Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.00pm.

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm. 

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu dod â’r egwyl cyn y cyfnod pleidleisio i ben, gan ddechrau o'r Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Gofynnodd i Reolwyr Busnes atgoffa Aelodau eu grwpiau mai eu cyfrifoldeb nhw fydd sicrhau eu bod yn bresennol ac yn barod i bleidleisio cyn dechrau'r cyfnod pleidleisio, a nododd y gall hyn fod yn gynharach na'r amseru dangosol ar yr agenda.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 18 Hydref –

 

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Model Addysg Gyflenwi (30 munud)  Tynnwyd yn ôl

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Taith – cyflwyno rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol arloesol Cymru (30 munud)

 

Dydd Mawrth 25 Hydref –

 

·         Dadl: Adroddiad Blynyddol 2021-22 Comisiynydd y Gymraeg (60 munud) wedi’i symud o 8 Tachwedd

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 9 Tachwedd 2022 –

  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Codi'r Bar - Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu (60 munud)
  • Dadl ar Adroddiad Blynyddol 2021/22 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Cafodd y Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Deisebau i gynnal dadl frys ar ddeiseb P-06-1294: Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl, a gafodd 14,106 o lofnodion, a chytunwyd i drefnu dadl 30 munud ddydd Mercher 19 Hydref. 

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb a gafwyd gan y Pwyllgor a chytunodd na fyddai angen addasu'r amserlen bresennol ar gyfer craffu ar y Bil.

 

 

4.2

Y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) - Cyfnod 2

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar gyfer trafodion Cyfnod 2, pe bai'r Senedd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol.

 

 

4.3

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Rheoliadau at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad dydd Llun 7 Tachwedd 2022, er mwyn galluogi'r rheoliadau hyn i gael eu hystyried gan y Senedd ddydd Mawrth8 Tachwedd.  

 

 

4.4

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i gyfeirio'r Memorandwm Atodol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 1 Rhagfyr;

 

 

5.

Papur i'w nodi

5.1

Llythyr gan Oxfam Cymru a WEN Cymru ynghylch Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.