Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Gaeaf y GIG (30 45 munud)

 

Gofynnodd Siân Gwenllian bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ymestyn ymhellach yr amser a ddyrannwyd i'r datganiad uchod , yn sgil y pwysau a welwyd ar y GIG dros gyfnod y Nadolig. Nododd y Llywydd y byddai'n hyblyg o ran yr amseriadau er mwyn sicrhau bod modd galw nifer digonol o'r Aelodau i wneud cyfraniadau.

 

  • Ni fydd cyfnod pleidleisio ddydd Mawrth.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.30pm.

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.15pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn i’r amserlen:

 

Dydd Mawrth 24 Ionawr 2023

 

·       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwella Ysgolion a'r Dirwedd Wybodaeth (30 munud)

·       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyfrifiad 2021 – Canlyniadau o ran y Gymraeg (30 munud)

·       Rheoliadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 (15 munud)

·       Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 (15 munud)

 

Ystyriodd y Pwyllgor nodyn ar y strwythur ac amseriad ar gyfer gwrandawiad cyntaf dadl Ystyriaeth Gychwynnol ar Fil Cydgrynhoi - Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), sydd wedi’i hamserlennu ar gyfer dydd Mawrth 17 Ionawr.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r ychwanegiadau canlynol i'r amserlen:

 

Dydd Mercher 1 Chwefror 2023 -   

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Absenoldeb Disgyblion (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Rheoliadau at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid i graffu arnynt, a gofynnod i'r pwyllgorau adrodd erbyn dydd Llun 23 Ionawr 2023 i alluogi'r rheoliadau i gael eu hystyried gan y Senedd ddydd Mawrth24 Ionawr 2023. 

 

 

4.2

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i:

 

  • gyfeirio'r Memorandwm Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Ar-lein a osodwyd ar 21 Rhagfyr at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Memorandwm hwn a rhai blaenorol ar y Bil hwn, ar 2 Mawrth 2023;  
  • cyfeirio'r Memorandwm atodol (Memorandwm Rhif 2) ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) a osodwyd ar 21 Rhagfyr at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Memorandwm hwn a rhai blaenorol ar y Bil hwn, ar 2 Mawrth 2023;
  • cyfeirio'r Memorandwm atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol a osodwyd ar 4 Ionawr at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Memorandwm hwn a rhai blaenorol ar y Bil hwn, ar 9 Mawrth 2023;
  • cyfeirio'r Memorandwm atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Caffael a osodwyd ar 19 Rhagfyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i graffu arno, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Memorandwm hwn a rhai blaenorol ar y Bil hwn, ar 2 Mawrth 2023;

 

 

 

4.3

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a'r pryderon a fynegir mewn perthynas â hwyluso amserlen Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Nododd y Llywydd ei bod wedi cwrdd â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ym mis Rhagfyr a chytunodd y bydd swyddogion yn drafftio adroddiad i’r Pwyllgor Busnes yn manylu ar y gwersi a ddysgwyd o'r broses graffu ar y Bil hwn, y gellir cyfeirio atynt pe bai unrhyw gais yn y dyfodol am hwyluso amserlen i graffu ar Fil.

 

 

4.4

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a'r pryderon a godir gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y goblygiadau posibl i'r Pwyllgor hwnnw, a busnes y Senedd, a allai godi o ganlyniad i Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) a gyflwynwyd yn Senedd y DU.

 

Awgrymodd Darren Millar y gallai'r Pwyllgor Busnes fod am ystyried sefydlu pwyllgor ychwanegol er mwyn ymateb i bryderon ynghylch capasiti craffu. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i fonitro datblygiadau a chynnal deialog gyda Llywodraeth Cymru, gan gadw pob opsiwn ar agor.

 

 

4.5

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ei adroddiad ar y Bil a chytunodd i ymateb i dderbyn y ddau argymhelliad a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Busnes.

 

 

 

4.6

Papur i’w nodi - gohebiaeth rhwng y Prif Weinidog a’r Pwyllgor Cyllid ynghylch gwaith craffu ar oblygiadau ariannol Biliau

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyrau a chytunodd i aros am ymateb pellach gan y Prif Weinidog i'r Pwyllgor Cyllid cyn rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i'r arfer o bleidleisio ar y cynnig ynghylch y Penderfyniad Ariannol ar gyfer Biliau ar yr un diwrnod â dadl Cyfnod 1.