Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
Cydnabu’r Trefnydd y pryderon sydd
wedi’u mynegi am y nifer o bwyntiau adrodd a godwyd ar y ddwy gyfres o
Reoliadau. Byddai'n cwrdd â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad cyn y Cyfarfod Llawn i drafod y mater hwn ymhellach a bydd yn rhoi
diweddariad i'r Pwyllgor Busnes yn dilyn y cyfarfod hwnnw. Cafodd y Rheolwyr Busnes eu
hatgoffa gan y Llywydd bod 90 munud wedi'i ddyrannu i’r datganiad heddiw ar y
gyllideb ddrafft a bydd ar ffurf dadl, yn unol â’r arfer ers 2017. Ni fydd
pleidlais. Dydd
Mercher
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr
ychwanegiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
10 Ionawr 2023 · Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau'r Gaeaf ar y GIG (30 munud) · Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Costau Byw (30 munud) · Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol: Amrywiaeth mewn Democratiaeth – Canlyniadau'r Arolwg (30
munud) · Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Bioamrywiaeth (30 munud) Dydd Mawrth
17 Ionawr 2023 · Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Blaenoriaethau Economaidd a Chysylltiadau Llywodraeth y DU (30 munud) · Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud) · Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac
Addysg: Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (30 munud) · Rheoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru)
(Diwygio) 2023 (15 munud) · Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) (45 munud) · Dadl Ystyriaeth Gychwynnol ar Fil
yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (45 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i'r ychwanegiadau canlynol i'r amserlen: Dydd
Mercher 11 Ionawr 2023
Dydd
Mercher 25 Ionawr 2023
|
|
Deddfwriaeth |
|
Gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch amserlen y Bil Bwyd (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu ar y Bil Bwyd
(Cymru) |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a chytunodd i:
|
|
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch memoranda cydsyniad deddfwriaethol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y
llythyr a chytunodd i ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, yn
nodi'r pryderon a godwyd ynghylch nifer y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
a'r effaith ar waith pwyllgorau. |
|
Diwygio'r Senedd |
|
Costau a Rhagdybiaethau ar Ddiwygio'r Senedd: Gwybodaeth ddiwygiedig Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar
nifer o ragdybiaethau a fydd yn sail i'r wybodaeth sydd i'w darparu gan
Gomisiwn y Senedd i lywio gwaith Llywodraeth Cymru o ddatblygu Asesiad Effaith
Rheoleiddiol ar gyfer Bil Diwygio'r Senedd. Yn dilyn trafodaeth ynghylch y
rhagdybiaethau o ran yr ystod ddisgwyliedig o bwyllgorau ychwanegol sy'n
debygol o gael eu sefydlu gan Senedd y dyfodol a nifer yr wythnosau eistedd,
cytunodd y Pwyllgor Busnes i nodi'r rhagdybiaethau o ran busnes y Senedd. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ystyried papur yn nodi’r amserlenni lefel uchel ar gyfer ei
waith ei hun yn ymwneud â Diwygio'r Senedd dros weddill tymor y Senedd hon mewn
cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Dadleuon 30
munud Cododd y
Llywydd y profiad diweddar o grwpiau'r gwrthbleidiau’n cyflwyno dau gynnig i'w
trafod yn ystod amser y gwrthbleidiau yn y Cyfarfod Llawn, a all gyfyngu ar
nifer a hyd cyfraniadau gan Aelodau ar bynciau o bwys. Nododd y Llywydd y bydd
cais i'r Pwyllgor Busnes ystyried papur yn y Flwyddyn Newydd ynghylch yr amseru
ar gyfer dadleuon 30 munud, yng nghyd-destun amserlennu busnes yn ehangach. |