Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyhoeddi'r Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Logan Mwangi (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl Anabl (30 munud) wedi’i aildrefnu i eitem 8

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn rhoi ei datganiad o bell.

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.05pm.

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.45pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 13 Rhagfyr

 

·       Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022 (15 munud)

·       Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 (15 munud)

 

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes fod y Llywodraeth yn bwriadu gwneud cynnig heb rybudd o dan Reol Sefydlog 26.48 ar 6 Rhagfyr er mwyn cynnig bod y Senedd yn pasio'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), yn syth ar ôl i drafodion Cyfnod 3 ddod i ben. Nododd y Pwyllgor Busnes ei fodlonrwydd â defnyddio’r dull hwnnw ar gyfer y Bil hwn ond mynegodd farn na ddylai fod yn arfer cyffredin.

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gais gan Mabon ap Gwynfor i gyfnewid ei ddadl fer ar 14 Rhagfyr gyda dadl fer Jack Sargeant ar 7 Rhagfyr. Felly, cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn:

 

7 Rhagfyr 2022

 

  • Dadl fer: Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) (30 munud) Wedi’i ohirio tan 14 Rhagfyr
  • Dadl fer: Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) (30 munud) Wedi’i symud ymlaen o 14 Rhagfyr

 

14 Rhagfyr 2022

 

  • Dadl fer: Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) (30 munud)
  • Dadl fer: Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) (30 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r ychwanegiadau canlynol i'r amserlen hefyd:

 

Dydd Mercher 11 Ionawr 2023

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Asedau cymunedol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

 

 

3.4

Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 7 Rhagfyr:

 

NNDM8093

Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig am Fil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau yn BSL.

2. Yn nodi mai pwrpas y Bil fyddai:

a) cael gwared ar y rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle;

b) cryfhau saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y modd y maent yn ymwneud â BSL;

c) gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg;

d) sicrhau bod gan gymunedau byddar lais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion;

e) sefydlu Comisiynydd BSL a fydd yn:

(i) yn llunio safonau BSL;.

(ii) sefydlu panel cynghori BSL;

(iii) llunio adroddiadau bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL yn y cyfnod hwnnw;

(iv) darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu priod barthau;

f) sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion;

e) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar eu cynnydd o ran hyrwyddo a hwyluso BSL drwy eu cylch cofnodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

h) rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil Bwyd (Cymru) - amserlen

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfeirio'r Bil at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig er mwyn trafod yr egwyddorion cyffredinol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ohirio penderfyniad ar yr amserlen ar gyfer y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor hwnnw ac i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a diolchodd i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am godi’r mater hwn, a chytunodd i ystyried y pwyntiau a godwyd os, a phryd, y bydd angen ystyried unrhyw gais o’r fath yn y dyfodol.

 

 

4.3

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

4.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Gorchymyn Newid Hinsawdd (Nwyon Tŷ Gwydr wedi’u Targedu) 2022

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr. Nododd y Llywydd ei bwriad i gwrdd â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i drafod y mater a bydd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Busnes yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

 

 

4.5

Papur i’w nodi - llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at Gadeiryddion y Pwyllgorau ynghylch Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022

Cofnodion:

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

 

5.

Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o ystyriaethau yn ymwneud â’r Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy. Yn sgil datblygu dulliau o gymryd rhan o bell a phleidleisio o bell yn nhrafodion y Senedd, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfyngu cymhwysedd ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy i sefyllfaoedd lle y disgwylid i Aelod fod yn absennol o holl drafodion y Senedd. Wedi gwneud hynny, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r ymgynghoriad gydag Aelodau ddechrau yr wythnos nesaf a rhedeg hyd at ddiwedd ail wythnos y tymor yn 2023.

 

 

5.1

Cwmpas yr adolygiad a’r papur ymgynghori i’r Aelodau

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o ystyriaethau yn ymwneud â’r Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy. Yn sgil datblygu dulliau o gymryd rhan o bell a phleidleisio o bell yn nhrafodion y Senedd, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfyngu cymhwysedd ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy i sefyllfaoedd pan fydd Aelod yn absennol o holl drafodion y Senedd. Wedi gwneud hynny, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r ymgynghoriad gydag Aelodau ddechrau yr wythnos nesaf a rhedeg hyd at ddiwedd ail wythnos y tymor yn 2023 (20 Ionawr 2023).

 

 

6.

Diwygio’r Senedd

6.1

Ystyried Argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd - diweddariad ar benderfyniadau

Cofnodion:

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at ei drafodaethau ynghylch maint Llywodraeth Cymru mewn Senedd fwy. Cytunodd mwyafrif ar y Pwyllgor i gynnig gan y Trefnydd y dylid cynyddu'r terfyn uchaf ar nifer Gweinidogion Cymru o 12 i 17 o weinidogion fel rhan o ddeddfwriaeth Diwygio'r Senedd. Cytunodd y mwyafrif hefyd i gynnig gan y Trefnydd y dylai'r ddeddfwriaeth gynnwys mecanwaith a fyddai'n galluogi i Lywodraeth Cymru gynnig cynnydd pellach i'r terfyn hwn, hyd at uchafswm o 19, drwy is-ddeddfwriaeth, mewn amgylchiadau lle ystyrir bod cynnydd yn deilwng. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai cynnydd o'r fath fod yn destun pleidlais gadarnhaol yn y Senedd.

 

Dywedodd Darren Millar ei farn mai 16 dylai fod y terfyn uchaf o ran nifer y Gweinidogion, ac y dylai unrhyw gynnydd pellach yn nifer y Gweinidogion gael ei gymeradwyo gan ddwy ran o dair o'r Aelodau sy'n pleidleisio.

 

Cytunodd y Pwyllgor i drafod adroddiad ar eu canfyddiadau ar y pedwar mater y mae wedi’u hystyried mewn cyfarfod dilynol.