Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth

  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Economaidd Rhanbarthol (3045 munud) Symudwyd ymlaen o 11 Hydref
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd – Bioamrywiaeth (30 munud)

 

  • Ni fydd cyfnod pleidleisio.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.00pm.

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.20pm. 

 

Nododd y Llywydd, gan mai un cwestiwn yn unig a gyflwynwyd, fod y dyraniad amser ar gyfer Cwestiynau i'r Comisiwn wedi ei leihau i 10 munud.

 

Bydd seibiant cyn y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mercher er mwyn galluogi Aelodau i ymgyfarwyddo ymhellach â’r gweithdrefnau pleidleisio newydd.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 11 Hydref –

 

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Economaidd Rhanbarthol (30 munud)symudwyd i 4 Hydref

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Tai mewn Cymunedau Cymraeg (30 munud)

 

Dydd Mercher 12 Hydref –

 

·         Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud) – gohiriwyd i 19 Hydref

·         Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud) – symudwyd o 19 Hydref

 

Dydd Mawrth 18 Hydref 

 

·         Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022 (15 munud)

 

Dydd Mercher 19 Hydref –

 

·         Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud) - symudwyd i 12 Hydref

·         Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud) – symudwyd o 12 Hydref

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 26 Hydref 2022 –           

 

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn gofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) (60 munud) 
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr (60 munud) 
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). 

 

 

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Amserlen Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a chytunodd ar estyniadau byr i’r terfynau amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar gyfer cyfnod Ystyriaeth Gychwynnol y Bil hyd at 23 Rhagfyr 2022, a’r cyfnod Ystyriaeth Fanwl gan Bwyllgor hyd at 10 Mawrth 2023.

 

 

4.3

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:

 

  • cyfeirio'r Memorandwm Atodol ar y Bil Diogelwch Ar-lein a osodwyd ar 28 Medi ar gyfer craffu at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 8 Rhagfyr;
  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio a osodwyd ar 28 Medi ar gyfer craffu at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 8 Rhagfyr;
  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Protocol Gogledd Iwerddon a osodwyd ar 29 Medi ar gyfer craffu at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 7 Tachwedd.

 

 

5.

Diwygio’r Senedd

5.1

Dull o ystyried argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ei ddull o ystyried sawl argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, gyda’r nod o ddarparu casgliadau i lywio datblygiad cyfarwyddiadau polisi ar gyfer Bil Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio’r Senedd.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud yr hyn a ganlyn:

 

  • ymgynghori ag Aelodau a Grwpiau Pleidiau ar y pedwar argymhelliad: maint Llywodraeth Cymru, nifer y Dirprwy Lywyddion a nifer Comisiynwyr y Senedd mewn Senedd fwy o faint; a beth fydd yn digwydd os bydd Aelod o’r Senedd yn newid ei blaid wleidyddol rhwng etholiadau.
  • gwahodd safbwyntiau gan randdeiliaid i lywio ei drafodaethau ar y materion a nodir uchod;
  • gwahodd safbwyntiau gan y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd ar nifer y Dirprwy Lywyddion ddylai fod mewn Senedd fwy;
  • gwahodd safbwyntiau gan Gomisiwn y Senedd ar nifer Comisiynwyr y Senedd ddylai fod mewn Senedd fwy;
  • gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth am waith cwmpasu a dadansoddi a gynhaliwyd ar nifer Gweinidogion Cymru mewn Senedd fwy, a beth fydd yn digwydd os bydd Aelodau yn newid eu plaid wleidyddol rhwng etholiadau;
  • ystyried enghreifftiau o sut yr ymdrinnir ag Aelodau sy'n newid eu plaid wleidyddol rhwng etholiadau mewn seneddau â systemau etholiadol tebyg.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gynnal gweithdy technegol gyda swyddogion y Senedd a Llywodraeth Cymru cyn toriad hanner tymor yr hydref. Cytunodd i drafod y materion hyn a’r dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y slotiau cyfarfod sydd wedi’u trefnu ym mis Tachwedd. Cynhelir cyfarfodydd yn gyhoeddus lle bo hynny’n briodol.

 

 

5.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) – amserlen

 

Nododd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth a ddaeth i law gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a chytunodd i ddarparu’r wybodaeth y gofynnodd y Pwyllgor hwnnw amdani.

 

Amserlen y pwyllgorau – gwrthdaro amserlenni Aelodau

 

Fe wnaeth y Pwyllgor Busnes ddychwelyd at drafodaeth ar y mater yn ymwneud â chydamseru'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol a godwyd gan Siân Gwenllian yn y cyfarfod blaenorol. Fe wnaeth y swyddogion roi gwybod am yr ymdrechion gan dimau clercio i gydlynu busnes y ddau bwyllgor hwnnw er mwyn cyfyngu ar yr effaith ar yr Aelodau dan sylw, yn enwedig mewn perthynas â'r ymchwiliad presennol ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Diolchodd Siân Gwenllian i swyddogion y ddau bwyllgor am eu hymdrechion.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes nad yw'n debygol y bydd cydlynu mor agos rhwng pwyllgorau yn gynaliadwy, ac nad yw'n ateb tymor hir i'r sefyllfa.