Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog yr wythnos hon a thynnodd sylw Rheolwyr Busnes at y newidiadau canlynol:

Dydd Mawrth

  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad Ariannol Llywodraeth y DU (45 munud) 
  • Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd:  Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (60 munud) – aildrefnwyd o eitem 3 i eitem 8
  • Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip: Treftadaeth y Byd yng Ngogledd Orllewin Cymru (30 munud) - gohiriwyd tan 4 Hydref 

 

  • Ni fydd cyfnod pleidleisio.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm.

 

Dydd Mercher 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 4 Hydref 2022 –

 

·         Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip: Treftadaeth y Byd yng Ngogledd-orllewin Cymru (30 munud) - gohiriwyd o 27 Medi

 

Nododd y Trefnydd fod y Llywodraeth yn ystyried a fyddai modd symud unrhyw eitemau o fusnes ymlaen o 11 Hydref i 4 Hydref er mwyn gwella cydbwysedd y busnes sydd wedi'i drefnu ar gyfer y cyfarfodydd hynny.

 

Dydd Mawrth 11 Hydref 2022 –

 

·         Rheoliadau’r Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 (15 munud) - gohiriwyd tan 18 Hydref 

·         Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022 (15 munud) - gohiriwyd tan 18 Hydref 

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i newid y cwestiynau llafar i Weinidog yr Economi ar 12 Hydref gyda naill ai’r cwestiynau llafar i'r Gweinidog Newid Hinsawdd neu Weinidog y Gymraeg ac Addysg, a drefnwyd ar gyfer 19 Hydref, yn amodol ar gael cadarnhad gan y Llywodraeth.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 19 Hydref 2022 –

 

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Ynni adnewyddadwy yng Nghymru (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus – Comisiynu Cartrefi Gofal (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 5 Hydref.

 

NNDM8074

Mark Isherwood

 

Cyd-gyflwynwyr:

Rhun ap Iorwerth

Sam Rowlands

Tom Giffard

Mabon ap Gwynfor

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:   

a) yr effaith a gaiff meigryn ar yr 1 ym mhob 10 plentyn a pherson ifanc sy'n byw gyda'r cyflwr, gan gynnwys yn yr ysgol a'u bywydau o ddydd i ddydd; 

b) bod pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt yn aml yn nodi ei fod yn ei gwneud hi'n anoddach i wneud eu gwaith ysgol, gan olygu y gall y cyflwr effeithio ar eu cyrhaeddiad addysgol heb gymorth priodol, yn ogystal ag amharu ar eu bywyd teuluol a chymdeithasol; 

c) bod ymchwil gan y Migraine Trust yn awgrymu nad yw gweithwyr addysg a gweithwyr iechyd proffesiynol yn aml yn deall meigryn, ac yn aml nid oes ganddynt fynediad at hyfforddiant ac adnoddau i roi cefnogaeth effeithiol i blant a phobl ifanc y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt; 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag'r Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol ar gyfer ysgolion, gwasanaethau iechyd, a rhieni/gofalwyr er mwyn: 

a) cryfhau'r canllawiau; 

b) darparu hyfforddiant ar sut i gefnogi a darparu ar gyfer pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt; a 

c) darparu adnoddau i rieni/gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn ac i'r bobl ifanc eu hunain ar sut i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain. 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith - Y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes yr ohebiaeth a dderbyniwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a chytunodd i ymateb i'r llythyr. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â chyfeirio'r Bil at Bwyllgor cyfrifol i ystyried yr egwyddorion cyffredinol yn sgil y gwaith y mae'r Pwyllgor wedi gallu ei wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac i gytuno ar yr amserlen arfaethedig i ystyried y Bil.

 

 

5.

Adolygu Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell

5.1

Drafft o ganllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canllawiau yn amodol ar ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion ar yr elfennau sy'n ymwneud â busnes pwyllgorau yn ei gyfarfod nesaf. Caiff y canllawiau diweddaraf sy'n ymwneud â busnes y Cyfarfod Llawn eu cyhoeddi a'u darparu i'r Aelodau ar ôl datrys ymholiad technegol yn ymwneud â'r defnydd o iPads gan yr Aelodau ar gyfer pleidleisio, gyda'r canllawiau terfynol i ddilyn ar ôl ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion.

 

 

6.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol 

 

Rhoddodd y Trefnydd ddiweddariad ar lafar ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol yn ymwneud â Bil y Bil Hawliau a’r Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol. Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor na fydd Llywodraeth Cymru'n cyflwyno Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Biliau hyn ar hyn o bryd oherwydd ansicrwydd ynghylch eu taith yn San Steffan, ond bydd yn rhoi diweddariad pellach unwaith y daw'r sefyllfa'n gliriach.

 

Diwygio’r Senedd

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd papur yn cynnwys rhagor o fanylion am y dull arfaethedig o ystyried materion yn ymwneud â Bil Diwygio'r Senedd sydd yn yr arfaeth yn cael ei gyflwyno i'w ystyried yn y cyfarfod ar 4 Hydref, ac y rhoddir cyfle i Reolwyr Busnes gael sesiwn friffio gyda swyddogion sy'n cefnogi'r Pwyllgor Busnes cyn hynny.

 

Amserlen y Pwyllgorau

Cododd Siân Gwenllian fater yn ymwneud â chydamseru'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r effaith ar aelodau grŵp Plaid Cymru, oherwydd bod y pwyllgorau'n gwneud defnydd rheolaidd o'u slotiau wrth gefn. Nododd y Pwyllgor Busnes fod y newidiadau i'r amserlen wedi eu gwneud mewn ymateb i geisiadau'r pwyllgorau am fwy o amser cyfarfod, ac nad oedd gwrthdaro ar hyn o bryd o ran aelodaeth o fewn yr amserlen. Cytunwyd y byddai swyddogion yn trafod y mater presennol yn uniongyrchol gyda'r pwyllgorau o dan sylw er mwyn nodi unrhyw ddatrysidau ymarferol.