Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd
wybod i'r Rheolwyr Busnes y byddai hi'n ateb Cwestiynau'r Prif Weinidog gan fod
y Prif Weinidog yn anhwylus. Hefyd,
tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
Dydd
Mercher
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau
a ganlyn: Dydd Mawrth 15 Tachwedd - · Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru (30 munud) Dydd Mawrth 22 Tachwedd - · Rheoliadau Daliadau Amaethyddol
(Ffi) 2022 (5 munud) · Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
Fil Protocol Gogledd Iwerddon (45 munud) - Wedi’i ohirio o 8 Tachwedd · Cyfnod Pleidleisio (5 munud) · · Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref a Rhagolygon Ariannol ac
Economaidd Llywodraeth y DU (30 munud) – wedi'i ohirio o 8 Tachwedd |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 30 Tachwedd 2022 –
|
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ohebiaeth a anfonwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy’n cynnig y dylai
Llywodraeth Cymru osod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar y Bil
Ffyniant Bro ac Adfywio yn sgil yr hyn y mae’r Pwyllgor yn ei ystyried fel
diffygion yn y Memorandwm presennol. Cadarnhaodd
y Trefnydd fod y Gweinidog Newid Hinsawdd wrthi’n trafod yr ohebiaeth ac y bydd
yn ymateb i’r Pwyllgor yn fuan. Bydd y Trefnydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
i’r Pwyllgor Busnes cyn gynted ag y bydd rhagor o wybodaeth ar gael, gan
gynnwys a oes modd newid y dyddiad cau presennol ar gyfer cyflwyno adroddiad ar
gyfer pwyllgorau. |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a
chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:
|
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Deisebau am ddadl ar ddeiseb P-06-1302 -
Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi
yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a gafodd 20,889 o lofnodion, a
chytunodd i drefnu dadl 30 munud o hyd ddydd Mercher 30 Tachwedd. |
|
Amserlen y pwyllgorau |
|
Llythyr gan Fforwm y Cadeiryddion - cais i newid dyddiadau cyfarfodydd Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gais gan Fforwm y Cadeiryddion i newid y slot cyfarfod a
ddyrannwyd iddo, o ddydd Iau olaf pob hanner tymor i'r bore Llun olaf sydd ar
gael ym mhob hanner tymor (pan nad oes gwrthdaro gyda slot naill ai'r Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol neu Gomisiwn y Senedd). |
|
Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy |
|
Papur ar yr adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur a chytunodd ar y dull arfaethedig a’r amserlen ar gyfer
ei adolygiad o ddarpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys y dylai’r
ymarfer hwn ystyried: y trefniadau prawf dros dro presennol ar gyfer absenoldeb
rhiant; a’r posibilrwydd o ymestyn y trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy i
salwch tymor hir a chyfrifoldebau gofalu eraill. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
ymgynghori â’r Aelodau ac i ofyn am farn Aelodau presennol a chyn-Aelodau sydd
wedi defnyddio pleidleisio drwy ddirprwy yn ystod y cyfnod prawf. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ystyried papur arall sy'n ymdrin â diffiniadau posib o salwch
hirdymor a chyfrifoldebau gofalu cyn dechrau'r cyfnod ymgynghori. Nododd Darren
Millar ei wrthwynebiad i ddefnyddio pleidleisio drwy ddirprwy. |
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes, ar ôl ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion, fod y canllawiau y
cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes ar 27 Medi bellach wedi eu cyhoeddi'n
llawn i’r Aelodau o dan Reol Sefydlog 6.17. Cyfarfod ar
15 Tachwedd Fe wnaeth y
Llywydd atgoffa’r Rheolwyr Busnes am y trefniadau ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor
Busnes yr wythnos nesaf, a fydd yn cynnwys sesiwn gyhoeddus i drafod gwaith
presennol y Pwyllgor ynghylch Diwygio’r Senedd. |