Chwefror 2023 -

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) Symudwyd i 1 Mawrth
  • Dadl Fer: Russell George (Sir Drefaldwyn) (30 munud) Wedi’i symud o 15 Chwefror
  • Dadl Fer: Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud) 

 

Dydd Mercher 15 Chwefror 2023 -

 

  • Dadl Fer: Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud) Symudwyd o 8 Chwefror
  • Dadl Fer: Russell George (Sir Drefaldwyn) (30 munud)

 

Dydd Mercher 1 Mawrth 2023 –

 

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) Symudwyd o 8 Chwefror

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i aildrefnu'r Ddadl Aelodau ar 8 Chwefror i 1 Mawrth er mwyn sicrhau gwell cydbwysedd o ran amseroedd gorffen dros yr wythnosau nesaf.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor bod Mike Hedges a Russell George wedi cytuno i gyfnewid eu dadleuon byr. Bydd dadl Russell George nawr yn cael ei chynnal ar 8 Chwefror a bydd dadl Mike Hedges ar 15 Chwefror.

 

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 15 Chwefror:

 

NNDM8187

Luke Fletcher

Cyd-gyflwynwyr: Mike Hedges, Heledd Fychan, Jane Dodds, Adam Price, Carolyn Thomas, Sioned Williams

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod Llywodraeth Cymru wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg, yn wahanol i Lywodraeth y DU yn Lloegr;

b) nad yw gwerth y lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru wedi newid ers 2004, ac nad yw'r trothwyon cymhwysedd wedi newid ers 2011;

c) er bod y lwfans cynhaliaeth addysg yn fath pwysig o gymorth ariannol i ddysgwyr ôl-16, nid yw wedi cadw i fyny â phwysau costau byw.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried codiad sy'n gysylltiedig â chwyddiant i werth y lwfans cynhaliaeth addysg ac adolygiad o'r trothwyon.

 

A'r cynnig canlynol ar 1 Mawrth:

 

NNDM8131

Sarah Murphy

Cyd-gyflwynydd: Jane Dodds

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod yr arfer cyffredinol o gasglu a defnyddio data biometreg mewn ysgolion ledled Cymru yn peryglu data personol a phreifatrwydd plant.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n:

a) sicrhau bod Erthygl 16 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sef hawl plentyn i breifatrwydd, yn cael ei gadarnhau o fewn Cymru; 

b) sicrhau bod ysgolion a lleoliadau gofal plant yn defnyddio technolegau nad ydynt yn fiometrig ar gyfer gwasanaethau, yn hytrach na defnyddio systemau biometrig a allai beryglu diogelwch data biometreg plant; 

c) sicrhau bod asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn lleoliadau addysgol yn cael eu rhoi ar waith;

d) cydnabod y niwed posibl o'r defnydd anrheoledig o ddata biometreg;

e) cydnabod diffyg caniatâd pobl ifanc a phlant o fewn y defnydd cyfredol o ddata biometreg o fewn ysgolion. 

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Rheoliadau at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid, a gofynnwyd i'r pwyllgorau adrodd erbyn dydd Llun 27 Chwefror 2023.  

 

 

4.2

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Cofnodion:

Nododd Pwyllgor Busnes yr ohebiaeth a'r atodiad a oedd yn cynnwys diweddariad ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a'i bwriad y dylai'r Senedd gael cyfle i graffu ar is-ddeddfwriaeth sy'n codi o ganlyniad i'r Bil. Nododd y Pwyllgor hefyd fwriad y Llywodraeth i gysylltu â hi unwaith y bydd ganddi ddigon o wybodaeth am y goblygiadau posibl o ran amserlen y Senedd.

 

 

 

5.

Busnes y Senedd

5.1

Y defnydd o ddadleuon 30 munud yn ystod amser y gwrthbleidiau

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes arferion presennol yn ymwneud â threfnu dadleuon yn amser y gwrthbleidiau a chytunodd i beidio â gwneud unrhyw ddiwygiadau ar hyn o bryd. Nododd y Llywydd y byddai hi a'r Dirprwy Lywydd yn ceisio sicrhau bod modd clywed amrywiaeth o leisiau yn ystod pob dadl, a hynny drwy nifer yr Aelodau a elwir i siarad, a’r drefn y cânt eu galw i siarad.